Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder: 25 Hydref 2023
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ar 25 Hydref 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol drwy Teams
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS (rhan o'r cyfarfod)
- Julie Morgan AS (rhan o'r cyfarfod)
- Jeremy Miles AS (rhan o'r cyfarfod)
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
- Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
- Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa Breifat y Prif Weinidog
- Kathryn Hallett, Uwch-ysgrifennydd Preifat i'r Prif Weinidog
- Bethan Phillips, Uwch-ysgrifennydd Preifat i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
- Lauren Stamp, Uwch-ysgrifennydd Preifat i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
- Lowri Lloyd-Hughes, Uwch Ysgrifennydd Preifat i'r Cwnsler Cyffredinol
- Katie Jones, Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol i'r Cwnsler Cyffredinol
- Cloe Thomas, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Charmaine Richards, Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a'i Llywodraethiant
- Andrew O’Rourke, Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- Nadine Young, Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
- Merisha Weeks, Polisi Cyfiawnder
- Kevin-John Pidduck, Polisi Cyfiawnder
- VK Sepe, Diogelwch Cymunedol
- Tony Jones, Polisi Cyfiawnder
- Andrew Felton, Polisi Cyfiawnder
- James Searle, Diogelwch Cymunedol
Mynychwr allanol
- Y Fonesig Vera Baird CB, Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Ddatganoli Cyfiawnder
Eitem 1: Addysg carcharorion
1.1 Cyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y papur, a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor nodi'r cynnydd a wnaed o ran darparu addysg mewn carchardai yng Nghymru, fel cyfrifoldeb datganoledig a reolir drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
1.2 Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd cyson mewn ymateb i adolygiad Hanson o Addysg Troseddwyr yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2019, a bod camau gweithredu wedi'u cymryd mewn ymateb i bob un o'r 22 o argymhellion a wnaed gan yr adolygiad.
1.3 Canlyniad y gwaith hwn fyddai cyhoeddi'r polisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd', a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
1.4 Mewn ymateb i un o argymhellion adolygiad Hanson i ddatblygu rhaglen barhaus o ymgysylltu â rhanddeiliaid, roedd y Llywodraeth wedi sefydlu'r Grŵp Rhanddeiliaid Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwy, a oedd yn cyfarfod wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn ac yn cynnwys cynrychiolwyr o Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Addysg Bellach, Addysg Uwch, y trydydd sector, Estyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Undebau Llafur, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, CLlLC a chyn-droseddwyr.
1.5 Roedd swyddogion Polisi Cyfiawnder hefyd wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol ac, yn fwy diweddar, gwahoddwyd athrawon a thiwtoriaid a oedd yn darparu yn yr ystad ddiogel i gymryd rhan.
1.6 Yn 2021, arweiniodd gwaith agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF at gytundeb i gontractio'r ddarpariaeth dysgu a sgiliau yng Ngharchar / Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ar wahân i'r prif gontract ar gyfer gweithredu carchardai. Chwaraeodd swyddogion y llywodraeth ran annatod yn natblygiad y manylebau dylunio ar gyfer y ddarpariaeth dysgu a sgiliau yn rhan o'r contract newydd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
1.7 Yn ogystal, gwnaed gwaith sylweddol i sicrhau bod pobl yn y carchar yn gallu cael mynediad at gymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru sydd ar gael yn y gymuned. Er enghraifft, roedd hyfforddiant a ariannwyd gan ReAct+ yn cefnogi unigolion i gael y cymwysterau yr oedd eu hangen arnynt i gael cyflogaeth ar ôl eu rhyddhau.
1.8 Roedd Cymru'n Gweithio yn parhau i gefnogi pobl yn y carchar drwy'r Hybiau Cyflogadwyedd a sefydlwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF ym mhob carchar.
1.9 Yn ogystal, drwy Cymru'n Gweithio, roedd y Warant i Bobl Ifanc yn cael ei chyflwyno i bobl o dan 25 oed mewn carchardai, i'w helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a'u helpu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig.
