Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw rydym ni’n cyhoeddi gwerthusiad interim o’r gwaith yn y saith ardal awdurdod lleol braenaru i dreialu’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi. Rydym ni hefyd yn cadarnhau cyfeiriad y grant at y dyfodol gydol gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan allweddol yn yr awdurdodau lleol braenaru a helpu i ddatblygu a threialu’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi. Mae hyn wedi gofyn am gryn ymrwymiad gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ac rydym yn unedig yn ein hymrwymiad i wella canlyniadau ar gyfer unigolion a chymunedau sy’n elwa ar wasanaethau a ariennir gan y grant hwn.
Yn ystod 2018-19, aethom ati i dreialu ffordd newydd o weithio mewn saith awdurdod lleol ac ar lefel bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Nod y gwaith hwn oedd dwyn ynghyd nifer o grantiau i gryfhau gallu awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddarparu gwasanaethau ataliol sy’n canolbwyntio ar sicrhau ymyrraeth gynnar i’r rhai yn yr angen mwyaf.
Mae’r gwerthusiad interim yn dangos y potensial i sicrhau canlyniadau gwell drwy wasanaethau mwy integredig. Rhaid mai cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu cymhlethdodau bywydau pobl a’r rhyngberthynas rhwng eu hanghenion cymorth yw’r dull gweithredu cywir. Dim ond ychydig fisoedd yn ôl y dechreuodd yr ardaloedd braenaru ar eu gwaith ond mae’r arwyddion cynnar i’w gweld yn addawol.
Mae’r gwerthusiad wedi tynnu sylw at wahanol safbwyntiau am y cyfleoedd i alinio’r grantiau sydd wedi’u cynnwys yn y trefniadau braenaru. Mae’r grantiau cysylltiedig â thai sy’n rhan o’r Grant Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn alinio’n naturiol, felly hefyd y grantiau nad ydynt yn gysylltiedig â thai. Mae’r gwerthusiad interim yn dangos bod rhai o’r ardaloedd braenaru wedi llwyddo i alinio’r ddau faes hwn a bydd angen ymchwilio ymhellach i weld a oes modd efelychu hyn ym mhob awdurdod lleol a sut gellid gwneud hynny.
Ar ôl ystyried canlyniadau’r gwerthusiad yn ofalus, rydym wedi penderfynu y dylem rannu’r Grant Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn ddau, gan wahanu’r grantiau cysylltiedig â thai o’r elfennau nad ydynt yn gysylltiedig â thai ar gyfer pob awdurdod lleol.
O ganlyniad, o fis Ebrill 2019, byddwn yn bwrw ati i sefydlu Grant Plant a Chymunedau, sy’n cwmpasu Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Y Gronfa Waddol, Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol Ymhlith Pobl Ifanc, Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, Cymunedau am Waith a Mwy, a Gofal Plant a Chwarae.
Hefyd, byddwn yn cyflwyno un Grant Cymorth Tai sy’n cwmpasu Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru.
Bydd y trefniadau hyn yn parhau ar waith am weddill tymor y Cynulliad hwn a byddant yn berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Byddant yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n ofalus i sicrhau bod y pryderon a fynegwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael sylw.
Credwn fod gan y dull hwn nifer o fanteision. Bydd yn ein galluogi i weithio gyda’n partneriaid i gyd i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol yn cael eu hintegreiddio mor effeithiol â phosibl a bydd yn sicrhau ein bod ni’n gallu ystyried yn llawn y dystiolaeth a’r argymhellion sy’n deillio o’r pwyllgorau a’r adolygiadau diweddar. Bydd dyfodol y grantiau hyn yn cael ei bennu gan dystiolaeth o’r canlyniadau i bobl a chymunedau Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’n rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys drwy ddarparu cymorth i’r rhai nad ydynt ymhlith yr ardaloedd braenaru, er mwyn cyflwyno’r trefniadau newydd i bwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal.
Mae’r adroddiad gwerthuso interim ar gael yn https://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-flexible-funding-programme/?lang=cy