Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn yr Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd yn San Fransisco gydag arweinwyr llywodraethau, busnesau a chymdeithasau sifil o bedwar ban byd. Ein nod oedd "Symud y Gwaith Ymlaen i'r Lefel Nesaf".
Mae Cymru wedi ymrwymo ers tro i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Roedden ni’rgenedl masnach deg gyntaf y byd. Yn fwy diweddar, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er mwyn cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gan wneud hynny drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ar adegau o adfyd a newid ym mhedwar ban byd, mae'n arbennig o bwysig ein bod yn parhau i drafod a gweithio gyda phartneriaid eraill ar un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu.
Yn ystod yr uwchgynhadledd, bûm yng Nghynulliad Cyffredinol y Gynghrair o Dan2. Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf i ymuno â’r Gynghrair pan gafodd ei sefydlu. Mae'r gynghrair wedi tyfu o ran cryfder ac o ran niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae 206 o awdurdodaethau o 43 o wledydd yn aelodau o'r gynghrair erbyn hyn, ac o gyfrif yr holl aelodau gyda'i gilydd, mae ei chynnyrch domestig gros bron yn $30 triliwn, sy'n cyfateb i bron 40% o economi'r byd. Gyda'i gilydd, mae aelodau'r Gynghrair o Dan2 yn cymryd mwy na 2,300 o gamau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd mewn sectorau fel adeiladu, ynni, trafnidiaeth, defnydd tir, a mwy. Roeddwn yn falch o glywed yng Nghynulliad y Gynghrair fod Cymru wedi cael ei chadarnhau unwaith eto yn un o aelodau'r Grŵp Llywio ar gyfer Ewrop. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid yn ystod y blynyddoedd nesaf i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac i rannu'r hyn a ddysgir.
Mae Cymru yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb byd-eang. Fel gwlad a fu unwaith yn rheng flaen y chwyldro diwydiannol ac yn gartref i’r porthladd glo mwyaf yn y byd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni newid i economi sy’n lân ac yn isel o ran carbon. Dyna pam yr aeth Cymru ati yn yr Uwchgynhadledd, ar y cyd â 9 aelod arall, i ymaelodi â'r Powering Past Coal Alliance, sy'n golygu bod gan y Gynghrair bellach 74 o aelodau. Mae aelodau'r Gynghrair, sy'n cael ei harwain gan Ganada a Llywodraeth y DU, yn llywodraethau, dinasoedd a sefydliadau sy'n ymrwymedig i weld y byd yn troi ei gefn ar losgi glo ac yn defnyddio ffynonellau pŵer glanach yn ei le.
Yn ogystal ag ymuno ag eraill yn y Gynghrair, rydym yn cydnabod hefyd y gallwn helpu eraill i newid. Y weledigaeth sy'n sail i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw rhannu byd datblygedig a chynaliadwy, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei newid fel cenhedloedd unigol. Yn hytrach, mae'n fater y mae angen inni gydweithio yn ei gylch. Dyna pam y mae Cymru wedi ymrwymo unwaith eto i gefnogi Cronfa'r Dyfodol a sefydlwyd gan Grŵp yr Hinsawdd, gan gydnabod bod gennym gyfrifoldeb byd-eang a bod yn rhaid inni gydweithio ar yr her hon sy'n wynebu gwledydd ym mhedwar ban byd. Nod y gronfa yw cryfhau economïau sy'n datblygu ac sy'n dechrau dod i'r amlwg, gan wneud hynny ar lefel y wladwriaeth, a'u galluogi i gynnig arweinyddiaeth gadarn ar y newid yn yr hinsawdd, i feithrin gallu, ac i hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth.
Euthum ati hefyd i rannu'r gwersi a ddysgwyd o'r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru mewn meysydd megis gwastraff, lle'r rydym wedi dringo o fod bron ar waelod cynghrair ailgylchu'r UE yn 2000. Erbyn hyn, ni yw'r orau yn y DU am ailgylchu a’r orau ond un yn Ewrop. Pe bai Cymru yn cael ei chydnabod yn aelod-wladwriaeth, ni fyddai'r drydedd orau yn y byd. Roeddwn yn falch bod Cymru yn cael ei chydnabod yn un o'r rhanbarthau sydd ar flaen y gad ym maes gwastraff a’i bod wedi cael sylw yn llawlyfr digarbon rhyngwladol Sefydliad y Mynydd Creigiog, sy'n edrych ar ffyrdd o weithredu ar ddatgarboneiddio nad oes iddynt anfanteision. Er ein bod wedi dod yn ein blaen yn dda yn y maes hwn, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau ac nid ydym wedi cyrraedd y brig eto. Mae Cymru, ochr yn ochr â rhai o ddinasoedd a rhanbarthau mwyaf blaenllaw'r byd, wedi llofnodi Datganiad Tuag at Ddyfodol Diwastraff Dinasoedd y C40.
Ni fyddwn ni nac unrhyw un arall yn llwyddo i newid oni bai ein bod yn rhannu'r hyn yr ydym yn ei ddysgu, yn rhannu’n syniadau ac yn rhannu'r camau yr ydym wedi'u cymryd. Mae uwchgynadleddau fel hyn yn gyfle perffaith i wneud hynny a chefais nifer o gyfarfodydd dwyochrog gyda gwladwriaethau a rhanbarthau eraill fel Columbia Brydeinig, Baden-Württemberg, Gwlad y Basg a Quebec. Cefais gyfle hefyd, drwy sgyrsiau a thrafodaethau panel, i rannu gwybodaeth am yr hyn y mae Cymru yn ei wneud.
Bydd y gwersi ehangach a ddysgwyd a'r arferion gorau a welwyd yn ystod yr uwchgynhadledd, ynghyd â'r ymatebion i'n hymgynghoriad "Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030", a fydd yn agored tan 4 Hydref, yn helpu i lywio'r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol ac yn ein helpu i greu'r amryfal gyfleoedd sy'n gysylltiedig ag economi carbon isel.