Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Yn cefnogi penderfyniadau drwy dystiolaeth a chyngor

Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yw'r proffesiwn ymchwil gymdeithasol ar gyfer y Gwasanaeth Sifil. Ei rôl yw helpu Llywodraeth Cymru i ddeall materion sy'n ymwneud â chymdeithas, grwpiau ac unigolion. Mae'n darparu sylfaen i drafod polisïau a gwneud penderfyniadau drwy amrywiaeth o ddulliau, cyngor a thystiolaeth.

Gall gwaith Ymchwilydd Cymdeithasol gynnwys:

  • gwerthuso polisïau a weithredir gan Lywodraeth Cymru
  • dadansoddi dichonoldeb neu effaith darpar bolisi i'w weithredu yn y dyfodol
  • darparu tystiolaeth i gefnogi anghenion tîm polisi
  • ymchwil i ddeall agweddau'r cyhoedd tuag at faterion allweddol
  • lledaenu canfyddiadau ymchwil o adroddiadau'r llywodraeth
  • gweithio gyda rhanddeiliaid i greu systemau monitro a gwerthuso newydd 

Mae enghreifftiau o'r gwaith sy'n cael ei gyhoeddi gan Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar gael ar y dudalen Ystadegau ac Ymchwil.

Rolau ym maes Ymchwil Gymdeithasol

Mae nifer o rolau ar gael yn y proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol o Swyddog Ymchwil (HEO) i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Mae cyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn amrywio rhwng timau a phrosiectau, ond mae ein hastudiaethau achos yn rhoi syniad o beth i'w ddisgwyl ar bob gradd.

Anna Allen Jones
Swyddogion Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Ymchwilydd Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
Rhys Fletcher
Uwch-swyddog Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Uwch-ymchwilydd Cymdeithasol
Rhian Davies
Prif Swyddog Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Prif Swyddog Ymchwil
Ian Jones
Uwch Brif Swyddog Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Uwch Brif Swyddog Ymchwil

Llwybrau i Ymchwil Gymdeithasol

Mae nifer o ffyrdd o ymuno â'r proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol. 

Ymgyrchoedd recriwtio blynyddol

Mae swyddi gwag allanol ym maes Ymchwil Gymdeithasol yn cael eu hysbysebu ar wefan swyddi Llywodraeth Cymru. 

Mae’r swyddi gwag hyn ar agor i bob ymgeisydd allanol sydd ag o leiaf gradd israddedig 2:2 neu unrhyw radd ôl-raddedig, gyda naill ai:

  • elfennau a addysgir digonol mewn ymchwil gymdeithasol, neu
  • profiad cyfwerth â 4 blynedd ym maes ymchwil gymdeithasol

Benthyciadau a secondiadau

Gall aelodau presennol o Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ac adrannau eraill o'r Gwasanaeth Sifil wneud cais i ymuno ag Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn Llywodraeth Cymru am gyfnod penodol drwy gyfleoedd benthyciad agored. 

I wneud cais, rhaid ichi naill ai:

  • allu dangos tystiolaeth o aelodaeth gyfredol o Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 
  • dangos dealltwriaeth ddigonol o ymchwil gymdeithasol (cais a phrawf gwybodaeth ar-lein)

Os nad ydych yn cael eich cyflogi gan y Gwasanaeth Sifil ar hyn o bryd, gallwch wneud cais i ymuno ag Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn Llywodraeth Cymru am gyfnod penodol drwy gyfleoedd secondiad agored. 

Rhaid i ymgeiswyr naill ai: 

  • fodloni'r meini prawf a nodir ar gyfer yr ymgyrch recriwtio flynyddol 
  • dangos tystiolaeth o aelodaeth gyfredol o Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Lleoliadau myfyrwyr israddedig ac interniaethau PhD

Gall myfyrwyr israddedig wneud cais i ymuno ag Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn Llywodraeth Cymru ar leoliad blwyddyn ryngosod am 12 mis rhwng eu hail a'u trydedd flwyddyn astudio. 

Rhaid i ymgeiswyr: 

  • fod wedi cofrestru ar gyfer gradd sydd ag elfen ymchwil gymdeithasol sylweddol 
  • darparu cadarnhad eu bod wedi pasio'r ail flwyddyn cyn i'r lleoliad ddechrau

Gall myfyrwyr PhD hefyd ymgeisio i un o’n cyfleoedd interniaethau, a fydd yn cael eu hysbysebu o bryd i’w gilydd drwy Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.

Llwybr Carlam Ymchwil Gymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru yn aelod sy'n cymryd rhan yn Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil ac mae wedi cynnig lleoliadau o'r blaen drwy'r cynllun Ymchwil Gymdeithasol.

Gall graddedigion a'r rhai sydd â phrofiad cyfatebol wneud cais i ymuno ag Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth drwy'r rhaglen Llwybr Carlam Ymchwil Gymdeithasol. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â rhaglen datblygu cyflym. Ei nod yw'ch paratoi ar gyfer swyddi arwain yn y proffesiwn yn y dyfodol. 

Swyddi Ymchwil Cymdeithasol

Ewch i Swyddi Llywodraeth Cymru i chwilio am swyddi Ymchwil Cymdeithasol Llywodraeth.