Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Fel ymateb i'r tywydd twym a sych a gawsom yn gynharach yr haf hwn, cynullais nifer o randdeiliaid yn y Sioe Frenhinol i drafod yr hyn y dylai'r Llywodraeth a'r diwydiant ei wneud gyda'i gilydd i leddfu'r problemau sy'n wynebu ffermwyr o'i herwydd. Mae'r drafodaeth honno â chynrychiolwyr y diwydiant wedi mynd rhagddi yn sioeau amaethyddol yr haf a chafwyd sgwrs hefyd ar lefel swyddogion.
Er bod y tywydd a'r sefyllfa o ran porthiant anifeiliaid wedi gwella, rwy'n dal yn bryderus am y goblygiadau o ran costau a faint o borthiant fydd ar gael i fusnesau fferm yn y tymor canolig a hir. Fel cydnabyddiaeth o'r amgylchiadau eithriadol hyn, rwyf wedi penderfynu creu cynllun benthyca i ffermwyr.
Yn unol â rheoliadau Ewrop, cyfnod talu'r BPS fydd 1 Rhagfyr i 30 Mehefin, ac o ddilyn patrwm ardderchog y gorffennol yma yng Nghymru, rwy'n disgwyl y bydd 90% o fusnesau fferm Cymru yn cael eu taliadau BPS ar ddiwrnod un. Er mwyn sicrhau bod pob hawlydd yn cael yr un tegwch, rwyf am gynnig benthyciad i'r 10% o fusnesau fferm nad yw eu hawliadau BPS wedi cael eu dilysu eto ac felly na fydd modd eu talu o dan reoliadau Ewrop.
Bydd angen i ffermwyr wneud cais am fenthyciad ar ôl i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) gyhoeddi'r manylion llawn a darparu ffurflen gais ar-lein yn yr hydref. O fodloni'r amodau a'r telerau, caiff y busnes fferm fenthyciad o 70% o werth y BPS 2018 y disgwylir iddo ei hawlio a chaiff ei dalu iddo ddechrau mis Rhagfyr 2018. Byddwn yn dechrau talu busnesau fferm sydd â chontractau Glastir ym mis Ionawr 2019, yn unol â'r bwriad.
Trwy roi gwybod i ffermwyr am y penderfyniad hwn nawr, rhoddir y sicrwydd a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i allu rheoli'u llif arian a chynllunio'u cyllid yn y tymor hwy, yn enwedig trwy'r gaeaf nesaf.
Rwy'n sylweddoli bod Undebau'r Ffermwyr wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu taliadau BPS 2018 yn gynt. Yn fy marn i, ni fyddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol gan na fydd talu rhagdaliadau ym mis Hydref yn lleddfu effeithiau tymor byr na hir y tywydd eithriadol, a byddai'n creu anghydraddoldeb rhwng busnesau gan y byddai rhai'n derbyn taliad BPS ac eraill ddim.
Mae’r Undebau'r Ffermwyr eu hunain yn cydnabod y byddai'n creu sefyllfa annheg a mwy o broblemau. Felly, byddai cynnig benthyciad yn ateb tecach a gwell i'r amgylchiadau anodd sy'n wynebu busnesau fferm eleni.
Yn y tymor byr, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith ar y teuluoedd eu hunain. O’r herwydd, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r elusennau amaethyddol, er mwyn penderfynu sut orau y gall y Llywodraeth roi help llaw iddynt. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau ariannol sy’n wynebu ffermwyr ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad o £500,000 er mwyn helpu i gynnig cymorth yn y tymor byr i’r teuluoedd hynny yng Nghymru sydd leiaf abl i dalu costau byw.
Dylai ffermwyr sy'n cael trafferthion â'u llif arian gysylltu â'u banc neu ein gwasanaeth Cyswllt Fferm. Gall Cyswllt Fferm gynghori pa gyrff all eu helpu ac mae ganddo nifer o fesurau i helpu busnesau i adolygu a chryfhau'u sefyllfa. Byddwn yn annog ffermwyr i gysylltu â Cyswllt Busnes i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig.
Byddaf yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa a bydd fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad a'r diwydiant. Os bydd Aelodau'r Cynulliad am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.