Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Cyfarwyddiaeth Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt personol ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadau ac unigolion, er mwyn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid allanol ynghylch materion caffael sy'n effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth hon, ac rydym yn ei phrosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd inni:

I gysylltu â rhanddeiliaid:

  • Rhoi gwybod iddynt am gyfarfodydd, digwyddiadau a/neu hyfforddiant yn ymwneud â chaffael yng Nghymru
  • Rhannu arfer gorau
  • Rhoi gwybod iddynt am waith caffael Llywodraeth Cymru a newidiadau deddfwyr
  • Gofyn am adborth ac ymwneud ar faterion caffael

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws Llywodraeth Cymru, a lle bo angen, gyda phroseswyr data trydydd parti.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd eich data yn cael ei ddileu o fewn 2 flynedd i'r adeg y bydd y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol ei angen er mwyn cyflawni ei dyletswyddau a'i chyfrifoldebau fel corff cyhoeddus. Efallai y bydd eich data yn cael ei archifo am gyfnodau hirach os ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.

Os nad ydych am i'ch manylion aros ar y gronfa ddata mwyach, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost isod.

Eich hawliau yn ymwneud â'ch gwybodaeth

Mae gennych hawl i:

  • Gael mynediad i'r data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch
  • Gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • Yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu
  • Yr hawl i'ch data gael ei 'ddileu' (lle mai cydsyniad yw'r sail gyfreithiol)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Tîm cyfathrebu: CaffaelMasnachol.Cyfathrebu@llyw.cymru

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113