Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld rhagor o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau gyda llawer llai angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod y cyfnod y mae pobl ifanc yn ei dreulio mewn gofal mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio’r ffordd rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau sy’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol ac yn atebol yn lleol.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal’ fel elfen allweddol o’r agenda radical hon.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar ddarpariaeth gofal preswyl preifat i blant, ochr yn ochr â gofal maeth yn y sector annibynnol.

Mae Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth wedi'i sefydlu i fwrw ati â'r gwaith technegol a datblygu i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, ffurfio ein dull gweithredu yn y dyfodol a sefydlogi'r farchnad.

Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen – 22 Tachwedd 2023

Cynnydd

Cynhaliwyd cyfarfod arall o'r Grŵp Cyflawni ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Plant a'r Bwrdd Trosolwg Gweinidogol ym mis Hydref.

Ar 22 Hydref 2023, cynhaliwyd Uwchgynhadledd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Phrofiad o Fod Mewn Gofal yn y Gogledd, lle'r oedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol.

Roedd y Siarter Rhianta Corfforaethol bellach wedi'i lansio'n gyhoeddus ac roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu pecyn cymorth a chynllun ymgysylltu, ac i gryfhau'r canllawiau.

Byddai'r gwerthusiad o'r cynllun peilot ysgolion rhithwir yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Roedd 13 o awdurdodau lleol wedi cymryd rhan.

Roedd fframwaith monitro newydd wedi'i sefydlu gydag awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer darpariaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.

Roedd canllawiau diwygiedig yn cael eu cwblhau'n derfynol ar yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, a'r bwriad oedd dechrau'r hyfforddiant ym mis Ionawr a lansio'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2024.

Roedd y cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol bellach wedi dod i ben, ac roedd y gwerthusiad yn mynd rhagddo.

Roedd swyddogion wedi parhau i gyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod eu Strategaethau Comisiynu Lleoliadau.

Roedd wedi cymryd dipyn o waith ac amser i gwblhau cyfarwyddiadau polisi ar gyfer y Bil Gofal Cymdeithasol o ystyried y cymhlethdodau dan sylw.

Ffrwd gwaith cam 2

Roedd y pedair ffrwd waith wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd i gefnogi gwaith y Bwrdd Rhaglen.

Cynhaliwyd gweithdy hefyd ar 20 Tachwedd 2023 gyda chefnogaeth aelodau o ffrwd waith 3 i ddarparu cyngor arbenigol ar drosglwyddo i fodel nid-er-elw ar gyfer darparwyr er elw cyfredol. Ymunodd llawer o bobl â'r digwyddiad, ac mae'r adborth a gafwyd yn ei sgil yn cael ei ddwyn ynghyd.

Strategaethau comisiynu lleoliadau awdurdodau lleol

Roedd awdurdodau lleol wedi bod yn adolygu eu Strategaethau Comisiynu Lleoliadau, llawer ohonynt gyda chefnogaeth Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant.

Yr her allweddol a nodwyd oedd rhag-weld anghenion yn y dyfodol. Roedd hyn yn gysylltiedig â'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch sut i weithredu'r polisi. Hyd nes y byddai syniad clir o nifer y darparwyr er elw a fyddai'n trosglwyddo i fodel nid-er-elw, roedd yn anodd rhag-weld yr anghenion.

Cyfathrebu

Dosbarthwyd Cynllun Gweithredu Cyfathrebu drafft i aelodau i ystyried ymhellach pa ddulliau cyfathrebu wedi'u teilwra oedd eu hangen a'r camau nesaf i ddatblygu'r dulliau hyn.

Roedd angen i'r gwaith o ddatblygu dulliau cyfathrebu fod yn broses ailadroddol, gan weithio gydag aelodau'r Bwrdd a'r ffrydiau gwaith i ddatblygu'r cynnwys a chynghori ar fecanweithiau dosbarthu. Byddai hyn yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael negeseuon wedi'u targedu.

Roedd diweddariad cyffredinol wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a'i ddosbarthu i holl aelodau'r Bwrdd a'r ffrydiau gwaith er mwyn iddynt ei rannu â'u rhwydweithiau.