Asesiad o’r effaith ar hawliau plant (drafft): Rheoliadau Deddf Plant 2004 Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg (Cymru) 2025
Asesiad o’r rheoliadau a’r effaith ar hawliau plant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Amcanion y polisi
Dylid darllen yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant ar y cyd â Rheoliadau drafft Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) 2025.
Bydd Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a llenwi cronfa ddata o'r holl blant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal sy'n colli addysg, neu nad yw'r awdurdod lleol wedi gallu sefydlu eu bod yn derbyn addysg addas. Bydd y rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddatgelu gwybodaeth anfeddygol i awdurdod lleol, er mwyn helpu awdurdodau lleol i nodi plant yn eu hardal nad ydynt yn gwybod amdanynt, hynny yw, nid ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol oherwydd nad ydynt ar gofrestr ysgol, nid ydynt mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, nid yw'n hysbys bod dewis wedi'i wneud i'w haddysgu gartref, ac nid ydynt yn mynychu ysgol annibynnol. Bydd Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol ddatgelu i awdurdod lleol wybodaeth am ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad. Mae'r ddwy set o reoliadau yn darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer gofyn i fyrddau iechyd lleol ac ysgolion annibynnol ddatgelu data i awdurdodau lleol, a byddant yn cael eu gwneud o dan bwerau presennol Gweinidogion Cymru o dan adran 29 o Ddeddf Plant 2004.
Unwaith y bydd gan yr awdurdod lleol gronfa ddata resymol gyflawn, yna bydd yn gallu cymharu data addysg ac iechyd er mwyn adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddo eisoes, a sicrhau eu bod yn cael addysg addas, ni waeth ble mae hynny'n digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y ffordd orau o alluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod plant yn eu hardal yn cael addysg addas, ni waeth ble mae hynny'n digwydd. Rydym o'r farn bod y cynnig hwn, at ei gilydd, yn rhesymol ac yn gymesur.
2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Pa ymchwil a data presennol ar blant a phobl ifanc sydd ar gael i lywio eich polisi penodol chi?
Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno ffurflenni blynyddol i Data Cymru mewn perthynas â dysgwyr y mae eu teuluoedd wedi dewis eu haddysgu gartref yn ystod y flwyddyn. Mae'r data diweddaraf yn dangos mai dim ond 23.5% o'r teuluoedd a ddewisodd addysgu eu plentyn (plant) gartref yn 2023 a roddodd resymau y gellid eu disgrifio fel rhai cadarnhaol, megis rhesymau yn ymwneud â ffordd o fyw, neu gredoau ideolegol, athronyddol a chrefyddol. Yn achos gweddill y teuluoedd lle cofnodwyd rheswm (51.7%), nodwyd rhesymau negyddol dros dynnu eu plentyn (plant) o'r ysgol, er enghraifft, pryder plentyn, perygl erlyniad (gan yr ALl am nad yw'r plentyn yn mynd i'r ysgol), bwlio, rhesymau meddygol, tor-perthynas â'r ysgol.
Un elfen allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru yw bod penderfyniad rhieni i addysgu gartref yn ddewis cadarnhaol yn hytrach na'i fod yn opsiwn ar gyfer plant sydd wedi ymddieithrio o addysg, lle mae rhieni yn teimlo bod yn rhaid iddynt wneud y penderfyniad hwn. Os nad oedd rhieni yn barod i addysgu eu plentyn yn y cartref, efallai na fydd yr addysg y maent yn ei darparu yn effeithlon neu'n addas, sydd wedyn yn arwain at sefyllfa lle mae'r plentyn yn colli addysg.
Mae dyletswydd statudol eisoes ar awdurdodau lleol mewn perthynas â Phlant sy'n Colli Addysg, a nodir yma: canllawiau statudol i helpu i atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg
Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil hwn, sut rydych chi'n rhagweld y bydd eich polisi'n effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol a negyddol?
