rgb(0,0,0)
rgb(83,55,135)
Teulu Cymru: cymorth i deuluoedd yng Nghymru
Bod yn rhiant yw'r swydd fwyaf gwerthfawr yn y byd, ond weithiau gall fod yr anoddaf. Rydyn ni yma i helpu a gwneud pethau ychydig yn haws, gobeithio.
Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth am ofal plant neu gymorth ariannol, gall Teulu Cymru helpu. Mae’n cynnig cyngor gan arbenigwyr, yn ogystal ag awgrymiadau a gwybodaeth arall i'ch helpu ar hyd y daith.
Mae Teulu Cymru yn darparu gwybodaeth am y canlynol:
Croeso i’r teulu!
Gwybodaeth am wasanaethau sy'n darparu cefnogaeth i rieni a gofalwyr yn eich ardal.
Cymorth gyda chostau gofal plant i rhieni cymwys sydd â phlant 3 i 4 oed yng Nghymru.
Cymorth blynyddoedd cynnar mewn ardaloedd penodol.
O rai bach i bobl ifanc, awgrymiadau seiliedig ar brofiad ar gyfer pob cam o'r daith.
Amrywiaeth o adnoddau a chyngor i annog eich plentyn bach i siarad.
Canllaw i'r gyfraith yng Nghymru a sut rydym yn diogelu plant a'u hawliau.
Cefnogi eich plentyn i ddysgu Cymraeg, neu ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cefnogaeth i ofalu am les pawb yn y teulu.
Cymorth i gael prydau ysgol am ddim a hanfodion eraill.
Cymorth i dalu am ofal plant i rieni sy'n gweithio.
Cymorth gyda chostau byw.