Sut rydym yn cefnogi pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol i ddod yn athrawon.
Cynnwys
Trosolwg
Mae ein Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn ystyried yr hyn y gellir ei wneud i recriwtio mwy i raglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA).
Rydym yn adolygu cynnydd a diweddaru’r cynllun yn unol â datblygiadau.
Cynlluniau recriwtio partneriaethau AGA
Mae partneriaethau AGA yn gweithio i ddenu pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i addysgu, a’u cefnogi nhw drwy'r broses. Nod hyn yw sicrhau bod unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwahaniaethu yn cael eu trin yn briodol.
Mae partneriaethau AGA wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio. Mae'r rhain yn dangos sut y byddant yn annog ac yn cefnogi mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddod yn athrawon. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi partneriaethau AGA i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynlluniau hyn:
- CaBan (Prifysgol Bangor)
- Partneriaeth Caerdydd
- Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
- Y Brifysgol Agored
- Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon Prifysgol De Cymru
- Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae partneriaethau AGA yn adolygu cynnydd yn erbyn eu cynlluniau ac yn eu diweddaru lle bo angen.
Cefnogaeth i bobl ddod yn athrawon
Addysgwyr Cymru
Ar gyfer y rhai sy’n ystyried gyrfa mewn addysg, mae Addysgwyr Cymru yn cynnig:
- gwybodaeth, cyngor a chymorth
- gweithdai ar y broses ymgeisio a chyfweld er mwyn helpu myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i wneud cais i raglenni AGA
- gweithgareddau hyrwyddo a digwyddiadau allgymorth mewn cymunedau ethnig lleiafrifol ledled Cymru
- porth swyddi, un o’r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru
Partneriaethau AGA
Partneriaethau AGA sy'n darparu hyfforddiant i athrawon. Gallant gynnig cymorth:
- cyn y broses ymgeisio
- yn ystod y broses ymgeisio
- drwy gydol rhaglenni AGA
Dylech siarad yn uniongyrchol â'r bartneriaeth AGA rydych yn ystyried gwneud cais iddi. Byddant yn gallu cadarnhau pa gymorth y maent yn ei darparu.
Cymhellion AGA ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
Mae grant o £5,000 ar gael drwy'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol. I gael y cymhelliant hwn, rhaid i fyfyrwyr:
- fod ar raglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- bodloni'r meini prawf cymhwystra, gan gynnwys meini prawf ethnigrwydd
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL)
Mae DARPL yn gymuned dysgu proffesiynol. Mae DARPL yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu:
- dealltwriaeth o wrth-hiliaeth
- ymarfer gwrth-hiliol
Mae DARPL yn cefnogi dysgu proffesiynol i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ar eu taith i ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol.
Mae gan DARPL gampws rhithwir. Mae'r campws yn darparu mynediad am ddim at y canlynol:
- dysgu proffesiynol
- adnoddau
- canllawiau ymarferol
- astudiaethau achos
- cymunedau ymarfer
- ymchwil
- cyhoeddiadau
- cyfres o adnoddau i athrawon ac athrawon dan hyfforddiant
Sianel YouTube Addysgu Cymru
Dewch i glywed sut beth yw bod yn athro yng Nghymru ar sianel YouTube Addysgu Cymru.