Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 9 Hydref 2018, rhoddais Ddatganiad Llafar i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y pryderon sydd wedi codi am y ddarpariaeth bresennol o ofal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Gwnes ymrwymiad bryd hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynnydd a gafwyd, a byddaf yn darparu'r wybodaeth honno yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Fel rhiant fy hunan, rwy'n deall y pryder a'r straen y bydd y mater hwn wedi eu hachosi i rieni sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd, neu sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal ymchwiliad llawn i'r hyn sydd wedi arwain at y sefyllfa hon, ac i'r gwelliannau y bydd eu hangen i’w hunioni. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'r staff, a hoffwn eu canmol am eu gwaith caled, yn enwedig y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd ar hyn o bryd, a'u hyblygrwydd o ran sicrhau bod lefelau staffio'n briodol ar draws y gwasanaeth.
Er mwyn cynnal ymchwiliad llawn a thryloyw i'r canlyniadau niweidiol hyn, ymrwymais i gomisiynu adolygiad allanol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Cwm Taf. Bydd yr adolygiad yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fe gyhoeddir ei gasgliadau yn y gwanwyn 2019. Diben yr adolygiad yw rhoi sicrwydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Llywodraeth Cymru fod y gwasanaethau mamolaeth yn darparu gofal diogel ac effeithiol i famau a babanod.
Gan adeiladu ar y gwaith adolygu y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud eisoes, gofynnwyd yn benodol i'r tîm adolygu ddarparu cyngor ar y camau pellach y byddai angen eu cymryd i sicrhau bod gofal diogel o ansawdd uchel yn cael ei roi i famau a babanod, ac i wella'r systemau llywodraethu a sicrwydd yn unol â safonau cenedlaethol a'r arferion gorau.
Bydd yr adolygiad yn cynnwys asesu perfformiad a strwythur y gwasanaethau mamolaeth yn erbyn safonau cenedlaethol a’r meincnodau priodol er mwyn nodi'r meysydd allweddol lle mae angen gwella. Bydd hefyd yn cynnwys adolygu'r newidiadau y mae'r Bwrdd Iechyd eisoes wedi eu cyflwyno i systemau a phrosesau er mwyn sicrhau bod nodi, adrodd, ymchwilio a dysgu yn digwydd yn amserol mewn perthynas â digwyddiadau difrifol, gan roi cyngor ar y camau i'w cymryd i sicrhau bod systemau a phrosesau'n fwy addas i'w diben. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar unrhyw ofynion ar gyfer ymestyn yr adolygiadau ôl-weithredol o achosion (cyn mis Ionawr 2016). Caiff y camau sy'n rhan o Gynllun Gwella Gwasanaethau Mamolaeth lleol y bwrdd iechyd eu hadolygu, a cheisir cyngor ar unrhyw ofynion ychwanegol a fyddai'n cryfhau neu'n cyflymu'r gwaith o gyflawni amcanion fel y bo'n briodol. Mae'r adolygiad yn gyfle i nodi'r prif gyfleoedd ar gyfer gwella systemau clinigol ac arferion gyda'r nod o wella ansawdd a chanlyniadau, a bydd yn edrych ar unrhyw rwystrau ymarferol neu ddiwylliannol, o fewn y gwasanaeth neu'r sefydliad ehangach, a allai arafu'r broses wella hon.
Wrth edrych i'r dyfodol, bydd yr adolygiad yn ystyried y camau y bydd angen eu cymryd i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau, yn ogystal â'r cyfleoedd i wella ymhellach unwaith y mae gwasanaethau obstetreg sy'n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yn cael eu cyfuno ar un safle o fis Mawrth 2019. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos ag arweinwyr yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod cylch gorchwyl yr adolygiad yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni'n lleol, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cynaliadwy o safon yn cael eu darparu heddiw ac fel rhan o fodel Cwm Taf ar gyfer y dyfodol.
Un o'r pethau y bu'r gwaith yn canolbwyntio arno hyn yma yw sicrhau bod lefelau staffio'n ddiogel a bod arweinyddiaeth glinigol gref ar waith. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n ddiflino dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod y lefelau staffio'n briodol, gan gynnwys y canlynol: mae un fydwraig band 7, a fydd â chyfrifoldebau ym maes profiad y claf, a 6.56 wte (cyfateb i amser llawn) o fydwragedd band 5, wedi dechrau yn eu swyddi ym mis Hydref; bydd 2.26 wte o fydwragedd band 6 yn dechrau ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr; a bydd 5.8 wte arall o fydwragedd band 6 sy’n mynd drwy’r broses wiriadau ar hyn o bryd, yn dechrau yn eu swyddi unwaith y bydd y gwiriadau wedi eu cwblhau. Mae'r bwrdd yn parhau i hysbysebu ar gyfer bydwragedd ac obstetryddion ac mae staff cronfa ac asiantaeth hefyd wedi bod yn cael eu defnyddio yn y tymor byr i wella lefelau staffio. Ar lefel arweinyddiaeth, rydym wedi sicrhau bod cymorth yn cael ei roi gan uwch fydwragedd ychwanegol a bod mwy o gymorth rheoli meddygol ar gael i ddarparu goruchwyliaeth a chyngor. Mae cymorth bydwragedd profiadol yn parhau i gael ei ddarparu gan fyrddau iechyd cyfagos, gan gynnwys gan bennaeth bydwreigiaeth a chan fydwraig sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau llywodraethu.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos â'r bwrdd iechyd, a chynhelir cyfarfodydd monitro bob wythnos i ddarparu sicrwydd bod gwasanaethau'n ddiogel a bod y broses adolygu yn mynd rhagddi'n foddhaol. Mae'r bwrdd iechyd wedi creu Bwrdd Gwella Gwasanaethau Mamolaeth ar y cyd â rhanddeiliaid i fonitro hynt gweithredu'r cynllun; ac mae hefyd yn gweithio'n agos ag Uned Gyflawni Llywodraeth Cymru i adolygu prosesau llywodraethu a sicrhau bod ymchwiliad llawn o ddigwyddiadau'n cael ei gynnal a bod yr hyn a ddysgir yn cael ei drosglwyddo.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r angen i weithredu prosesau cadarn ar draws GIG Cymru ar gyfer adrodd mewn perthynas â digwyddiadau lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le, ysgrifennodd y Prif Swyddog Nyrsio at Brif Weithredwr pob bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd ynghylch y trefniadau adrodd a'r prosesau llywodraethu sydd ar waith. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi darparu'r sicrwydd y gofynnwyd amdano, ac mae Penaethiaid Bydwreigiaeth wedi ymrwymo i adolygu'r mesurau adrodd a ddefnyddir ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y mesurau hynny'n gyson.
Mae gan fenywod sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yr hawl i ddisgwyl y byddant yn cael gofal diogel o ansawdd uchel. Gall geni plentyn achosi pryder, ond mae hefyd yn brofiad sy'n gallu dod â llawenydd mawr. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n canolbwyntio'n uniongyrchol ar les y mamau a'u babanod. Rwyf wedi cael sicrwydd bod camau clir yn cael eu cymryd i sicrhau bod menywod sy'n cael gofal yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn gallu disgwyl y bydd y gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn modd diogel ac ystyriol. Bydd yr adolygiad yn darparu sicrwydd a gwersi ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau ymhellach, ac rwy'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.