Mary Argent: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Teilyngwr
Gweithiwr Ieuenctid yn Ysgol Grango yw Mary Argent; yno, mae hi’n gyfaill dibynadwy ac yn hyrwyddwr i bobl ifanc sy’n dygymod â’r glasoed. Gan weithio’n holistig, bydd Mary’n cefnogi myfyrwyr rhwng 11 a 16+ oed drwy sesiynau unigol, gweithdai grŵp, a rhaglenni achrededig. O drafferthion personol i rwystrau academaidd, bydd hi’n gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau allanol i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cyflawni’i lawn botensial.
Bydd Mary yn creu ymdeimlad o gymuned a pherthyn drwy drefnu gweithgareddau llawn hwyl, fel grwpiau chwaraeon, yn ystod cyfnodau egwyl a chinio. Meddai myfyriwr ym Mlwyddyn 9: “Mae Mary wedi gwneud yr ysgol yn lle gwell. Mae hi’n rhoi rhywle i ni fynd iddo, yn helpu, a hyd yn oed wedi dechrau grŵp chwaraeon er mwyn rhoi hwb i’n hyder.”Mae rhiant un o ddisgyblion blwyddyn 9 yn canmol ei gallu i gysylltu â’r plant: “Mae Mary wedi helpu fy merch i ddeall ei phryderon a delio â’i theimladau. Alla’ i ddim diolch ddigon iddi am ei gwaith.”
Gallai’r panel beirniadu weld bod ymrwymiad Mary yn mynd y filltir ychwanegol.Canmolwyd ei hagwedd flaengar wrth gyflwyno newidiadau y tu hwnt i’w swydd, wrth bontio i’r maes hwn, ac wrth ddefnyddio gwersi a ddysgodd o’i phrofiadau blaenorol. Roedden nhw’n benodol yn gallu gweld bod y sefydliad yn cydnabod cryfderau ac ymroddiad Mary, gan werthfawrogi’i chyfraniad unigryw at waith ieuenctid.