Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr aelodau'n cofio fy nghyhoeddiad ar 17 Ebrill a oedd yn rhoi cyfarwyddyd i ddechrau ar y gwaith o ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol i ganiatáu i feddyginiaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd gael ei chymryd yn y cartref.
Rwy'n falch o allu dweud bod y gymeradwyaeth, sy'n caniatáu i'r ail ddos o feddyginiaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd gael ei chymryd yn y cartref, wedi ei rhoi i fyrddau iechyd heddiw.
Mae'r hysbysiad ysgrifenedig ar gael yma:
https://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/nhswales/2018/2018direct56/?skip=1&lang=cy
Bydd y newid mewn arferion yn gwella ansawdd y ddarpariaeth terfynu beichiogrwydd i fenywod, gan mai dim ond unwaith y bydd angen i fenyw fynd i'r clinig, ac wedyn bydd yn cael cymryd ail ddos y feddyginiaeth yn ei chartref ei hunan. Bydd y drefn hon hefyd yn lleihau'r baich presennol ar adnoddau clinigol, gan ryddhau mwy o apwyntiadau i fenywod eraill sydd am ddefnyddio gwasanaethau terfynu beichiogrwydd, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau terfynu beichiogrwydd yn gynharach yng nghyfnod eu beichiogrwydd.