Bydd y cynnig i sefydlu cronfa ddata ar gyfer Plant sy'n Colli Addysg yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr nad ydynt yn derbyn addysg addas ar hyn o bryd, gan y bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gofnodi enw unrhyw blentyn lle na all yr awdurdod lleol benderfynu a yw'r addysg yn addas. Rhaid i'r awdurdod lleol wedyn sicrhau bod ganddo fynediad at addysg addas, naill ai drwy ddarparu lle priodol mewn ysgol neu ddarpariaeth EOTAS (addysg heblaw yn yr ysgol). I ddechrau, bydd hyn yn arwain at gofnodi mwy o blant sy'n cael eu haddysgu gartref fel plant sy'n colli addysg, a bydd yn ysgogi'r awdurdod lleol i asesu'n ffurfiol yr addysg sy'n cael ei darparu.
Bydd y cynnig hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar blant sy'n colli addysg ar hyn o bryd ac nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol, gan y bydd gofynion y gronfa ddata yn arwain at rannu gwybodaeth am y plant hyn gyda'r awdurdod lleol. Unwaith eto, y gofyniad fydd bod yr awdurdod lleol yn darparu addysg i'r plentyn hwnnw o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996.
Ni fydd y cynigion yn effeithio ar y mwyafrif o ddysgwyr sy'n cael eu haddysgu gartref a'u teuluoedd, gan y bydd yr awdurdod lleol fel rheol wedi'u bodloni bod addysg addas ac effeithlon wedi bod yn cael ei darparu gan eu teulu. Ni fydd y dysgwyr hyn yn cael eu cynnwys ar gronfa ddata plant sy'n colli addysg.
Bydd y cynigion yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd, sydd â chynllun datblygu unigol. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i fodloni anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr. Pan fydd yr awdurdod lleol yn adolygu cynllun datblygu unigol y plentyn, bydd hyn yn rhoi cyfle i benderfynu a yw'r addysg a ddarperir yn addas ac yn effeithlon. Os penderfynir nad yw'n addas ac yn effeithlon, yna byddai'r plentyn hwn hefyd yn cael ei ystyried yn blentyn sy'n colli addysg, a byddai'n ofynnol i'r awdurdod lleol gymryd camau i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996. Gallai hyn arwain at weld dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn derbyn mwy o gefnogaeth gan yr awdurdod lleol, a chyfleoedd dysgu sy'n diwallu eu hanghenion penodol.
Mae'r cynigion hyn hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, y mae eu teuluoedd wedi penderfynu addysgu gartref, yn derbyn addysg addas. Os yw dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yn gweithio, mae deddfwriaeth berthnasol sy'n diogelu pob plentyn mewn cyflogaeth. Os yw'r teulu yn nodi bod y plentyn yn ymgymryd â phrofiad gwaith, yna dylid dogfennu'n glir hyd a lled unrhyw brofiad gwaith y ceir ei wneud, ac ni ddylai fod yn debyg i gyflogaeth plant. Byddai hyn yn unol ag adran 4.6 o'n canllawiau sy'n pwysleisio na fydd addysg nad yw'n amlwg yn hawlio cyfran sylweddol o fywyd plentyn yn bodloni gofyniad adran 7 yn ôl pob tebyg, ac mewn sefyllfa felly, byddai'r plentyn yn yn cael ei gynnwys ar gronfa ddata plant sy'n colli addysg.
Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc ydych chi wedi’i ddefnyddio i lywio eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, esboniwch pam (Dywed Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fod gan blant yr hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac i'w barn gael ei hystyried).
Roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn agored i bob grŵp oedran ac i randdeiliaid. Fodd bynnag, nid oedd yr ymgynghoriad yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwyr nodi eu dyddiad geni na'u hoedran. Nid oes gan Lywodraeth Cymru y wybodaeth hon felly.
Roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn ymwneud â chynnig cronfa ddata o'r holl blant a phobl ifanc y byddai awdurdodau lleol yn ei defnyddio i groesgyfeirio mewn perthynas â'u data ynghylch CYBLD, addysg heblaw yn yr ysgol ac ysgolion annibynnol, a fyddai'n creu cronfa ddata o ddysgwyr y rhagdybid wedyn eu bod yn cael eu haddysgu gartref. Roedd yr ymgynghoriad yn agored i bawb, nid i ddysgwyr yn unig. Diwygiwyd y cynigion yn dilyn dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol, a oedd yn cynnwys y cwestiwn canlynol yr oedd 78.1% o'r ymatebwyr yn anghytuno ag ef: "Mae'r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ysgolion annibynnol ddatgelu i awdurdodau lleol (ALlau) y wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 i'r rheoliadau. Bydd hyn yn helpu'r ALl i adnabod plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd."
