Noah Herniman
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae Noah yn fyfyriwr celfyddydau perfformio 17 oed sy'n byw yng Nghas-gwent. Yn 2021, cafodd Noah ddiagnosis o diwmor anweithredol ar yr ymennydd. Bu’n rhaid iddo ddioddef misoedd o driniaeth flinedig, ond er gwaethaf hyn mae'n mynychu’r coleg llawn amser ac mae hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau codi arian.
Cyn cael diagnosis, roedd Noah wedi codi £25,000 ar gyfer elusennau amrywiol drwy bob math o weithgareddau codi arian. Dringodd i gopa Pen-y-Fan i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, abseiliodd oddi ar Bont Gludo Casnewydd i godi arian ar gyfer Bullies Out, a bu hefyd ar deithiau cerdded di-ri, rasys rhedeg ac yn gwerthu cacennau.
Ym mis Ebrill 2022 penderfynodd Noah ei fod am ddarparu lle i deuluoedd greu atgofion wrth gael triniaeth ar gyfer canser neu salwch difrifol arall. Cododd ddigon o arian i brynu cartref gwyliau 'Noah's Retreat' sydd bellach yn cael ei redeg gan elusen Kidscancer. Bydd hyn yn helpu hyd at 80 o deuluoedd i gael gwyliau gyda’i gilydd a gwneud atgofion gwerthfawr yn ystod cyfnod anodd iawn.
Mae Noah hefyd wedi sefydlu prosiect o'r enw 'Make Someone Smile' lle mae 7,000 o wyau Pasg wedi cael eu rhoi i Cyfannol a Llamau. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae hefyd wedi codi arian ar gyfer Noah’s Retreat ac mae bob amser yn brysur yn codi ymwybyddiaeth am ymchwil tiwmorau'r ymennydd.