Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Cyflawni ein Llwybr Carbon Isel at 2030

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis diwethaf, ar ôl dadansoddi'r dystiolaeth yn fanwl, gan gynnwys cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, cyhoeddais ddatganiad i Aelodau'r Cynulliad am ein targedau allyriadau arfaethedig ar gyfer 2020, 2030 a 2040 a'n cyllidebau carbon ar gyfer 2016-2020 a 2021-2025. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynigion hyn mewn Rheoliadau fydd yn cael eu rhoi ger bron y Cynulliad tuag at ddiwedd eleni. 

Rhaid rhoi'n sylw yn awr ar brysuro'r hyn sydd ei angen i ddatgarboneiddio'n heconomi. Heddiw felly, rwy' am lansio'r ymgynghoriad 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030'.    Mae'r Ymgynghoriad yn cynnig cyfres o Syniadau Gweithredu ar gyfer lleihau allyriadau ac i wneud y gorau o'r cyfleoedd a ddaw wrth newid i economi rhad-ar-garbon. Mae gan y syniadau hyn gysylltiad â phob rhan o gymdeithas gan gynnwys amaethyddiaeth, defnydd tir a choedwigaeth, adeiladau, diwydiant, pŵer, y sector cyhoeddus, trafnidiaeth a gwastraff.  Maen nhw'n adlewyrchu'n meddyliau cychwynnol o ran rhai o'r prif feysydd fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed ar gyfer 2030. Mae 2030 yn ddigon pell i'r dyfodol fel bod amser i'r newidiadau daro'u nod ond yn rhy bell inni allu rhagweld newid mewn technoleg a chymdeithas. 

Dyma gyfle arwyddocaol i economi Cymru droi'n economi carbon isel. Bydd maint y gefnogaeth wleidyddol ryngwladol ac effaith drawsnewidiol y buddsoddi a fu hyd heddiw yn gweddnewid economi'r byd dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr ymrwymiadau a wnaed yng Nghytundeb Paris yn arwain at newid i ddefnyddio technolegau carbon isel glanach ym meysydd pŵer, trafnidiaeth, gwresogi ac oeri, prosesau diwydiannol ac amaethyddiaeth trwy'r byd. 

Rydym eisoes yn gweld twf mewn diwydiannau fel cynhyrchu cerbydau trydan a batrïau, cynhyrchu technolegau ynni carbon isel, codi adeiladau rhad-ar-ynni a systemau gwresogi ac oeri, ynghyd â datblygu deunyddiau newydd ac yswiriant a chynnyrch ariannol newydd. Rhaid i Gymru allu gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn.

Mae'r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn gosod allan amcanion y Llywodraeth hon. Nid golud materol yn unig yw ffyniant. Mae'n golygu hefyd ansawdd bywyd da a chymunedau cryf a diogel. Mae newid i economi carbon isel felly yn dod â manteision ehangach yn ei sgil, fel lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw, a dŵr ac aer glân i wella iechyd a lles cenedlaethau heddiw ac yfory. 

Ond mae nifer o rwystrau i’r newid. Daw cyfran fawr o'r ynni a gynhyrchir yng Nghymru o danwydd ffosil ac mae'n heconomi yn dibynnu ar gyfran uchel o weithgynhyrchu a diwydiant y DU. Mae gennym fwy o gartrefi oddi ar y grid a chyfran uwch â waliau solid sy'n ei gwneud hi'n ddrutach eu hinswleiddio. O ran trafnidiaeth, mae troi at deithio llesol yn anoddach yng nghefn gwlad Cymru ac mae gennym gyfran uwch o bobl dros 65 oed na'r DU, sy'n golygu y byddwn yn llai tebygol o newid. Mae miloedd o ffermydd yn ein sector amaethyddol, llawer ohonyn nhw'n rhai bach.  Mae hynny'n ei gwneud yn anodd mesur a chloriannu'r newidiadau bach sydd eu hangen o blaid arferion cynaliadwy a lleihau allyriadau. 

Rydyn ni'n gobeithio y bydd cyrff ac unigolion yn cyfrannu at yr ymgynghoriad i'n helpu i lunio a llywio'r llwybr carbon isel tuag at 2030. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gael y Gymru a garem. Rydyn ni'n gwybod, er mwyn newid i economi carbon isel, y bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol ac mewn ffordd arloesol ac y bydd hynny'n effeithio ar bawb yng Nghymru. 

Mae'r Syniadau Gweithredu wedi'u datblygu ar y cyd ar draws y Llywodraeth gan ystyried argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a thystiolaeth ehangach. Cawsom help ein prif randdeiliaid yn hyn o beth hefyd, diolch i gyfres o gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, yn benodol i drafod pŵer, arloesi a newid ymddygiad. Nid ydym eto wedi asesu costau economaidd y Syniadau Gweithredu, eu potensial i leihau allyriadau na'u heffeithiau ehangach, ond gwnawn hynny os a phan y byddwn yn eu hystyried ar gyfer eu cynnwys fel polisïau cadarn yn ein Cynllun Cyflawni Carbon Isel y disgwylir ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2019 a chynlluniau pellach gydol y 2020au. 

Rwy'n croesawu'ch barn chi a barn eich etholwyr am y Syniadau Gweithredu.

https://beta.llyw.cymru/llwybr-carbon-isel-i-gymru