Roedd yr ymatebwyr yn teimlo nad oedd y cynigion blaenorol yn gymesur, ac o ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi mireinio'r cynnig i nodi y byddai'r gronfa ddata ond yn cynnwys dysgwyr nad ydynt yn derbyn addysg fel y nodir o dan Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Byddwn yn ymgynghori ar y cynnig diwygiedig, a bydd hyn yn agored eto i bob plentyn a pherson ifanc.
3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith
Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?
Mae'r cynigion yn cyd-fynd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant sy'n Colli Addysg sy'n nodi: (paragraff 1.2) "Mae plant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg addas mewn perygl mwy o amrywiaeth o ganlyniadau negyddol a allai niweidio eu cyfleoedd mewn bywyd yn y tymor hir". Bydd y cynigion yn galluogi awdurdodau lleol i fod yn ymwybodol o'r holl ddysgwyr yn eu hawdurdod lleol (gan gynnwys dysgwyr nad ydynt wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen o bosibl), a'r effaith gadarnhaol fydd y bydd yr awdurdod lleol yn gallu penderfynu a ydynt yn derbyn addysg addas.
Un effaith negyddol a nodwyd yw y gallai teuluoedd beidio â chofrestru gyda meddyg teulu pe baent yn teimlo'n gryf nad oeddent am i'w manylion gael eu rhannu ag awdurdodau lleol. Mae'r ffaith bod y polisi yn cyd-fynd yn gryf â chanllawiau Plant sy'n Colli Addysg yn lleihau'r risg hon i ryw raddau gan fod y canllawiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer cynulleidfa lawer ehangach na gweithwyr addysg proffesiynol, er enghraifft Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, cydlynwyr addysg plant sy'n derbyn gofal, swyddogion amddiffyn plant, Byrddau Lleol Diogelu Plant, gwasanaethau troseddau ieuenctid, asiantaethau ieuenctid, Gyrfa Cymru, a fydd yn lleihau'r risg i blant sydd heb gofrestru gyda meddyg teulu fynd ar goll.
Sut y mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel y’u nodir yn erthyglau CCUHP a’i Brotocolau Dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun.
Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol
Erthygl 1: Mae gan bawb o dan 18 oed yr holl hawliau sydd yn y Confensiwn.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn ymwneud â phob plentyn.
Erthygl 2: Mae’r Confensiwn yn berthnasol i bawb: beth bynnag fo'i hil, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn ymwneud â phob plentyn.
Erthygl 3: Mae’n hanfodol mai buddiannau gorau’r plentyn yw’r brif flaenoriaeth ym mhob peth sy’n effeithio ar blant.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn gwella Erthygl 3 gan fod rhaid i addysg a ddarperir gan rieni fod yn addas ac yn effeithlon. Os yw awdurdodau lleol o'r farn nad yw'r addysg sy'n cael ei darparu yn addas neu'n effeithlon, yna ystyrir bod y plentyn yn colli addysg, ac mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ymgysylltu â'r teulu, gan ddarparu cyngor a chymorth ychwanegol neu gyflwyno gorchymyn mynychu'r ysgol.
Erthygl 12: Mae gan bob plentyn hawl i fynegi eu barn ynghylch pob mater sy’n effeithio arnynt, ac i bobl ystyried eu barn a’i chymryd o ddifrif.
- Gwelliannau neu heriau: Gwelliannau a heriau
- Esboniad: mae'r cynigion yn gwella Erthygl 12 gan y gall y plentyn ddweud ei ddweud yn ystod y cyfnod ymgynghori. Gallai'r cynigion herio Erthygl 12, pe bai'r plentyn yn dweud nad yw am i'r bwrdd iechyd rannu ei ddata personol gyda'r awdurdod lleol.
Erthygl 13: Rhaid i bob plentyn fod yn rhydd i fynegi ei feddyliau a’i farn, ac i ofyn am a chael pob math o wybodaeth, ar yr amod ei fod o fewn y gyfraith.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i'r plentyn fynegi barn mewn perthynas â rhannu data.
