Yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n galed iawn i roi enw da i Gymru fel cyrchfan gwych ar gyfer mordeithiau. Yn 2013, roedd 18 o longau mordeithio gyda 15,000 o deithwyr wedi ymweld â Chymru. Eleni yn unig, mae dros 100 o ymweliadau â phorthladdoedd yng Nghymru wedi'u cynllunio sy'n gynnydd o dros 500% ers 2013. Golyga hyn y bydd Cymru wedi croesawu dros 51,000 o deithwyr o UDA, Canada, Ffrainc a'r Almaen, ymhlith eraill. Mae hyn hefyd lawer yn fwy na ffigurau 2017 sy'n dangos cynnydd blynyddol o 15%. Bydd Caergybi yn croesawu 54 o’r ymweliadau hyn yn 2018 – cynnydd o 30% ers 2017. Gobeithio y bydd y duedd hon yn parhau.
Rydym wedi denu cwmnïau newydd megis Norwegian Cruise Line, Aida, Regent Seven Seas a Phoenix Reissen ac rydym yn gwneud popeth y medrwn i ddenu rhagor. Rydym hefyd yn gweithio'n galed i gadw'r rhai sydd eisoes yn ymweld â Chymru, er enghraifft, bydd Cruise & Maritime Voyages yn parhau i gynnig mordeithiau dychwelyd yn 2019 i'r Canoldir yn dilyn ail flwyddyn lwyddiannus o hwylio o borthladd Caerdydd lle y gwnaeth 750 o deithwyr fynd ar y llong fordeithio Marco Polo a dod oddi arni.
Rhan allweddol o sicrhau'r ymweliadau hyn yw'r gwaith a wnawn ledled Cymru i ddatblygu a hyrwyddo teithiau newydd ar y tir i deithwyr ac i ddangos mwy o atyniadau Cymru i gwmnïau mordeithio a threfnwyr lleol; er enghraifft, i deithwyr sy'n cyrraedd Caerdydd, rydym wedi datblygu taith newydd i adeilad Canolfan y Mileniwm gyda'r pensaer gwreiddiol; ac i deithwyr sy'n cyrraedd Abergwaun, rydym wedi datblygu prynhawn cyfan o Hwyl sy'n cynnwys adloniant i ddangos treftadaeth a diwylliant Cymru; ac yng Nghaergybi, rydym bellach yn cynnig y Zip World Forest Coaster newydd sydd dros 1 cilometr o lwybr toboganau drwy’r goedwig fel rhan o daith antur.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn seilwaith, er enghraifft, yn Abergwaun drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, rydym wedi buddsoddi mewn pont gychod er mwyn caniatáu i longau mwy o faint ymweld â Chymru. O ganlyniad i hynny, rydym eisoes yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y teithwyr ar gyfer 2019, gan gynnwys ymweliad gan y llong fordeithio Aidabella, sy'n cario 2,500 o deithwyr. Hon fydd y llong fwyaf i ymweld â Chymru hyd yma.
Mae newid ar waith ym mhorthladd Caergybi hefyd gyda'r posibilrwydd o ddatblygu angorfa newydd ar gyfer mwy nag un defnyddiwr yn cael ei ystyried. Yn Aberdaugleddau, mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer ailddatblygu marina gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys gwestai, siopau a bwytai newydd wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.
Caiff Cymru, fel cyrchfan mordeithio, ei marchnata'n uniongyrchol i'r cwmnïau mordeithio drwy alwadau busnes i fusnes gyda phobl allweddol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ym mhob cwmni. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein perthnasau gwaith cadarn gyda'r cwmnïau mordeithio yn arddangosfa Cruise Global, a chynhadledd ac arddangosfa Seatrade Med.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae twristiaeth fordeithio wedi cael cryn dipyn o lwyddiant, diolch i'r gwaith a wnaed mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i wella pecyn mordeithio Cymru. O hyn ymlaen, rhaid inni barhau i gydweithio os rydym am ddatblygu seilwaith ein porthladdoedd ar gyfer mordeithiau er mwyn canolbwyntio ar sicrhau bod mwy o longau mordeithio yn ymweld â Chymru.
Yr hyn sy'n eglur yw bod gan Gymru rywbeth at ddant pawb. Pa beth bynnag sy’n ennyn eich diddordeb, mae gan Gymru rywbeth ar eich cyfer chi. Edrychwn ymlaen at groesawu rhagor o deithwyr yn ystod y blynyddoedd nesaf ac at rannu'r hyn sydd gennym i'w gynnig.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn hapus i wneud hynny.