Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y nodwyd ar Medi 14eg, roedd yn destun syndod a llawenydd i Lywodraeth Cymru glywed fis Awst diwethaf fod pâr o weilch y pysgod wedi penderfynu nythu ar safle Fferm Gilestone.  Mae gweilch y pysgod, yn rhywogaeth Atodlen 1 sy'n cael ei gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu gweld mor bell i'r de yng Nghymru ers tua 200 mlynedd. 

O ystyried pwysigrwydd hanesyddol y datblygiad hwn, mae lles yr adar a'u nyth wrth gwrs yn flaenoriaeth bennaf. Er mwyn eu diogelu, gwnaethon ni drefnu gyda chydweithrediad cofnodwyr adar lleol bod y safle'n cael ei warchod a bod system wyliadwriaeth yn cael ei gosod. Y llynedd fe wnaethom hefyd benodi arbenigwr mwyaf blaenllaw'r DU ar weilch y pysgod i lunio cynllun ar gyfer eu gwarchod ar fferm Gilestone. Y nod oedd cael cyngor ar sut orau i ofalu am y safle, gan geisio gwireddu yr un pryd ein huchelgais ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy, gan gynnwys y potensial i ddenu twristiaid wledig .

Derbyniais adroddiad yr arbenigwr ym mis Rhagfyr ac ar ôl ystyried ei argymhellion, a thrafod rhain gydag Arweinydd Powys a’r Dyn Gwyrdd, mae'n amlwg ei bod yn amhosibl mwyach wireddu amcanion masnachol ac elusennol llawn Grŵp y Dyn Gwyrdd, fel y'u nodir yn ei gynllun busnes. Y rheswm am hynny yw am fod yr adroddiad yn gofyn am greu parth gwarchod o 750m o gwmpas y nyth ar y fferm lle bydd cyfyngiadau trwm ar unrhyw weithgarwch gan bobl. Diogelu’r adar yw ac y bydd y flaenoriaeth fwyaf. 

Fel y nodwyd o'r blaen, mae'r uchelgais a ddisgrifir yng nghynllun busnes y Dyn Gwyrdd yn creu cyfleoedd i greu swyddi a buddsoddi yng nghefn gwlad Cymru. Mae hynny'n cefnogi'r blaenoriaethau strategol y mae Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi cytuno arnynt yng nghynllun gweithredu’r bartneriaeth, Tyfu Canolbarth Cymru. Mae dogfen gweledigaeth y Bartneriaeth yn nodi Blaenoriaethau Twf Strategol sy'n cynnwys twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesi, cefnogaeth i fenter, sgiliau a swyddi sy'n ategu'n glir y gweithgarwch y mae'r Dyn Gwyrdd wedi bod yn ei cynnig hyd yma.

Mae'r Dyn Gwyrdd yn ased masnachol a diwylliannol gwych i Gymru. Mae'r busnes Cymreig annibynnol arobryn hwn sydd wedi ymroi i gynaliadwyedd yn bartner cadarn i Lywodraeth Cymru ac rydym wedi'n cyffroi gan y cyfleoedd i alinio cryfder y brand ac ehangu gweledigaeth y busnes. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â'r Dyn Gwyrdd i helpu’r cwmni i sicrhau cartref tymor hir addas yng Nghymru, lle gellir gwireddu ei botensial cryf. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda nhw a'n partneriaid ehangach i'w helpu i wireddu’r nod hwn, fel yr ydym yn gweithio gydag amrywiaeth o fuddsoddwyr eraill o Gymru a thramor ledled Cymru. 

Mae'n bwysig bod buddsoddwyr yn teimlo'n hyderus yn ymroddiad Llywodraeth Cymru i ddenu'r cyfleoedd a'r swyddi all helpu cymunedau gwledig i ffynnu, yn enwedig y rhai sy'n rhoi'r modd i fwy o bobl ifanc gynllunio dyfodol amrywiol ac uchelgeisiol iddyn nhw eu hunain ar garreg eu drws – elfen graidd ein Cenhadaeth Economaidd. Mae'n bwysig hefyd bod buddsoddwyr yn teimlo'n hyderus yn nerth yr ymrwymiad hwnnw pan gaiff ei herio gan ymdrechion lobïo ffyrnig i newid polisi'r llywodraeth. Rydym bob amser yn barod i wrando ond nid yw Gweinidogion Cymru yn newid ein penderfyniadau oherwydd bygythiadau gan drydydd partïon, gan gynnwys lle codir materion sydd heb gysylltiad o gwbl ag amcanion y polisi dan sylw. Mae'n drueni bod y trafodaethau am Fferm Gilestone ambell waith wedi dirywio i’r categori hwn. 

Mae'r un mor siomedig bod swyddogion etholedig a phartneriaid busnes wedi bod yn destun ymosodiadau parhaus a phersonol ynglŷn â'r mater hwn. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn y Senedd, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y materion hyn o ddifrif ac mae'n destun pryder bod menywod yn benodol wedi dioddef beirniadaeth bersonol a sarhaus sydd heb le yn ein cymdeithas.

Mae’r ffaith bod gweilch y pysgod wedi cyrraedd ac wedi adeiladu nyth yn ddatblygiad hynod bwysig ym myd natur, ond er gwaethaf creu'r parth gwahardd yn Fferm Gilestone, mae cyfleoedd o hyd ar gyfer ffermio cynaliadwy a datblygu economaidd ar y safle. Rydym yn trafod â'r partneriaid perthnasol ynghylch y potensial i ddatblygu'r cyfleoedd hyn yn y tymor hwy. Wrth i ni ymgymryd â'r gwaith hwnnw, byddwn yn parhau i reoli'r fferm yn briodol. Rydym yn estyn hefyd y Denantiaeth Busnes Fferm er mwyn i ni allu trafod sut y gallwn ddefnyddio'r safle yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arfer hen egwyddorion wrth ddefnyddio a gwerthu tir ac eiddo, a seilir y penderfyniadau a wneir am y ddyfodol y fferm ar yr egwyddorion hynny. 

Mae fy swyddogion yn cwrdd â chynrychiolwyr cymunedol yn Nhal-y-bont-ar-Wysg i drafod Cynllun Cadwraeth y Gweilch a'r camau nesaf o ran rheoli'r safle.

Mae'n debyg bod gweilch y pysgod yn tueddu i ddychwelyd i'r un safle nythu maen nhw wedi’i ddewis ac yn wir i atgyfnerthu’r nyth a adeiladwyd. Gallwn felly ddisgwyl i’r adar ddychwelyd i Gilestone yn ystod gwanwyn eleni. Rwy'n hyderus y byddwn erbyn hynny wedi cytuno â phartneriaid ar ffordd ymlaen i'r safle a all helpu i wireddu'r manteision economaidd gynaliadwy arbennig iawn y gallai gweilch y pysgod eu cynnig i'r ardal.