Cyfarfod y Cabinet: 20 Tachwedd 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 20 Tachwedd 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
Ymddiheuriadau
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio (eitem 4)
- Christine Wheeler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd (eitem 4)
- Mark Alexander, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Maes Rheoli Tir (eitem 5)
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 a 16 Tachwedd.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Digwyddiad Pen-blwydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
2.1 Siaradodd y Gweinidogion am eu presenoldeb yn Nigwyddiad Pen-blwydd 20+ Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, a gafodd ei gynnal yng Nghaerdydd y dydd Iau blaenorol. Roedd y digwyddiad yn noson o adloniant a dathlu i gyd-fynd â'r Wythnos Ryng-ffydd Ryngwladol.
Ymweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi mynychu digwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd ar y dydd Iau blaenorol. Y gwesteion anrhydedd oedd cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hiliary Clinton, a oedd wedi rhoi benthyg ei henw i Ysgol y Gyfraith yn y Brifysgol, a'i gŵr, y cyn Lywydd, Bill Clinton. Roedd llawer o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau, gyda chynulleidfa o 600 ar gyfer y drafodaeth ar yr heriau byd-eang presennol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio rheolaidd wedi ei drefnu ar gyfer 4:10pm ddydd Mawrth, ac y byddai Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinwedd) (Cymru) yn dilyn hyn, gyda phleidleisio ar y gwelliannau drwy gydol yr amser. Yr amser pleidleisio fyddai tua 5.55pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cynnydd o ran Newid Hinsawdd a Phontio Teg
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i osod yr ymateb statudol i adroddiad cynnydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar liniaru'r newid yn yr hinsawdd, gan nodi'r risgiau a'r camau gweithredu sy'n dod yn rhan o waith portffolios yn sgil adroddiad y Pwyllgor ar addasu.
4.2 Hefyd, gofynnwyd i'r Gweinidogion gytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar Fframwaith Pontio Teg.
4.3 Y polisi cyntaf yng Nghymru Sero Net oedd sicrhau bod pontio teg a chyfiawn yn digwydd wrth symud i economi carbon isel. Roedd y papur yn cynnwys ymgynghoriad arfaethedig ar Fframwaith Pontio Teg, gyda phecyn cymorth cysylltiedig. Roedd yr ymgynghoriad hwn wedi cael ei lywio gan Alwad am Dystiolaeth a ddaeth i ben ar 15 Mawrth.
4.4 Nod y Fframwaith oedd gosod gweledigaeth ar y cyd ar gyfer sut y byddai Cymru yn cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer sero-net. Roedd yn nodi sut y gellid gwneud cydlynu a chydlyniant yn rhan o ffordd o feddwl pobl a sut maent yn ymateb i newidiadau. Roedd hefyd yn darparu ffynhonnell o wybodaeth ac arweiniad i alluogi’r rhai sy’n ysgogi’r newid i wneud hynny mewn ffordd a fyddai'n ceisio rhoi sylw i'r anghydraddoldebau presennol ac osgoi creu anghydraddoldebau newydd.
4.5 Bwriad y Fframwaith hwn oedd helpu gwneuthurwyr polisi a busnesau yng Nghymru gyda'u syniadau a'u camau gweithredu.
4.6 Roedd adroddiad cynnydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, yn cydnabod y camau cadarnhaol a oedd wedi eu cymryd yng Nghymru, megis ym maes sgiliau, swyddi ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
4.7 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod bod Newid Hinsawdd yn cael effaith ar batrymau'r tywydd yng Nghymru, gyda mwy o gyfnodau o law trwm, a mwy o gyfnodau o wres uchel a allai arwain at amodau sychder. Roedd hyn eisoes yn cael goblygiadau i iechyd pobl, gyda mwy o alw ar wasanaethau, ac roedd yn debygol o gael effaith ar bolisïau'r Llywodraeth.
4.8 Er mwyn cynyddu'r ddibyniaeth ar ynni adnewyddadwy, cytunodd y Gweinidogion y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ailwampio seilwaith y grid.
4.9 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.
Eitem 5: Cymorth Fferm yn y Dyfodol
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r cynnydd a wnaed o ran llunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a'r bwriad i ymgynghori ar hyn ac elfennau eraill o gymorth fferm ar ddiwedd y flwyddyn.
5.2 Amlinellodd y papur y cynnydd a wnaed o ran llunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy fodelu, cyd-ddylunio a defnyddio adborth gan randdeiliaid.
5.3 Roedd y Cynllun yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a'r pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy, ac roedd yn gydnaws â rhwymedigaethau'r Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ei fod yn cyfrannu at y nodau llesiant a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
5.4 Bwriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy oedd bod yn brif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol, gan ddisodli Cynllun y Taliad Sylfaenol.
5.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi'r bwriad i gynnal ymgynghoriad ar gymorth fferm ar ddiwedd y flwyddyn.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023