Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau gwario ar gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21.
Yn ogystal â nodi cynigion gwario refeniw a chyfalaf y Llywodraeth, mae’r Gyllideb ddrafft yn rhoi manylion am ein cynigion trethi a benthyca wrth i ni weithredu'r cyfrifoldebau ariannol newydd sydd wedi dod i Gymru.
Bydd Cyllideb 2019-20 yn cynnwys, am y tro cyntaf, refeniw trethi o gyfraddau treth incwm Cymru, sydd i’w cyflwyno ym mis Ebrill 2019.
Yn unol â'r trefniadau newydd y cytunwyd arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y Gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Y Gyllideb ddrafft amlinellol a gyhoeddir heddiw yw'r cam cyntaf, sy'n manylu ar ariannu, trethiant a dyraniadau ar lefel Prif Grŵp Gwariant (MEG). Bydd y Gyllideb ddrafft fanwl yn cael ei chyhoeddi ar 23 Hydref a bydd yn nodi’r cynlluniau gwario manwl fesul portffolio.
Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynigion y Gyllideb ddrafft amlinellol
- Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft amlinellol, gan gynnwys yr asesiad effaith integredig strategol
- Taflen am y Gyllideb ddrafft amlinellol
- Adroddiad y Prif Economegydd
- Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru
Mae'r dogfen canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael yma: