Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae tystiolaeth bod cysylltiad cryf rhwng profiad pobl ifanc o weithgareddau gyda chyflogwyr a gyfryngir gan ysgolion a lefelau uwch o ran ymgysylltiad ag addysg a chyrhaeddiad. Hefyd, gwyddom fod cydweithio rhwng ysgolion ac ystod o bartneriaid yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau statudol, yn gallu helpu i godi dyheadau, cydgysylltu'n well yr ymdrechion i wella deilliannau a lliniaru effeithiau anfantais.
Fodd bynnag, yn achos rhai ysgolion, deallwn nad yw'r gallu i nodi a datblygu'r partneriaethau hyn yn bodoli neu nid yw'n cael ei ddefnyddio ar draws clwstwr o ysgolion.
Felly, rwy'n falch o gyhoeddi cyllid o fwy na £315,000 ar gyfer prosiectau peilot i dreialu rôl Rheolwyr Busnes Ysgolion Bro mewn 6 o ardaloedd awdurdod lleol. Caiff y prosiectau hyn eu hariannu ar y cyd ag ysgolion ac awdurdodau lleol, a chyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol fydd £675,000 dros gyfnod o ddwy flynedd.
Nod y cynlluniau hyn fydd creu cyfle i ysgolion ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac, wrth wneud hynny, gynyddu eu capasiti i feithrin a chryfhau cysylltiadau ag ystod eang o bartneriaid yn y gymuned, gan gynnwys: cyflogwyr; sefydliadau celfyddydol, chwaraeon a threftadaeth; gwasanaethau iechyd a lles a gwasanaethau cefnogi teuluoedd. Bydd y partneriaethau hyn, y bydd Rheolwyr Busnes Ysgolion Bro yn ganolog iddynt, yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i gyfrannu at ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.
Gan gyfrannu'n uniongyrchol at ein cenhadaeth genedlaethol a'r ymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' i sicrhau cydweithio agosach rhwng ysgolion a'u partneriaid, ac ehangu a hybu profiadau ehangach dysgwyr, mae'r dulliau a amlinellir yn y ceisiadau'n cynnwys:
• partneriaethau cryfach â sefydliadau cymunedol i gyfoethogi a gwella'r cwricwlwm;
• mwy o ymgysylltu rhwng ysgolion a chyflogwyr, gan gynnwys profiadau gwaith;
• cydweithio ehangach â'r gymuned i gefnogi darpariaeth yr awdurdod lleol, gan gynnwys teuluoedd a'r blynyddoedd cynnar;
• ymgysylltu cryfach â gwasanaethau iechyd a lles, gan gynnwys meddygon teulu, byrddau iechyd lleol ac elusennau iechyd meddwl;
• mwy o ddefnydd o safleoedd ysgol a chynhyrchu incwm.
Mae'r fenter hon yn ategu'r prosiect a gyhoeddais ym mis Medi 2017 i dreialu 11 Rheolwr Busnes ar gyfer Ysgolion, ac yn golygu bod cyfanswm o fwy na £1.9m wedi'i fuddsoddi mewn rheolwyr busnes, gyda mwy na £950,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau y bydd 7 o'r cynlluniau peilot yn cefnogi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' drwy gynyddu'r cysylltiadau rhwng cymunedau lleol ac ysgolion yn ardaloedd Dwyrain, Gorllewin a Chanol y Cymoedd. Dyma'r awdurdodau lleol sy'n cynnal y prosiectau hyn ac yn cael cyllid: Pen-y-bont ar Ogwr (2 glwstwr); Sir Fynwy; Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf (3 clwstwr); a Thorfaen.
Dros amser, bydd y ffyrdd newydd hyn o weithio yn cyfrannu at ein system addysg sy'n gwella ei hun drwy ddangos manteision partneriaethau ag ysgolion bro a thrwy rannu arfer gorau.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.