Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Cynhaliwyd rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cenedlaethol y DU ym Manceinion Fwyaf ym mis Tachwedd Roedd myfyrwyr, prentisiaid a gweithwyr, rhwng 16 a 24 fel arfer, yn cystadlu am fedalau mewn pedwar categori: adeiladu a seilwaith; digidol , busnes a chreadigol; peirianneg a thechnoleg; iechyd, lletygarwch a ffordd o fyw.
Dechreuodd taith y cystadleuwyr o Gymru ym mis Tachwedd 2022 gyda'n Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ein hunain a dynnodd 1,100 o bobl ifanc i gystadlu; symudodd 100 o enillwyr o Gymru ymlaen i Rownd Derfynol Sgiliau Cenedlaethol y DU. Enillodd Cymru gyfanswm o 55 o fedalau (naill ai medalau aur, arian, efydd neu medalau rhagoriaeth cymeradwyaeth uchel) ar draws ystod eang o ddisgyblaethau
Yn y datganiad ysgrifenedig hwn, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r rhestr o enillwyr o Gymru.