1.10 Roedd y Llywodraeth hefyd wedi comisiynu Cymru'n Gweithio i gynnal peilot i adolygu'r cymorth, yr hyfforddiant a'r arweiniad cyflogadwyedd a gynigir i garcharorion o'r ddalfa i'r gymuned, gan ddilyn unigolion drwy eu taith i gyflogaeth. Byddai hyn yn llywio dealltwriaeth o'r materion yn y byd go iawn a'r cyfleoedd a wynebir gan unigolion, er mwyn helpu i ddatblygu llwybr gwell effeithiol tuag at gyflogaeth i droseddwyr a'r rhai sydd yn y gwasanaeth prawf ar hyn o bryd.
1.11 Byddai'r gwaith yn parhau gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i wella canlyniadau cyflogaeth pobl ar gyfnod prawf drwy godi ymwybyddiaeth a mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru fel ReACT+, Cyfrifon Dysgu Personol a Gwarant i Bobl Ifanc.
1.12 Yna trafododd yr Is-bwyllgor y ddogfen bolisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd', a oedd yn nodi disgwyliadau'r Llywodraeth ar gyfer darparu addysg, cyflogadwyedd a chymorth sgiliau yn yr ystad ddiogel i oedolion yng Nghymru.
1.13 Adroddwyd bod y polisi wedi'i ddatblygu ar y cyd â phartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiadau byw o ddysgu a darparu sgiliau mewn carchardai, gan alluogi dealltwriaeth glir o'r rhwystrau sy'n wynebu dysgwyr a'r ddarpariaeth cyflogadwyedd a sgiliau sydd eu hangen i'w cefnogi.
1.14 Yn ogystal, roedd rhai o'r gwersi a ddysgwyd drwy bandemig Covid wedi'u hymgorffori, megis pwysigrwydd datblygu dull cyfunol o ddysgu a'r cyfleoedd y gallai dull blaengar o ddigideiddio'r ystad carchardai eu darparu.
1.15 Nodwyd bod cyfres o grwpiau ffocws a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi'u cynnal i ymgynghori â dysgwyr yn yr ystad ddiogel, cyn-filwyr a chyn-droseddwyr benywaidd yn y gymuned, er mwyn sicrhau bod eu barn wrth wraidd y polisi. Gan nad oes carchardai benywaidd wedi'u lleoli yng Nghymru, cynhaliwyd grŵp ffocws gyda dysgwyr o Gymru yng Ngharchar Styal.
1.16 Datblygwyd y polisi drafft i adlewyrchu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac roedd yn darparu amlinelliad clir o ddisgwyliadau ac uchelgeisiau polisi, yn ogystal â throsolwg o rolau a chyfrifoldebau allweddol pawb sydd ynghlwm wrth addysg mewn carchardai yng Nghymru.
1.17 Roedd y polisi yn cynnwys oedolion 18 oed a hŷn yn yr ystad ddiogel yng Nghymru, a nodwyd bod plant yn y ddalfa yng Nghymru wedi'u lleoli yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ac yng Nghartref Diogel i Blant Hillside, a oedd yn cynnwys dedfrydau o garchar a lleoliadau lles.
1.18 Cydnabuwyd bod gan Addysg rôl allweddol i'w chwarae wrth ysbrydoli plant yn yr ystad ddiogel y gallai fod ffordd wahanol o fyw. Mae'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2019, yn nodi'r weledigaeth i greu system seiliedig ar hawliau sy'n ystyriol o drawma, a fydd yn helpu gwasanaethau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant yng Nghymru. Dylid cefnogi plant a oedd yn y ddalfa i wireddu eu potensial, gan gynnwys drwy gael addysg a oedd yn diwallu eu hanghenion unigol ac a oedd yn ymateb er eu lles pennaf.
