Mae’r canllaw hwn ar gyfer y rhai sy’n trefnu digwyddiadau dan do neu awyr agored, ffeiriau, cyngherddau, marchnadoedd a gwyliau yng Nghymru a allai fod yn gweithredu ar sail ddielw neu’n fasnachol.
Cynnwys
Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.
Mae’n berthnasol i ddigwyddiadau bach dros dro sy’n cael eu cynnal am gyfnod o oriau yn ogystal â digwyddiadau mwy sy’n cael eu cynnal am rai dyddiau, a p’un a ydynt yn cynnwys darpariaeth gwersylla ai peidio. Mae’r gyfraith yn berthnasol boed y digwyddiad neu ŵyl yn cael ei chynnal ar dir agored cyhoeddus fel mewn parciau, marchnadoedd, priffyrdd (pan roir caniatâd i gau’r ffordd) neu ar dir preifat.
Pam mae angen ichi ailgylchu
O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.
Beth i’w ailgylchu
- Papur a cherdyn,
- Gwydr,
- Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau eraill tebyg, er enghraifft, cwpanau coffi),
- Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol,
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu, a
- Tecstilau heb eu gwerthu.
Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu. Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr.
Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.
Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer
Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Dylech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.
Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.
Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd.
Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo.
Gallai ailgylchu eich helpu i leihau costau rheoli gwastraff yn eich digwyddiad, gan sicrhau eich bod yn dilyn y gyfraith newydd ac yn helpu’r amgylchedd.
Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Os nad ydych erioed wedi cynnal eich digwyddiad o'r blaen, meddyliwch am y mathau o wastraff a fydd yn cael eu cynhyrchu. Os bydd gwerthwyr bwyd neu ddiodydd a stondinwyr ar y safle, mae’n debygol mai gwastraff bwyd a deunydd pacio fydd y gwastraff mwyaf amlwg a gynhyrchir yn eich digwyddiad.
Mae angen i chi benderfynu a ydych am ddarparu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich gwerthwyr neu stondinwyr, neu a fyddwch yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr a stondinwyr fod yn gyfrifol am gael gwared ar eu gwastraff eu hunain. Mae ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn fel trefnydd digwyddiad yn sicrhau eich bod yn gwybod fod yr holl wastraff ac ailgylchu wedi cael ei waredu mewn modd cyfrifol ac yn unol â’r gyfraith newydd. Os penderfynwch mai gwerthwyr a deiliaid stondinau fydd yn gyfrifol am eu gwastraff eu hunain, dylai eich cytundeb gyda nhw gynnwys gofyniad iddynt gydymffurfio â’r gyfraith newydd.
Gallai gwneud archwiliad gwastraff fod yn ffordd ddefnyddiol o weld pa fath o wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Os ydych wedi cynnal eich digwyddiad o’r blaen, dylech fod yn ymwybodol o’r mathau a symiau o wastraff a fydd yn cael ei gynhyrchu. Defnyddiwch hwn i’ch helpu i feddwl am faint o gynwysyddion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer ailgylchu a gwastraff er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ailgylchu newydd.
Gallai’r meysydd yr ydych yn fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff gynnwys:
- Gan ddeiliaid stondinau, arddangoswyr, arlwywyr symudol, a cheginau ar y safle sy’n cynhyrchu bwyd (gwastraff paratoi), deunydd pacio fel metel, gwydr, cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio
- Blaen y tŷ – pecynnau bwyd a bwyd, caniau diod, poteli plastig a gwydr, a chartonau diodydd ac
- Ardaloedd cefn y llwyfan, ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – pecynnau bwyd a bwyd, caniau diod, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, nwyddau trydanol bach, a thecstilau.
Efallai y bydd digwyddiadau hefyd yn cynhyrchu mathau o wastraff peryglus, fel paent, olewau neu gemegau sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Os yw eich digwyddiad neu ŵyl yn cael ei chynnal ar dir nad ydych yn berchen arno, gall y tirfeddiannwr wahardd defnyddio mathau penodol o wastraff. Er enghraifft, os yw'r digwyddiad mewn parc neu ar y briffordd, ni fydd rhai tirfeddianwyr yn caniatáu defnyddio gwydr. Os felly, defnyddiwch y telerau ac amodau yn eich cytundebau masnachwr neu arlwyo i atal defnyddio eitemau gwaharddedig, a mynnu bod dewisiadau eraill fel pecynnau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hail-lenwi yn cael eu defnyddio yn lle hynny.
Os yw’ch digwyddiad ar dir cyhoeddus neu ar y briffordd gyhoeddus, mae’n debygol y byddwch yn gyfrifol am symud yr holl wastraff a chasglu sbwriel ar ôl y digwyddiad, sy’n golygu mai chi fydd yn gyfrifol am gosbau os na chaiff yr ardal ei gadael yn lân ac yn daclus wedyn. Gwiriwch delerau ac amodau eich trwydded digwyddiad, cytundeb, prydles, neu drwydded i benderfynu ar eich cyfrifoldebau.
