Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 19 Hydref 2023
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 19 Hydref 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cyd-gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Aelodau'r Comisiwn
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Michael Marmot
- Albert Owen
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel Arbenigol
- Jess Blair
- Yr Athro Emyr Lewis
- Auriol Miller
- Akash Paun
- Prof Mairi Spowage
- Prof Diana Stirbu
- Gareth Williams
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Victoria Martin, Arweinydd Polisi
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
Ymddiheuriadau
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Dr Hugh Rawlings
Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion
1. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion y Comisiynwyr ac aelodau'r Panel Arbenigol i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Philip, Shavanah a Hugh.
Eitem 2: Adroddiad terfynol
2. Amlinellodd y cyd-gadeiryddion gynlluniau i gyhoeddi'r adroddiad terfynol ar 18 Ionawr ac amlinellwyd yr amserlen i'w chyhoeddi. Adolygodd y comisiynwyr bob un o'r penodau yn eu tro, gan ddechrau gyda phennod 8 a gweithio yn ôl. Trafododd y comisiynwyr negeseuon allweddol, arddull a thôn yr adroddiad.
3. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r drafft i adlewyrchu sylwadau a dderbyniwyd.
Eitem 3: Cyflwyniadau Plaid Cymru
4. Adolygodd y Comisiynwyr dri papur a dderbyniwyd gan Blaid Cymru.
Eitem 4: UFA
5. Diolchodd cyd-gadeiryddion i aelodau'r Comisiynwyr a'r Panel Arbenigol am eu cyfraniadau. Fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith bod dogfen cynllunio'r cyfryngau wedi ei chylchredeg a gofyn am fewnbwn gan y Comisiynwyr erbyn 20 Hydref.