Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n falch o adrodd i Aelodau’r Senedd y gwariwyd yr holl gyllid oedd ar gael drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymru – mwy nag £846 miliwn, yr oedd £564 miliwn ohono yn gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) – o fewn cyfnod y rhaglen, yn amodol ar gyflwyno cyfrifon terfynol ac unrhyw addasiadau dilynol gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Ers degawdau, mae Cymru wedi elwa ar gefnogaeth drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE. Yn sgil ymadawiad y DU â'r UE, daeth y gefnogaeth hon i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a bydd y llywodraeth nawr yn canolbwyntio ar weithredu dull gwirioneddol Gymreig o gefnogi ein heconomi wledig.
Mae'r Rhaglen wedi ariannu miloedd o brosiectau ledled y wlad, gan ddarparu buddion di-ri i bobl, busnesau, a Chymru. Ei gryfder allweddol oedd ei allu i gefnogi a meithrin atebion arloesol i'r heriau sy'n ein hwynebu. Bydd llwyddiant cyffredinol y rhaglen gydweithio hon gyda'r UE a'i heffaith gadarnhaol ar Gymru, sydd wedi bod yn eang, amrywiol a llwyddiannus, yn cael eu teimlo a'u gweld am ddegawdau i ddod.
Er enghraifft, yn ystod cyfnod diweddaraf y Rhaglen (2014-2020), roedd mwy na £409 miliwn ar gael i ffermwyr, rheolwyr tir a choedwigwyr i wella bioamrywiaeth a helpu i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir. Mae hyn wedi helpu i adfer dros 300,000 hectar o'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr i ddal carbon, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth brin.
Cafodd £45 miliwn ei fuddsoddi gennym hefyd i foderneiio'r diwydiannau ffermio a choedwigaeth i gynyddu eu gwytnwch a'u cystadleurwydd, gan wella cynhyrchiant ein gweithlu gwledig yn gyffredinol, gyda ymhell dros 4,000 o swyddi'n cael eu creu a'u diogelu drwy'r Rhaglen. Cynorthwywyd i greu a thyfu diwydiant bwyd Cymru, gan gefnogi cadwyni cyflenwi lleol a busnesau bwyd. Mae prosiect blaenllaw Helix wedi creu 114 o swyddi llawn amser ac wedi diogelu 472 o swyddi. Yn ogystal â hynny, bu inni fuddsoddi mewn cymunedau gwledig ledled Cymru i feithrin arloesedd, gwella trafnidiaeth a chefnogi twristiaeth, ymhlith llawer o bethau eraill.
Mae fy swyddogion a Buddiolwyr wedi gweithio'n galed i gyflawni'r canlyniad hwn ac rwy'n ddiolchgar iddynt oll am eu hymdrechion sylweddol. Mae'n bwysig cydnabod bod sicrhau gwariant llawn o'r rhaglen wedi'i gyflawni yn erbyn cefndir o heriau digynsail i ffermwyr a chymunedau gwledig. Mae effeithiau parhaus ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, pandemig Covid 19, y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith sylweddol ar bobl a busnesau yng Nghymru heddiw.
Rwyf hefyd am ddiolch i'n partneriaid yn y Comisiwn Ewropeaidd a chydnabod eu cefnogaeth ddiwyro drwy gydol oes y Rhaglen hon ers iddi ddechrau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ddechrau'r 1990au. Er gwaethaf ein hymadawiad â'r UE a diwedd ein hymwneud â'r Rhaglen, edrychaf ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid Ewropeaidd yn y dyfodol.
Ymrwymais i sicrhau bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei wario’n llawn ac mae hyn wedi'i gyflawni. Wrth inni symud tuag at weithredu ein cymorth cwbl ddomestig i ffermwyr a chymunedau gwledig, byddwn yn gweithio i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r llwyddiannau a gyflawnwyd gan y Rhaglen er budd Cymru yn y dyfodol.