Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad o sut y gallwch ddod yn Gynllunydd Coetir Cofrestredig.

Cam 1: dod yn gynllunydd coetir cofrestredig

Os ydych chi'n gynllunydd coetir, bydd angen ichi: 

  • fodloni’r meini prawf o ran bod yn gymwys
  • cwblhau'r broses ymgeisio
  • cytuno â'r Telerau ac Amodau 

er mwyn cael eich ychwanegu at y Gofrestr.

Rydym yn rhestru busnesau Cynllunwyr Coetiroedd ar y gofrestr yn ôl y rhanbarthau lle maen nhw'n gweithio. Bydd angen ichi lenwi ffurflenni cais ar gyfer: 

  • y busnes, a'r 
  • cynllunwyr coetir cofrestredig unigol yr ydych yn eu cyflogi 

Byddwn yn ychwanegu'r wybodaeth hon at y gofrestr, er mwyn i gwsmeriaid fedru cysylltu â'r cynllunwyr yn uniongyrchol. 

Pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys i gael eich cynnwys ar y gofrestr:

  • rhaid bod gan fusnes dystiolaeth i ddangos bod ganddo Yswiriant Indemniad Proffesiynol cyfredol hyd at £500,000
  • rhaid i gynllunwyr coetir cofrestredig unigol naill ai:

    • fod yn aelod o Sefydliad Siartredig, er enghraifft:
      • Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (ICF)
      • Sefydliad Siartredig yr Ecolegwyr a Rheolwyr Amgylcheddol (CIEEM)
      • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), 

          a chadw at God Moeseg y sefydliad proffesiynol hwnnw, neu,

    • ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod wedi ysgrifennu cynlluniau coetir sy'n bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf

Y broses ymgeisio

Bydd angen i'r busnes:

  • lenwi a llofnodi'r ffurflen gais ar gyfer busnesau cynllunwyr coetir 
  • darparu Yswiriant Indemniad Proffesiynol ar gyfer yr holl gynllunwyr yn y busnes 
  • sicrhau bod pob cynllunydd wedi darllen y Telerau a'r Amodau
  • sicrhau bod pob cynllunydd wedi llenwi a llofnodi'r ffurflen ar gyfer cynllunwyr unigol
  • anfon tystiolaeth ar gyfer pob cynllunydd coetir i ddangos bod ganddo Statws Siartredig neu ei fod wedi ysgrifennu cynlluniau coetir sy'n bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf 

Bydd angen i gynllunwyr unigol:

  • ddarllen a chytuno â'r telerau a'r amodau   
  • lenwi a llofnodi'r ffurflen ar gyfer unigolion
  • anfon tystiolaeth i ddangos:
    • bod ganddynt Statws Siartredig (aelodaeth flynyddol drwy'r busnes), neu 
    • eu bod wedi ysgrifennu cynlluniau coetir sy'n bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf 

Ar ôl llenwi'r ffurflenni cais, dylech eu hanfon at Cynllunwyr Coetiroedd@llyw.cymru

Byddwn yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gael eich cynnwys ar y Gofrestr Cynllunwyr Coetir. 

Cam 2: y gofrestr cynllunwyr coetir cofrestredig

Rhaid i bob busnes cymwys gofrestru i gael Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Bydd hynny'n caniatáu i ymgeiswyr am grantiau eich dewis chi yn gynllunydd pan fyddant yn gwneud cais am gyllid trwy WPR. Bydd hefyd yn caniatáu ichi  gyflwyno cynlluniau coetir drwy'r system ar-lein. 

Unwaith y bydd gennych CRN, rhaid ichi gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid (0300 062 5004). Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. Byddant yn llenwi 'ffurflen ychwanegu unigolyn' ar eich rhan. Bydd hynny'n sicrhau bod cynllunwyr unigol (yn ogystal â'r busnes) ar y gofrestr. 

Adolygu'n rheolaidd

Rydym yn monitro'r Gofrestr Cynllunwyr Coetir i sicrhau bod y cynllunwyr sydd arni yn dal i fodloni'r meini prawf. Byddwn yn tynnu unrhyw fusnesau neu unigolion nad ydynt bellach yn bodloni'r meini prawf o'r ddwy gofrestr. 

Rhaid ichi roi gwybod inni:

  • os bydd eich busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu
  • os byddwch chi neu un o'r cynllunwyr yn eich busnes:
    • yn symud i fusnes coedwigaeth arall
    • yn ymddeol, neu'n 
    • rhoi'r gorau i arfer coedwigaeth

Gallwch gysylltu â ni drwy CynllunwyrCoetiroedd@llyw.cymru. Byddwn yn mynd ati wedyn i ddiweddaru'r ddwy gofrestr.