Neidio i'r prif gynnwy

Esbonio sut mae'r drefn a'r digwyddiad yn cael ei benderfynu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pennu gweithdrefn ar gyfer apeliadau cynllunio: apeliadau adeiladau rhestredig, a cheisiadau a alwyd i mewn

Gellir penderfynu ar apeliadau trwy sylwadau ysgrifenedig, Gwrandawiad, Ymchwiliad, neu gyfuniad o’r tri. Bydd y dewis o weithdrefn yn dibynnu’n bennaf ar y graddau y mae angen profi tystiolaeth trwy archwiliad llafar. Mae’n bosibl y bydd rhai materion mewn apêl yn cael eu hystyried trwy sylwadau ysgrifenedig tra bod eraill yn cael eu harchwilio trwy Wrandawiad neu Ymchwiliad.

Sylwadau ysgrifenedig

Mae’r weithdrefn ysgrifenedig yn addas pan mae modd deall yn glir y materion cynllunio a godwyd, neu seiliau’r apêl mewn apêl gorfodi, o ddogfennau’r apêl ac archwiliad o’r safle.

Gwrandawiad

Trefnir gwrandawiad os oes angen profi tystiolaeth trwy gwestiynu, ond nid oes angen croesholi na rhoi tystiolaeth ar lw.

Gall yr amgylchiadau gynnwys lle mae anghydfod ynghylch statws neu amgylchiadau personol yr apelydd (mae hyn yn codi’n aml mewn achosion yn ymwneud â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr) neu pan gyflwynir achos busnes i gyfiawnhau annedd menter wledig neu Ddatblygiad Un Blaned. Mewn apêl gorfodi, mae sail yr apêl, y toriad honedig, a gofynion yr hysbysiad, yn gymharol syml.

Ymchwiliad

Mae’n debygol y bydd angen Ymchwiliad lle mae’r materion yn gymhleth ac mae angen archwilio’r dystiolaeth yn fforensig trwy groesholi. Gall yr amgylchiadau gynnwys lle mae angen profi tystiolaeth dechnegol fanwl. Hefyd, lle mae angen rhoi tystiolaeth ar lw neu mae’r toriad honedig a/neu ofynion yr hysbysiad gorfodi yn anarferol ac yn arbennig o ddadleuol.

Diddordeb lleol

Rhoddir yr un pwys i sylwadau a wneir yn ysgrifenedig â’r rhai a wneir ar lafar mewn Gwrandawiad neu Ymchwiliad. Fodd bynnag, lle mae achos wedi creu diddordeb lleol sylweddol, gellir cynnal Gwrandawiad neu Ymchwiliad. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r awdurdod cynllunio lleol nodi pa weithdrefn y mae’n ei hystyried fyddai’n fwyaf priodol, gan ystyried nifer y bobl sy’n debygol o fynychu a chymryd rhan yn y digwyddiad. Byddwn ni’n ystyried y cyngor hwnnw wrth wneud penderfyniad ynghylch y weithdrefn briodol.

Dewis o ddigwyddiadau rhithwir, hybrid neu wyneb yn wyneb

Oherwydd y pandemig coronafeirws, cynhaliwyd pob digwyddiad llafar yn rhithiol, ac mae hyn wedi arwain at nifer o fanteision gan gynnwys llai o ôl troed carbon, llai o gostau a gwell hygyrchedd i rai partïon â buddiant. Nid yw’r arolygwyr yn llai cadarn, yn llai trylwyr neu’n llai holgar mewn digwyddiadau rhithiol nag y maent mewn digwyddiadau personol. Yn ein profiad ni, mae pob parti sy’n dymuno cymryd rhan wedi gallu gwneud hynny’n llawn. Felly, yn y dyfodol, y man cychwyn fel arfer fydd cynnal Gwrandawiadau ac Ymholiadau yn rhithiol. Serch hynny, cydnabyddir y gall fod amgylchiadau lle gallai digwyddiad personol fod yn fwy priodol.

Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn ystyried ceisiadau am ddigwyddiadau personol, gan ystyried: materion iechyd a diogelwch, lefel y diddordeb mewn bod yn bresennol i gymryd rhan mewn digwyddiad, barn yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol, amgylchiadau partïon yr apêl, manylion yr achos a natur y dystiolaeth sy’n cael ei harchwilio, argaeledd mangre addas mewn lleoliad hygyrch yn agos at safle’r apêl, ac i ba raddau y gallai mynediad at y cyfarpar angenrheidiol neu broblemau cysylltedd amharu ar gyfranogiad rhithiol neu ei atal. PCAC fydd yn penderfynu’n derfynol ar y math o ddigwyddiad, gan roi sylw i’r ystyriaethau uchod.

Lle bo angen, bydd PCAC yn archwilio, gyda’r awdurdod cynllunio lleol, y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau hybrid, lle bydd rhai cyfranogwyr yn mynychu’n bersonol ac eraill yn ymuno’n rhithiol.

P’un a gynhelir Gwrandawiadau neu Ymchwiliadau yn rhithiol neu’n bersonol, mae’r Arolygydd yn ymweld â phob safle.