Cyfarfod y Cabinet: 26 Hydref 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 26 Hydref 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Lesley Griffiths AS
- Julie James AS
- Julie Morgan AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog (cofnodion)
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Rhys Castle Jones, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd
- Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd
Eitem 1: Parthau Buddsoddi
1.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y nodyn briffio, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ynghylch sefydlu Parthau Buddsoddi yng Nghymru. Roedd y Cabinet wedi ystyried papur o sylwedd ym mis Gorffennaf.
1.2 Yn ddiweddar, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Chysylltiadau Rhynglywodraethol wedi nodi bod y cynnig presennol yn derfynol, ac y dylai telerau arfaethedig Llywodraeth y DU dalu'r holl gostau uniongyrchol disgwyliedig ar gyfer cynnal hyd at ddau Barth Buddsoddi yng Nghymru.
1.3 O ran lleoliadau, De-ddwyrain Cymru fyddai'r ardal fwyaf manteisiol yn economaidd, a byddai'n cynnwys rhannau o ddinasoedd Casnewydd, Caerdydd a Chymoedd y De-ddwyrain. Er enghraifft, byddai'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Parth Buddsoddi. Gallai Gogledd-ddwyrain Cymru fod yr ail leoliad mwyaf manteisiol yn economaidd, sef ardal a fyddai'n cynnwys Wrecsam a Sir y Fflint, o ystyried ystod a lefelau'r arbenigedd mewn diwydiannau addas yn yr ardal honno.
1.4 Cydnabuwyd bod ardaloedd eraill yng Nghymru wedi cael eu hystyried, fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ond bod gan y rhain lai o botensial ar gyfer twf.
1.5 Cafwyd trafodaeth ynghylch a fyddai ardal arall yng Nghymru, sydd o dan bwysau economaidd megis diweithdra cymharol uchel a diffyg buddsoddiad, fod mewn sefyllfa well i gynnal Parth fel hwn. Nododd y Gweinidogion mai polisi Llywodraeth y DU yw hwn, a'i fod yn seiliedig ar dwf, ac y byddai'n targedu meysydd lle'r oedd adnoddau eisoes ar waith, er mwyn gwella ac adeiladu ar gynhyrchiant sy'n bodoli eisoes.
1.6 Daeth y Cabinet i'r casgliad mai dyma'r cynnig gorau sydd ar gael, o ystyried y dull gweithredu a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU, a chytunwyd i gefnogi sefydlu'r ddau Barth Buddsoddi yng Nghymru. Nodwyd y byddai Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad i'r Senedd ar 7 Tachwedd yn amlinellu penderfyniad y Llywodraeth.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2023