Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 19 Ionawr 2023
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 19 Ionawr 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cyd-gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Aelodau'r Comisiwn
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Shavanah Taj
- Leanne Wood
- Panel Arbenigol
- Gareth Williams
Eitem 2
- Gwir Anrhydeddus Gordon Brown
- Yr Athro Jim Gallagher
- Scott Dickson
Eitem 3
- Darren Millar AS, Prif Chwip a Llefarydd yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, Ceidwadwyr Cymreig
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
- Carys Evans, Cynghorydd
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
- Rod Hough, Rheolwr Swyddfa
Ymddiheuriadau
- Michael Marmot
- Philip Rycroft
- Kirsty Williams
Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion
1. Croesawodd y cyd-gadeiryddion y Comisiynwyr a thrafodwyd yr agenda.
Eitem 2: Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown a'r Athro Jim Gallagher
2. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion Gordon Brown, yr Athro Jim Gallagher a Scott Dickson.
3. Amlinellodd Gordon Brown gefndir ei adroddiad, a'i rôl ym mhroses llunio polisi'r Blaid Lafur. Neges graidd oedd diwygio cyfansoddiadol fel mecanwaith ar gyfer sicrhau twf economaidd cryfach a mwy teg ar draws y DU.
4. O ran y setliad Cymreig, nododd yr adroddiad, mewn egwyddor, y gallai unrhyw faterion sydd wedi'u datganoli i'r Alban gael eu datganoli i Gymru. Roedd yn nodi gwaith y Comisiwn Annibynnol mewn perthynas â chyfiawnder a phlismona.
Eitem 3: Darren Millar MS, Ceidwadwyr Cymreig
5. Croesawodd y cyd-gadeiryddion Darren Millar MS, Prif Chwip a Llefarydd yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, Ceidwadwyr Cymreig gan ei wahodd i amlinellu sylwadau ei blaid ar adroddiad interim y Comisiwn.
6. Teimlai Darren Millar fod yr adroddiad interim yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau ledled Cymru. Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn undeb cryf ac yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond roeddent yn cydnabod bod sgwrs i'w chael, a dyna pam roedd ei blaid yn ymgysylltu â'r comisiwn.
Eitem 4: UFA
7. Diolchodd y cyd-gadeiryddion i'r aelodau am eu cyfraniadau.