Erthygl 16: Mae gan bob plentyn yr hawl i breifatrwydd. Dylai'r gyfraith ddiogelu bywyd preifat, teuluol a chartref y plentyn.
- Gwelliannau neu heriau: heriau
- Esboniad: gallai'r cynigion herio Erthygl 16, pe na bai'r plentyn am i'r bwrdd iechyd rannu ei ddata personol gyda'r awdurdod lleol.
Erthygl 23: Mae gan blentyn anabl hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas ac annibyniaeth, yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Mae'n rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn gwella Erthygl 23 gan fod rhaid i addysg a ddarperir gan rieni fod yn addas ac yn effeithlon. Os yw awdurdodau lleol o'r farn nad yw'r addysg sy'n cael ei darparu yn addas neu'n effeithlon, yna ystyrir bod y plentyn yn colli addysg, ac mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ymgysylltu â'r teulu, gan ddarparu cyngor a chymorth ychwanegol, penderfynu a oes gan y plentyn anghenion ychwanegol ac yna sut y gellir diwallu'r anghenion hyn. Byddai'r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
Erthygl 24: Mae gan bob plentyn yr hawl i’r iechyd gorau posibl.
- Gwelliannau neu heriau: heriau
- Esboniad: gallai'r cynigion olygu na fydd plentyn yn derbyn ei hawl o dan Erthygl 24, os bydd teuluoedd yn peidio â chofrestru eu plant gydag ymarferwyr iechyd os na fyddant am i'w data personol gael eu rhannu.
Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn gwella Erthygl 28 gan y byddai sefydlu'r broses hon yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn ymwybodol o bob dysgwr ac yn gallu gofalu bod ganddynt fynediad at addysg addas ac effeithlon.
Erthygl 29: Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, talentau a galluoedd pob plentyn i’r eithaf.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: mae'r cynigion yn gwella Erthygl 29 gan fod sefydlu'r broses hon yn caniatáu i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o deuluoedd nad oeddent efallai yn ymwybodol ohonynt o'r blaen, a gall yr awdurdod lleol atgoffa'r teuluoedd hyn bod yn rhaid i Addysg ddatblygu personoliaeth, talentau a galluoedd pob plentyn i'r eithaf.
Erthygl 30: Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith, arferion a chrefydd ei deulu, p'un a yw'r rhain yn cael eu rhannu gan y mwyafrif o bobl y wlad lle mae'n byw ai peidio.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r cynigion yn gwella Erthygl 30 drwy sicrhau bod grwpiau lleiafrifol neu frodorol yn derbyn addysg ac nad yw'r plant hynny dan anfantais.
Erthygl 31: Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r cynigion yn gwella Erthygl 31 gan fod addysg addas yn cynnwys cymdeithasu a sicrhau bod y plentyn yn gallu gweithredu mewn bywyd modern. Bydd y cynigion yn helpu awdurdodau lleol i nodi'r plant y dewisir eu haddysgu yn y cartref nad oeddent yn hysbys iddynt o'r blaen, ac yn eu galluogi i asesu'r ddarpariaeth i sicrhau bod yr elfennau hyn yn cael eu darparu gan y rhiant.
Erthygl 32: Dylai'r Llywodraeth amddiffyn plant rhag gwaith sy'n beryglus neu a allai niweidio eu hiechyd neu eu haddysg.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r cynigion yn gwella Erthygl 32 gan y byddai awdurdodau lleol yn cael gwybod am blant sy'n colli addysg. Efallai bod y plant hyn wedi cael eu hecsbloetio, ac efallai mewn cyflogaeth. Gall yr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw blant sy'n gweithio yn gwneud hynny yn unol â rheoliadau cyflogi plant.
Erthyglau (33, 34, 35 a 36): (cam-drin cyffuriau, camfanteisio rhywiol, cipio, gwerthu a masnachu pobl, mathau eraill o ecsbloetio).
