Ei Llais Cymru: Gwasanaeth Ieuenctid y Fro
Enillydd
Mae Ei Llais Cymru yn fwy na phrosiect; mae’n fudiad sy’n cael ei yrru gan fenywod ifanc rhwng 11 a 18 oed ym Mro Morgannwg. Nod y cynllun yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan roi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc allu hyrwyddo cydraddoldeb yn eu cymunedau. Mae’r prosiect yn rhoi gofod diogel, gan alluogi menywod ifanc i rannu eu meddyliau, eu pryderon a’u profiadau, a’u grymuso i herio problemau sy’n ymwneud â rhywedd yn eu cymunedau.
A hwythau’n teimlo’n anniogel oherwydd goleuo gwael, neu’n wynebu aflonyddu mewn gorsafoedd trenau, lansiodd y grŵp yr ymgyrch #WEDONTFEELSAFE yn 2022. Roedd yr ymgyrch yn gymorth i ganfod pryderon, codi ymwybyddiaeth, a rhoi’r gallu i bobl ifanc i fod yn ddiogel ar y strydoedd. Cafodd y prosiect nawdd gan grant ‘Ysgogwyr Newid Ifanc’ Plan International UK, a chafodd gymorth hefyd gan bartneriaid fel Bro Ddiogelach, Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i ysbryd cydweithredol prosiect, y partneriaethau a oedd yn pontio oedrannau, ac i’r egwyddor o rymuso pobl ifanc. Canmolwyd effaith ehangach y prosiect a’i botensial
i greu newid cadarnhaol. Geiriau un o’r cyfranogwyr sy’n dangos grym a llwyddiant y prosiect: “Un uchafbwynt i mi oedd y diwrnodau ysbrydoli gyda Plan UK, a’n taith i Lundain yn benodol. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y gwaith roedd pobl ifanc eraill wedi’i wneud, ac roedd y gweithdai creadigol yn werth chweil. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau a chreu llawer o atgofion drwy’r prosiect hwn. Diolch!”