Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rydym bellach wedi derbyn adroddiad ac argymhellion terfynol Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, ynghyd ag adroddiad ar wahân, ar wella gwytnwch y pontydd dros afon Menai. Rwy'n diolch i'r Arglwydd Burns, y Comisiynwyr, a swyddogion Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru a'u cefnogodd, am eu hadroddiadau cynhwysfawr ac ystyriol.
Byddwn yn ystyried yr argymhellion yn fanwl gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd. Mae'r adroddiad yn darparu sylfaen gref ar gyfer datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer Gogledd Cymru yn ogystal ag ar gyfer bwrw ymlaen â'n Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Mae'r Comisiwn wedi datblygu ar fodel llwyddiannus Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru a gwaith datblygu Metro Gogledd Cymru i ddarparu map llwybr i newid dulliau teithio trwy gysylltiadau trafnidiaeth mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws ac i mewn i ogledd Cymru.
Mae'r Comisiwn yn nodi cyfres uchelgeisiol o gynigion, a fydd, os cânt eu gweithredu'n llwyddiannus, yn rhoi mwy o ddewisiadau trafnidiaeth i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru ac ardaloedd cyfagos, a mwy o gyfleoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o safon a theithio llesol.
Mae rhai o'r cynigion mewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ac eraill nad ydynt.
Yn naturiol rydym yn croesawu trydaneiddio Prif Linell Gogledd Cymru - gwelliant y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau drosto ers tro. Fodd bynnag, bydd gwella cyflymderau rheilffordd, datgloi capasiti trwy Gaer, a sicrhau gwelliannau ar lein Wrecsam-Bidston yn sicrhau manteision mwy uniongyrchol i deithwyr, yn ogystal â chefnogi newid mewn dulliau teithio, a gwella'r achos busnes dros drydaneiddio yn y dyfodol.
Rydym yn disgwyl i waith datblygu pellach atgyfnerthu hynny a chydnabod rôl bwysig Bwrdd Rheilffyrdd Cymru wrth gytuno ar flaenoriaethau cyllido rheilffyrdd i Gymru.
Rydym felly wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gydweithio â Network Rail, yr Adran Drafnidiaeth, a rhanddeiliaid eraill, i gefnogi'r gwaith datblygu sydd ar y gweill mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU.
Mae copïau o'r adroddiadau ar gael yn: Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru: adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU a Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru: Cysylltiadau trafnidiaeth Afon Menai | LLYW.CYMRU