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r cynigion yn gwella Erthyglau 33,34,35, a 36 gan y byddai awdurdodau lleol yn cael gwybod am blant nad oeddent yn hysbys iddynt o'r blaen o ganlyniad i'r broses hon. Mae'r cynigion yn sicrhau y gellir defnyddio systemau a phrosesau diogelu lleol os oes gan weithwyr proffesiynol bryderon.
Erthygl 39: Rhaid i blant sydd wedi cael eu hesgeuluso, eu cam-drin, eu hecsbloetio, eu harteithio neu sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel gael cymorth arbennig i'w helpu i adfer eu hiechyd, eu hurddas a'u hunan-barch.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: Byddai'r cynigion yn gwella Erthygl 39 gan y byddai'r awdurdod lleol yn cael gwybod am blant sy'n colli addysg, a byddai'n ofynnol iddo ddarparu cymorth priodol.
Erthygl 40: Rhaid i blentyn a gyhuddir neu sy'n euog o dorri'r gyfraith gael ei drin ag urddas a pharch.
- Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
- Esboniad: byddai'r cynigion yn gwella Erthygl 40 gan y byddai'r awdurdod lleol yn cael gwybod am blant y gellid eu gosod mewn/symud i awdurdod lleol, a byddai'n ofynnol iddo ddarparu cymorth priodol gan swyddogion arbenigol ym maes gwasanaethau troseddau ieuenctid.
Mae'r canlynol wedi'u cymryd o strategaeth yr UE ar hawliau'r plentyn ac fe'u croesgyfeirir ag erthyglau CCUHP:
Cymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol a democrataidd: UE sy'n grymuso plant i fod yn ddinasyddion ac aelodau gweithredol o gymdeithasau democrataidd, mae hyn yn cyd-fynd ag Erthygl 12.
Cynhwysiant economaidd-gymdeithasol, iechyd ac addysg: UE sy'n brwydro yn erbyn tlodi plant, yn hyrwyddo cymdeithasau a systemau iechyd ac addysg sy'n gynhwysol ac yn gyfeillgar i blant, mae hyn yn cyd-fynd ag Erthyglau 24 a 28.
Brwydro yn erbyn trais yn erbyn plant a sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn: UE sy'n helpu plant i dyfu yn rhydd rhag trais -mae hyn yn cyd-fynd ag Erthyglau 33,34,35,36 a 39.
System gyfiawnder sy'n dda i blant, UE lle mae'r system gyfiawnder yn cynnal hawliau plant ac yn gwarchod eu hanghenion - mae hyn yn cyd-fynd ag Erthygl 40.
4. Cyngor i’r Gweinidog a’i benderfyniad
Bydd effaith y cynigion ar hawliau plant yn cael ei hymgorffori yn y cyngor i'r Gweinidog ac wrth ddatblygu'r dogfennau ymgynghori. Bydd hyn yn sicrhau bod lles a hawliau plant wedi cael eu hystyried yn llawn, ac unrhyw faterion a nodwyd yn cael sylw.
5. Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
Roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn agored i bob grŵp oedran ac i randdeiliaid. Fodd bynnag, nid oedd yr ymgynghoriad yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwyr nodi eu dyddiad geni na'u hoedran. Nid oes gan Lywodraeth Cymru y wybodaeth hon felly.
Roedd yr ymatebwyr yn teimlo nad oedd y cynigion blaenorol yn gymesur, ac o ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi mireinio'r cynnig i nodi y byddai'r gronfa ddata ond yn cynnwys dysgwyr nad ydynt yn derbyn addysg fel y nodir o dan Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Byddwn yn ymgynghori ar y cynnig diwygiedig, a bydd hyn yn agored eto i bob plentyn a pherson ifanc.
6. Monitro ac adolygu
Nodwch yn fras y mecanwaith y byddwch yn ei sefydlu i fonitro ac adolygu’r asesiad hwn o’r effaith ar hawliau plant
Gan ddefnyddio’r rhwydweithiau presennol, caiff effaith y gronfa ddata a sut y caiff ei gweithredu ei drafod gydag awdurdodau lleol. Bydd yr adborth o’r gwaith ymgysylltu hwn yn mynd ymlaen i lywio unrhyw fersiynau pellach o’r asesiad hwn.
Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen diwygio’r polisi neu ei gamau gweithredu?
Amherthnasol am y tro.