Trefnwyr digwyddiadau sy’n gyfrifol am asesu risgiau sy'n gysylltiedig â storio, trin neu ddefnyddio gwastraff a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith i osgoi a rheoli unrhyw risgiau a nodwyd. Gallai’r peryglon sy’n gysylltiedig â rheolaeth gwastraff gwael mewn digwyddiadau gynnwys:
- Croniadau o wastraff sy’n rhwystro mynediad brys neu lwybrau dianc, sy’n achosi peryglon baglu neu dân ac yn denu fermin – gallwch leihau risgiau iechyd a drwy sicrhau bod mannau storio gwastraff wedi’u lleoli i ffwrdd o ffynonellau fflamadwy a bod deunyddiau fflamadwy fel cardbord yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio neu ddiogel;
- Man storio gwastraff amhriodol ac amseroedd casglu – dewch o hyd i fan (neu fannau) storio gwastraff addas gyda mynediad cyhoeddus cyfyngedig sy’n atal cerbydau casglu gwastraff rhag dod ar draws ymwelwyr. Ystyriwch fesurau lliniaru cymesur sy'n cyd-fynd â maint a graddfa eich digwyddiad ac
- Anafiadau i weithwyr o ganlyniad i drin gwastraff, er enghraifft, anafiadau gan nodwyddau, straeniau cefn a achosir gan ormod o symud â llaw, a haint posibl gan bathogenau fel tetanws.
Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.
Ymhlith y ffyrdd y gallwch leihau faint o wastraff a gynhyrchir yn eich digwyddiad mae:
- Darparu e-docynnau, canllawiau electronig a mapiau i ymwelwyr;
- Nodi y dylid defnyddio cynhyrchion eilgylch neu y gellir eu hailgylchu yn yr amodau masnachu ar gyfer deunyddiau hyrwyddo neu ar gyfer cynhyrchion gwasanaeth bwyd;
- Annog arlwywyr neu werthwyr i ddarparu cwpanau neu wydrau y gellir eu hail-lenwi, sefydlu cynllun blaendal a dychwelyd ar gyfer cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, neu annog mynychwyr i ddod â’u cwpanau eu hunain gan gynnig gostyngiad ar ddiodydd;
- Darparu gorsafoedd ail-lenwi (refill.org);
- Cyfyngu ar ba nwyddau y caiff ymwelwyr, cyflenwyr, gwerthwyr neu arlwywyr ddod â nhw i’r lleoliad. Annog peidio â defnyddio eitemau untro fel pecynnau saws, llaeth, siwgr neu goffi unigol ac
- Annog arlwywyr i roddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim ar ddiwedd y digwyddiad. Mae Canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd
Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wneud yn hollol siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu;
Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
Trefnwch wasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu ymhell cyn eich digwyddiad i sicrhau y gall casglwr ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch; dylai hyn fod yn rhan o'ch cynllunio digwyddiad cychwynnol. Cyn siarad â chasglwr ailgylchu i gaffael neu drefnu gwasanaeth ailgylchu, meddyliwch am:
- Faint o wastraff y byddwch yn debygol o’i gynhyrchu yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys faint o gynwysyddion a lleoliadau y byddwch yn casglu gwastraff a deunyddiau ailgylchadwy ohonynt. Mae’n bwysig ystyried a fydd gwastraff a gynhyrchir ar y safle yn cael ei gasglu a’i symud i gynwysyddion masnachol mwy neu a fydd angen i’r casglwr gyflenwi a gwagio cynwysyddion o bob rhan o’r lleoliad;
- A fydd angen casgliadau ar adegau penodol o amserlen y digwyddiad arnoch, er enghraifft, ar ddiwedd bob dydd neu pan fo’r digwyddiad wedi dod i ben, er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cyfeiriwch at eich asesiad risg a'r mesurau lliniaru a nodwyd i leihau peryglon sy'n ymwneud â'r casgliadau gwastraff y bydd angen i'ch contractwr eu gwneud;
- Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a
- Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi.
Os ydych yn llogi cynwysyddion, sicrhewch fod eich casglwr penodedig yn cael gwybod pryd a ble i ddosbarthu eich cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu yn ogystal â phryd i'w symud o'r safle. Os ydych chi'n rhagweld y bydd swm y gwastraff yn uchel, efallai y bydd angen i chi drefnu casgliadau trwy gydol y digwyddiad neu'r ŵyl.
Lle ar gyfer eich biniau
Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.
Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:
- yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff,
- ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa,
- yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy a gynhyrchir a’u storio rhwng casgliadau,
- yn cael eu gwirio'n rheolaidd trwy gydol y digwyddiad i osgoi gorlenwi a halogi,
- ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid,
- wedi’u lleoli’n agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu,
- yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd,
- yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i ailgylchu ddianc nac i ddŵr glaw fynd i mewn,
- yn ddigon cadarn a chryf i wrthsefyll y tywydd a chael eu defnyddio a'u gwagio'n barhaus yn ystod eich digwyddiad ac
- yn ddigon pell oddi wrth bebyll neu garafanau fel nad ydynt yn achosi perygl iechyd neu dân.
