Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Defnydd gorsafoedd rheilffordd
Pwyntiau allweddol
Ffigur 1: Mynediadau ac ymadawiadau gorsafoedd yng Nghymru, 2015-16 to 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar yn dangos nifer o bobl i fewn ac allan o orsafoedd yn ôl blwyddyn ariannol o 2015-16 i 2022-23. Yn 2022-23, bu cynydd yn y nifer o bobl i fewn ac allan o’I gymharu a’r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o amcangyfrifon ORR o ddata defnydd gorsafoedd.
Bu cynnydd o 31.9% yn y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn 2022-23 i 38.3 miliwn o 29.0 miliwn yn y flwyddyn flaenorol (2021-22). Tra bod lefelau defnydd cyffredinol o orsafoedd rheilffyrdd wedi cynyddu o’i gymharu â 2021, nid ydynt hyd yn hyn wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig COVID-19 lle cofnodwyd 50.4 miliwn o bobl i mewn ac allan yn ystod 2019-20.
Mae cyfanswm y bobl a aeth i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru (nifer y bobl sy'n teithio i neu deithio o orsaf) wedi cynyddu rhwng 2020-21 a 2021-22 (o 29.0 miliwn i 38.3 miliwn).
Parhaodd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn is na'r lefelau cyn y pandemig, gyda'r defnydd yn 2022-23 24.0% yn is nag yn 2019-20.
Yn 2022-23 adroddodd 218 gorsaf rheilffordd yng Nghymru gynnydd yn y nifer o bobl i mewn ac allan o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Adroddodd 5 gorsaf ostyngiad.
Caerdydd Canolog oedd yr orsaf brysuraf yng Nghymru, gyda dros chwarter o’r holl bobl i mewn ac allan o orsafoedd yn 2022-23 (Ffigur 2).
Mae’r defnydd o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn cyfrif am tua 1.6% o’r cyfanswm dros y Deyrnas Unedig.
Adroddiadau
Defnydd gorsafoedd rheilffordd: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 853 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.