Creu natur ar garreg eich drws.
Cynnwys
Cyflwyniad
Sefydlwyd 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' yn 2020 i greu 'natur ar garreg eich drws'. Y syniad oedd:
- creu ardaloedd sy'n cefnogi natur o fewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac o gwmpas trefi
- annog mwy o werthfawrogiad a gwerth o natur
- creu mwy o fannau gwyrdd, gan anrhydeddu ein hymrwymiad i wneud hynny
- cefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach
Nid yw lleoedd lleol ar gyfer natur yn penodi yr hyn y mae'n ei gefnogi. Mae'n hyrwyddo dull o'r gwaelod i fyny lle arweinir gweithgaredd gan y gymuned.
Cynlluniau
Bellach yn ei bedwaredd blwyddyn, mae'r rhaglen LPfN yn cael ei chyflwyno trwy bum cynllun unigol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
Cynllun Pecynnau Cymunedol a ddarperir gan Cadwch Gymru'n Daclus (KWT)
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (ar keepwalestidy.cymru)
Pecynnau gardd rhagdaledig i grwpiau cymunedol bach i greu gerddi natur. Mae hefyd yn cynnig pecynnau datblygu mwy i sefydliadau o fewn yr un rhaglen.
Cynllun Partneriaethau Natur Lleol (LNP) a ddarperir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Partneriaethau Natur Lleol Cymru (ar lnp.cymru)
Cyflwynir drwy Bartneriaethau Natur Lleol ym mhob Awdurdod Lleol a'r tri Parc Cenedlaethol. Mae 3 elfen i'r cynllun hwn:
- cyllid refeniw
- cyllid cyfalaf, a
- cyllid grant cystadleuol (cronfa her)
Cynllun Adeiladu Capasiti Arfordirol a ddarperir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol (CGGC) (ar wcva.cymru)
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2022/23 mae hwn yn gynllun newydd ar gyfer 2023/24. Mae'n creu rhwydweithiau mewn rhanbarthau arfordirol i:
- wella natur
- creu cadernid economaidd a chymdeithasol
Cynllun Grant Cyfalaf Mynediad Agored a ddarperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Cyfalaf Natur (ar heritagefund.org.uk)
Cynllun grant cystadleuol ar gyfer sefydliadau nid-er-elw. Darparu prosiectau cyfalaf mewn ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig at natur.
Cynllun Chwalu Rhwystrau a ddarperir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau (ar heritagefund.org.uk)
Cynllun ar gyfer cymunedau sydd wedi'u heithrio ac ar y cyrion. Bydd y cynllun yn nodi ac yn cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad cymunedol ym myd natur.