Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Efallai fod aelodau yn ymwybodol o ddyfarniadau llys a wnaed yn ddiweddar yn ymwneud â'r angen i gymryd camau cyfreithiol ym mhob achos cyn bod triniaeth cynnal bywyd yn cael ei thynnu'n ôl wrth bobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled-anymwybodol. Fis Medi y llynedd, daeth y Llys Gwarchod i’r casgliad mewn dyfarniad pwysig y byddai penderfyniadau i dynnu'n ôl maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol, a wneir gan glinigwyr yn unol â'r canllawiau proffesiynol cyffredinol a’r fframweithiau statudol perthnasol, yn gyfreithlon. Roedd y llys yn awyddus i bwysleisio, fodd bynnag, ei fod wastad ar gael pan fo anghytundebau yn codi, neu pan deimlir y dylid cyflwyno achos i’r llys am ryw reswm arall.
Mae'r materion hyn yn gymhleth, yn sensitif ac yn bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau yn agos. Yn y cyfamser, rwyf am fod yn sicr bod gan y rheini sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal yma yng Nghymru yr adnoddau angenrheidiol i ymdrin â materion o'r fath, pe baent yn gorfod eu hwynebu. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cymryd nifer o gamau i ddeall y sefyllfa bresennol yng Nghymru, mewn perthynas â phobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled-anymwybodol. Yn hyn o beth, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru i asesu'r nifer posibl o achosion yng Nghymru a chael sicrwydd bod eu diagnosis, eu gofal a'u triniaeth er eu budd nhw eu hunain.
Rydym yn awyddus i weld gwersi’n cael eu dysgu o brofiad cleifion yng Nghymru a’u teuluoedd. Rwyf wedi gofyn i’r Athro y Farwnes Finlay o Landaf, cyn arweinydd clinigol ar gyfer gofal lliniarol Cymru a chadeirydd presennol Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol Cymru a Lloegr arwain adolygiad o’r penderfyniad mewn achos penodol sydd wedi cael ei ddwyn i’m sylw. Bydd gweithiwr cymdeithasol cofrestredig, Rachel Griffiths MBE, sydd â dealltwriaeth dda o’r ffordd yr oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud cyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005, , ac wedi hynny, ynghyd â bargyfreithiwr sydd wedi ymddeol, Gerard Elias CBE QC, yn cefnogi’r Athro Finlay.
Rwyf hefyd wedi gofyn i Ddirprwy Swyddog Meddygol Cymru gynnull ynghyd grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a oes angen rhagor o ganllawiau, addysg neu hyfforddiant ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Nid wyf yn cynnwys manylion llawn yn y datganiad hwn, er mwyn parchu preifatrwydd y teulu dan sylw.