Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi cynlluniau gwario strategol a manwl ar gyfer refeniw a chyfalaf, yn ogystal â threthiant a benthyca.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Gyllideb Ddrafft yn y Senedd ar 9 Ionawr 2024.
Mae pob un o'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynigion y Gyllideb Ddrafft
- Dogfen Naratif y Gyllideb Ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
- Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario (fformat ODS)
- Cyllideb Ddrafft 2024-25 – taflen
Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:
- Adroddiad y Prif Economegydd 2023
- Cynllun Gwella'r Gyllideb 2023
- Adroddiad ar Bolisi Trethi: Rhagfyr 2023
- Canllawiau cyflym i esbonio effaith newidiadau treth
- Dadansoddiad dosbarthiadol o wariant cyhoeddus datganoledig yng Nghymru 2024 i 2025
- Hyperddolen i adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar ei rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.