Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirdymor i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae’r ymrwymiad hwn yn ganolog i waith Ffyniant i Bawb.
Mae gennym darged i godi 20,000 o dai newydd fforddiadwy dros gyfnod y Cynulliad hwn ond rwy eisiau gosod y sylfaen ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau sy’n fwy ymestynnol byth yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o anghenion gwahanol o ran tai. Rwy hefyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i greu hinsawdd sy’n ein hysgogi i fod yn arloesol ac i wneud gwelliannau o ran dyluniad ac ansawdd y tai yn ogystal â bod yn effeithlon o ran ynni.
I gefnogi’r gwaith uchod, rwy’n comisiynu adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadawy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, byddaf yn sefydlu panel annibynnol er mwyn cadw llygad ar y gwaith hwn. Bydd y panel, o dan arweiniad Cadeirydd annibynnol, yn edrych ar ein dull presennol o weithredu a chynnig argymhellion yn ôl yr angen. Rwy wedi gofyn i Lynn Pamment i gadeirio’r grŵp ac rwy’n falch iawn ei bod hi wedi derbyn y cynnig
Mae Lynn yn brif bartner yn swyddfa PwC yng Nghaerdydd ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill yn y sector tai fforddiadwy, ac mae ganddi wybodaeth eang iawn am y sector cyhoeddus yn gyffredinol.
Bydd angen i’r adolygiad sicrhau bod cydbwysedd rhwng y galw cynyddol am dai fforddiadwy a’r pwysau parhaus sydd ar yr arian cyhoeddus sydd ar gael i’w wario ar adeiladu tai.
Fy mwriad yw cynnal adolygiad fydd yn gweithredu ar sail gorchwyl a gorffen, ac rwy’n disgwyl adroddiad ac argymhelliad gan y panel cyn diwedd Ebrill 2019.
Wrth graffu ar y trefniadau presennol ar gyfer darparu tai fforddiadwy, disgwylir i’r grŵp:
- edrych ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y ffynonellau arian cyfatebol a goblygiadau hynny ar gyfraddau ymyrraeth grant
- edrych ar sut y caiff gwaith partneriaeth ei reoli ar hyn o bryd rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ac argymell ffyrdd o wneud y mwyaf o waith o’r fath er mwyn darparu tai yn unol â’r nod o ran cyflenwi tai
- gwerthuso effaith trosglwyddo i ddarparu cartrefi di-garbon erbyn 2020 gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu ar safle arall yn y broses a dulliau modern o adeiladu tai
- rhoi cyngor o ran a ddylid newid y safonau sy’n rheoli dyluniad ac ansawdd tai fforddiadwy
- cynnig argymhellion ynghylch sut y gall polisi rhenti cynaliadwy helpu i benderfynu a fydd tenantiaid yn gallu fforddio’r rhent yn yr hirdymor a pha mor ymarferol yw’r datblygiadau tai sydd ar gael ar hyn o bryd a’r datblygiadau tai newydd.
- cynghori ynghylch sut i wneud y mwyaf o’r gallu i ddatblygu mewn cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol sy’n dal stoc dai o ran Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yn enwedig ar ôl 2020 pan fydd yr holl stoc bresennol yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Byddaf yn rhoi gwybodaeth am aelodaeth y panel mewn datganiad pellach maes o law.