Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae angen cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da fel sail i'n taith ddiwygio genedlaethol. Yn ein cynllun gweithredu, 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-2021', gwneir ymrwymiad clir i ddenu a chadw mwy o raddedigion o ansawdd uchel i'r proffesiwn addysgu.
Ein nod yw datblygu cyfres gydlynol o lwybrau i addysgu, gan gefnogi athrawon newydd drwy addysg gychwynnol i athrawon i ennill Statws Athro Cymwysedig. Rydym eisiau i bob llwybr fod â'r un weledigaeth a dealltwriaeth o'r gweithlu addysgu yng Nghymru yn y dyfodol, a diwallu anghenion darpar athrawon talentog beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol (fel Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon a'r Consortia Addysg Rhanbarthol) ac ymgynghorwyr arbenigol (yn y meysydd addysg gychwynnol i athrawon, dysgu o bell a dysgu cyfunol yn benodol) i ddatblygu a mireinio ein cynigion.
Yn ogystal, mae cyflwyno'r pecyn cyllid newydd hael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer astudio'n rhan-amser, yn gyfle i ddatblygu Tystysgrif Addysg ran-amser i Raddedigion (TAR) er mwyn cefnogi addysg gychwynnol i athrawon.
Rydym yn cynnig datblygiad blaenllaw ym maes addysg gychwynnol i athrawon, sef TAR ran-amser newydd mewn partneriaeth â phrifysgolion a astudir wrth weithio mewn ysgol, sy'n cynnwys nifer o leoedd sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Y bwriad yw y byddai'r TAR ran-amser yn galluogi'r hyfforddeion i gynnal eu hymrwymiadau presennol, gan gynnwys eu cyflogaeth a'u hincwm, wrth astudio'n rhan-amser i fod yn athro. Bydd y ddarpariaeth newydd hon hefyd yn fodd i gynnig nifer o leoedd drwy lwybr seiliedig ar gyflogaeth, a fydd yn caniatáu i hyfforddeion gael eu cyflogi mewn ysgolion wrth astudio ar gyfer TAR ran-amser.
Ein nod yw chwalu'r rhwystrau daearyddol sy'n atal pobl rhag ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig. Bydd hyblygrwydd y llwybr rhan-amser newydd hwn i addysgu o bosibl yn darparu cyfleoedd i ehangu cyfranogiad y grwpiau hynny sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yng ngweithlu addysgu Cymru. Bydd hefyd yn cyfoethogi'r proffesiwn drwy gynyddu amrywiaeth a chaniatáu i'r rheini sydd â phrofiad o feysydd eraill a mwy o brofiadau bywyd yn gyffredinol ddechrau gyrfa mewn addysgu.
Ein nod cyffredinol mewn perthynas ag addysg gychwynnol i athrawon yw ysgogi proffesiwn addysgu brwdfrydig ac ymroddedig, sy'n cynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Rydym eisiau dileu unrhyw rwystrau daearyddol diangen a chynnal y gofynion mynediad o ansawdd uchel, er mwyn sicrhau bod y rheini sydd â'r arbenigedd a'r wybodaeth i gyfoethogi ein system addysg yn gallu ymuno â'r proffesiwn addysgu. Rhaid i'r llwybr newydd hwn fod yn hyblyg ac ystwyth a darparu cefnogaeth a datblygiad proffesiynol effeithiol, gan ddiwallu gofynion o ansawdd uchel y meini prawf achredu newydd.
Dylid nodi y gallai datblygu'r cynnig hwn yn llwyddiannus arwain at greu adnoddau a seilwaith ar-lein y gellid eu defnyddio y tu hwnt i addysg gychwynnol i athrawon. Gallai hefyd sicrhau bod yr adnoddau a'r dulliau gweithio ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol gydol gyrfa i athrawon.
Amserlen ddrafft:
- Mai - Medi 2018: Ymgysylltu cyn cyflwyno i'r farchnad a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ac opsiynau ar gyfer profiad mewn ysgol
- 5ed Mehefin: digwyddiad ymgysylltu cynigydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a gynhelir gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer addysg gyda’r Athro John Furlong
- Hydref 2018: Cyhoeddi'r fanyleb ar gyfer proses gaffael
- Chwefror 2019: Dyddiad dechrau arfaethedig y contract
- Blwyddyn academaidd 2019/20: TAR rhan-amser a llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth ar gael