Mae Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, wedi cwrdd â Phrif Ysgrifennydd Llywodraeth y DU i'r Trysorlys a'i phryderon am y gyllideb a'r diswyddiadau enbydus sy'n cael eu bygwth yn Tata oedd y prif bynciau trafod.
Gwnaeth y Gweinidog gwrdd â'r Prif Ysgrifennydd yng Nghaeredin fel rhan o gyfres o gyfarfodydd cyllid trawslywodraethol o drefnwyd gan Lywodraeth yr Alban.
Mynegodd Rebecca Evans ei phryderon am y bygythiad i gau'r ffwrneisi chwyth ar safle Tata ym Mhort Talbot, a phwysigrwydd helpu'r rheini yn y gwaith dur ac yn y gymuned ehangach y bydd hynny'n effeithio arnyn nhw.
Dywedodd:
"Mae'r ffaith bod cymaint mewn perygl o golli'u swyddi, a hynny mewn cyn lleied o amser, yn bryder mawr. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Tata Steel, yn gweithio i hwyluso'r newid i gynhyrchu dur gwyrddach ac i ddiogelu mwy o swyddi.
"Mae'n hynod bwysig bod yr arian a addawyd gan Lywodraeth y DU yn cael effaith ar bob cymuned ac unigolyn a fydd yn dioddef oherwydd y diswyddiadau a chau'r ffwrneisi - mae goblygiadau'r sefyllfa hon yn enfawr."
Mynegodd y Gweinidog ei phryderon hefyd fod Llywodraeth y DU yn fodlon rhoi hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i Lywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid i Gymru.
Dywedodd:
"Y cyfan rydym yn gofyn amdano yw cydraddoldeb â'r Alban a chael yr un hyblygrwydd gyda'r gyllideb ag y dylem ei gael. Mae'r diffyg hyblygrwydd yn ei gwneud hi'n anoddach ymateb yn gyflym i anghenion sy'n codi'n sydyn ac mae hynny yn ei dro yn amharu ar ein gallu i gael y gorau o'n harian."
Cyn y cyfarfod gyda'r Prif Ysgrifennydd, daeth Gweinidogion a chynrychiolwyr o bob un o bedair gwlad y DU ynghyd ar gyfer cyfarfod chwarterol y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogaethol ar Gyllid (F: ISC).
Gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddadlau yno o blaid cael mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd:
"Rwy'n annog Llywodraeth y DU i fanteisio ar unrhyw hyblygrwydd ariannol all fod ganddi yng Nghyllideb y Gwanwyn i ddarparu adnoddau hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae dewis torri trethi i bob pwrpas yn golygu torri gwariant, ac mae angen i'r Canghellor gydnabod y pwysau aruthrol sydd eisoes ar y gwasanaethau y mae'r cyhoedd yn dibynnu arnynt."
Gwnaeth Gweinidogion Cymru a'r Alban ill dwy ddatgan eto y dylai'r argyfwng costau byw fod yn flaenoriaeth yng Nghyllideb y Gwanwyn, gan ddangos hefyd eu cefnogaeth i apêl Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell ar i Lywodraeth y DU ddiwygio'n sylfaenol y ffordd y caiff cyfraddau budd-daliadau eu pennu a rhoi Gwarant Hanfodion i sicrhau bod pobl yn gallu o leiaf talu eu costau sylfaenol.
costs.