Mae’n bwysig:
- labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi ar wefan y Busnes o Ailgylchu, ac
- atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.
Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi unrhyw broblemau rheoli plâu.
Mae angen i fannau storio gwastraff fod yn hygyrch i gerbydau casglu ac wedi'u lleoli'n ddelfrydol ar dir solet i sicrhau bod cerbydau a gweithwyr yn gallu mynd at y biniau a'u symud yn hawdd ac yn ddiogel, hyd yn oed os yw cyflwr y tir yn wlyb. Pan bynnag y bo modd, ni ddylai cerbydau casglu gwastraff weithredu mewn mannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Fodd bynnag, os oes rhaid i gerbyd casglu gwastraff groesi ardaloedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd, sicrhewch fod eich casglwr yn cael ei hysbysu y dylai cyflymderau teithio fod yn araf iawn h.y. 5mya a bod ganddynt weithwyr yn cerdded o flaen a thu ôl i unrhyw gerbyd sy’n symud i leihau’r risg o wrthdrawiadau a damweiniau.
Gall halogiad a achosir gan roi eitemau anghywir mewn biniau atal eich deunyddiau ailgylchadwy rhag cael eu casglu i'w hailgylchu a gall arwain at gostau cosb. Sicrhewch fod biniau ailgylchu wedi'u labelu'n gywir i atal camgymeriadau rhag digwydd.
Gwastraff bwyd a hylendid
Mae canllawiau ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff bwyd i'ch helpu i waredu gwastraff yn iawn i fodloni'r gyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff presennol.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu arweiniad sy’n golygu bod angen ichi:
- storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
- soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd,
- mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau; ac
- yn hawdd eu glanhau a’u diheintio.
- symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
- bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.
Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu cynnwys yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.
Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn.
Cyfeiriwch at ein canllaw ar gyfer y sector lletygarwch am ragor o syniadau ar ailgylchu gwastraff bwyd.
Syniadau hyfforddi staff
- Arfogwch staff a gwirfoddolwyr ag offer amddiffynnol priodol iddynt ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau codi sbwriel neu wagio biniau yn ystod y digwyddiad;
- Sicrhewch eu bod yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu i leihau halogiad;
- Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd. Mae hyn yn cynnwys nodi risgiau a sut i’w lliniaru;
- Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
- Ystyriwch faint y cynwysyddion, yn enwedig y rhai ar gyfer gwastraff bwyd, er mwyn lleihau’r risgiau codi a chario i unrhyw un sy’n gwagio cynwysyddion i finiau mwy;
- Anogwch staff i ddweud wrthych sut mae pethau’n gweithio trwy gydol y digwyddiad a gwnewch newidiadau yn ôl yr angen a
- Ceisiwch adborth gan y staff ar ôl y digwyddiad i nodi a gweithredu ar unrhyw welliannau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Ymgysylltu ag ymwelwyr, masnachwyr neu werthwyr a staff
Os ydych yn cymryd cyfrifoldeb am reoli gwastraff ar gyfer gwerthwyr a stondinwyr, sicrhewch eu bod yn deall eu cyfrifoldebau a’u trefniadau ar gyfer ailgylchu a rheoli gwastraff a rhowch ddigon o gapasiti biniau iddynt sicrhau y gallant ailgylchu fel sy’n ofynnol dan y gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd.
Mae'n syniad da hyrwyddo'r gwasanaethau ailgylchu digwyddiadau i ymwelwyr yn y deunydd gwybodaeth a hyrwyddo cyn y digwyddiad. Gellir cynnwys hyn hefyd mewn unrhyw negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth sydd ar gael yn ystod y digwyddiad ar-lein neu ar fyrddau arddangos digidol yn y digwyddiad.
Ar ôl eich digwyddiad, gofynnwch i'ch casglwr gwastraff ac ailgylchu am wybodaeth ar faint o wastraff gafodd ei gynhyrchu a’i ailgylchu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i adolygu sut y gallech gynyddu ailgylchu mewn digwyddiadau yn y dyfodol ac ystyriwch osod targedau i leihau gwastraff neu ailgylchu mwy. Yna gellir rhannu unrhyw lwyddiannau gyda rhanddeiliaid eich digwyddiad, e.e. cymunedau lleol, a gyda masnachwyr a gwerthwyr, ar bwysigrwydd eu rhan yn y llwyddiant.
Gallwch ddefnyddio adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.
Cyngor pellach i’r sector digwyddiadau
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.
A Greener Future – cynllun ardystio sy’n helpu digwyddiadau a gwyliau fod yn ecogyfeillgar ac yn gynaliadwy.
Future Festival tools – adnoddau, offerynnau a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant gwyliau i helpu lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant.
Canllaw sbwriel mewn digwyddiadau Cadw Cymru’n Daclus – canllaw i’w lawrlwytho sy’n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar gyfer taclo sbwriel mewn digwyddiadau.
Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig (WRAP). Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.
Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd (WRAP) yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd (WRAP).
Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub (WRAP) helpu, sydd hefyd ar gael ar wefan WRAP.