Neges Blwyddyn Newydd gan Mark Drakeford.
Yn ei neges Blwyddyn Newydd mae'r Prif Weinidog yn dweud:
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
Gobeithio i chi gael Nadolig hapus a heddychlon.
Ar ddiwedd blwyddyn arall, ac ar drothwy Dwy Fil a Dau Ddeg Pedwar, mae’n naturiol meddwl am y dyfodol.
Dyma’r amser i wneud cynlluniau am y flwyddyn.
Addunedau blwyddyn newydd.
A meddwl am y newidiadau sydd i ddod.
Wrth gwrs, bydd y flwyddyn hon yn dod â newid personol mi. Hon fydd fy neges Blwyddyn Newydd olaf i fel Prif Weinidog Cymru.
Ond, tan hynny, byddaf yn canolbwyntio ar y job sydd gen i, ac yn delifro ar fy addewidion i chi.
Ar droad y flwyddyn, ein gobaith yw gweld diwedd ar y rhyfela erchyll a’r trais ofnadwy a welsom eleni a’r llynedd, yn enwedig yn Wcráin.
A rhaid i’r ymladd stopio yn y Dwyrain Canol. Rhaid i ni weithio’n galetach i ffeindio llwybr at heddwch parhaol sy’n rhoi tegwch i bobl Palesteina ac Israel.
Mae dydd Calan bob amser yn cynnig dechrau newydd, a dwi’n siwr bod gan bawb ei obeithion ei hun am y flwyddyn hon.Ond dwi’n siŵr hefyd bod pob un ohonom yn gobeithio am heddwch ac amseroedd gwell yn Nwy Fil a Dau Ddeg Pedwar.