Voices from Care Cymru: Grŵp Cynghori Cenedlaethol
Teilyngwr
Mae’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol yn Voices from Care Cymru (VfCC) yn rhoi lle blaenllaw i leisiau sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.Mae unigolion rhwng 14 a 25 oed yn perthyn i’r grŵp anhygoel hwn, a’r rheini’n dod o gefndiroedd amrywiol yn y system ofal. Mae modd i bob aelod gyfrannu ei wybodaeth a’i brofiad bywyd unigryw, gan ymrwymo tair blynedd i wneud gwir wahaniaeth.
Mae’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol yn gweithio mewn tri maes. Yn fewnol, mae’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod cymorth VfCC yn effeithiol wrth gyrraedd a hybu lleisiau plant a phobl ifanc sydd mewn gofal. Yn allanol, mae’n hybu cynhwysiant drwy gynllunio digwyddiadau a gweithgareddau sy’n meithrin ymdeimlad cryf o berthyn a chymuned ymhlith y boblogaeth sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Drwy bartneriaethau a gwaith eirioli effeithiol, mae hefyd yn dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau, gan wthio am newid a gwell cymorth i bobl ifanc drwy’r rhanbarth.
Meddai un o aelodau’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol: “Rydw i’n gallu mynegi fy marn am fy mhrofiad mewn gofal. Gan fy mod i’n dal i fyw gyda phobl sydd mewn gofal, fe alla’ i fod yn llais i amlygu eu profiadau nhw hefyd. Rydw i wedi magu hyder i siarad gyda phobl nad ydw i’n eu hadnabod, ac rydw i’n fwy annibynnol gan fy mod i wedi teithio heb fy rhieni am y tro cyntaf. Rydw i’n fwy cynhwysol, ac wedi dysgu am gymunedau eraill, fel LHDTCRhA+, sy’n wych.”
Mae effaith y Grŵp Cynghori Cenedlaethol i’w theimlo y tu hwnt i’w aelodau.Mae cynrychiolydd dynodedig yn gyfrifol am sicrhau bod Senedd Ieuenctid Cymru yn clywed llais y grŵp, gan sicrhau bod lleisiau pobl sy’n cael gofal yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol mewn sgyrsiau cenedlaethol gan arwain at ysgogi newid ar lefel ehangach.