1.19 Croesawodd yr Is-bwyllgor y polisi.
Eitem 2: Dadgyfuno data
2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn canolbwyntio ar sut i wella mynediad at ddata wedi'i ddadgyfuno ar system gyfiawnder Cymru, a oedd yn parhau i fod yn nod pwysig i'r Llywodraeth.
2.2 Roedd yn bwysig i bobl gael mynediad at wybodaeth glir a dealladwy am sut roedd y system gyfiawnder yn gweithio yn eu hardaloedd lleol.
2.3 Roedd Prifysgol Caerdydd wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn, gyda chyhoeddiadau fel y Justice Factfiles, oedd yn dangos gwerth yr agenda hon i Gymru. Roedd y cyhoeddiadau hyn wedi creu sgwrs ar gyfiawnder Cymru na fyddai'n bosibl fel arall.
2.4 Roedd cynnydd wedi'i wneud mewn sawl maes er bod llawer o'r dulliau ysgogi yn gyfrifoldeb i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
2.5 Yna gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol yr uwch-swyddog ystadegol ar gyfer troseddu a chyfiawnder yn yr Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i ddarparu arddangosiad byr o'r dangosfwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, sef y cyntaf o gyfres o ddangosfyrddau disgwyliedig a fydd yn sicrhau bod gwybodaeth am system gyfiawnder Cymru yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen.
2.6 Croesawodd yr Is-bwyllgor y datblygiadau a gofynnodd am ddolenni i'r adnodd i astudio'r wybodaeth sydd ar gael yn fanylach.
2.7 Nododd yr Is-bwyllgor y gwaith ar gyfer y dyfodol.
Eitem 3: Cartrefi bach
3.1 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i'w swyddogion gyflwyno'r eitem, a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor nodi'r sefyllfa bresennol ar yr ystad ddiogel i bobl ifanc ac ymateb Llywodraeth Cymru, ynghyd â chytuno y dylid oedi Cartrefi Bach fel prosiect hirdymor nes bod cyfiawnder ieuenctid wedi'i ddatganoli; a chytuno ar y set o weithgareddau eraill i ddatblygu gwaith ymarferol yn y cyfamser.
3.2 Adroddwyd bod angen gwneud gwaith ar elfennau remand ac ystadau diogel Cartrefi Bach, er mwyn deall yr heriau a'r cyfleoedd yn well cyn y gellid diffinio cwmpas a graddfa unrhyw fuddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn briodol.
3.3 Roedd angen cryn feddwl i ddiffinio achosion sylfaenol yr heriau yn y sector yn fanylach, i nodi'r atebion cywir i'r heriau sylfaenol hyn ac i ddiffinio modelau cyflenwi posibl yn y dyfodol. Byddai angen cwblhau'r gwaith hwn cyn y gellid gwneud penderfyniad ynghylch buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol.
3.4 Awgrymwyd, gyda'r posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid bellach yn obaith mwy realistig, y gallai dull diwygio datganoli wedyn gefnogi dull mwy cydlynol ac integredig o ymdrin â'r ystad ddiogel i'r ieuenctid yn y dyfodol.
3.5 Yn gysylltiedig â hyn, byddai cynllun braenaru dan arweiniad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn y gogledd yn cyflawni llawer o nodau cychwynnol y rhaglen Cartrefi Bach yn sylweddol, a byddai rhaglen o weithgareddau amgen i wneud cynnydd ymarferol yn y cyfamser yn cael ei chynnal.
3.6 Cytunodd yr Is-bwyllgor mai ailwampio'r mater Cartrefi Bach fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen, er mwyn sicrhau'r effaith gyffredinol fwyaf yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig yn y tymor byr i'r tymor canolig, gan osod y sylfaen ar gyfer gweithgarwch mwy uchelgeisiol ar ôl datganoli.
3.7 Byddai ail-lunio'r rhaglen yn cael ei gyfleu i randdeiliaid o ran y gwaith sy'n cael sylw mewn ffyrdd gwahanol.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023