Fare Share Cymru
Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd enillydd 2024
Cred FareShare Cymru yw na ddylid gwastraffu unrhyw fwyd da. Maent yn cymryd bwyd o ansawdd da sydd dros ben o'r diwydiant bwyd ac yn ei ailddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Gan droi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol rmaen nhw’n yn helpu i gryfhau cymunedau ac wedi cefnogi dros 355 o elusennau a grwpiau cymunedol, gan arbed dros 5710 tunnell o fwyd rhag cael ei wastraffu. Hyd yma mae'r bwyd hwnnw wedi cyfrannu at dros 17 miliwn o brydau bwyd ac wedi arbed amcangyfrif o 17,644t CO2e. Dywedodd aelod o'r gymuned:
"Rwy'n credu bod pobl wir yn bondio dros fwyd. Mae'n ffordd hawdd o wneud i rywun wenu a gwneud i bobl agor allan ‘chydig. Pan fydd eich bol yn llawn, mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'ch lles cyffredinol. Rydyn ni wir wedi dod â'r gymuned yn agosach at ei gilydd, a fyddem ni byth wedi gallu gwneud dim o hyn heb FareShare."
Mae’r elusen hon yn ychwanegu gwerth gwirioneddol, ac yn dod a chanlyniadau arwyddocaol a gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac i'r amgylchedd.