Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Rhian Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau (eitem 4)
  • Chris Hare, Pennaeth Polisi Prentisiaethau (eitem 4)
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi (eitem 5)
  • Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (item 5)
  • Jon Luxton, Cynghorydd Polisi Arbenigol (eitem 5)
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol (eitem 6)
  • Cathy Weatherup, swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod y panel Asesu Cyn- cyflwyno Gweinidogol wedi cyfarfod yn gynharach y diwrnod hwnnw i drafod Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), lle y cytunwyd y dylai'r Bil symud ymlaen at benderfyniad. Byddai'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain ar y Bil.

2.2 Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Cabinet y byddai'r Bil yn adeiladu ar Fil Senedd Cymru ac yn cyflwyno cwotâu rhywedd statudol integredig i'r system etholiadol o 2026 ymlaen. Roedd hyn yn cyd-fynd ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Byddai'r darpariaethau yn ei gwneud yn ofynnol i o leiaf 50% o'r ymgeiswyr ar restr plaid wleidyddol fod yn fenywod. Yn ogystal, byddai angen i bleidiau osod menywod yn y safle cyntaf ar o leiaf hanner eu rhestrau, a rhaid iddynt osod menyw yn dilyn pob ymgeisydd nad yw'n fenyw.

2.3 Byddai'r Bil hefyd yn darparu diffiniad o'r term ‘menyw’ at ddibenion y ddeddfwriaeth.

2.4 Nododd y Gweinidogion y byddai'r Bil yn cael ei basio i'r Llywydd i'w benderfynu ar 3 Tachwedd.

Fforwm Gweinidogol Cymru Iwerddon

2.5 Rhoddodd y Prif Weinidog adborth i'r Cabinet oddi wrth Fforwm Gweinidogol Cymru Iwerddon, a oedd wedi cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru yr wythnos flaenorol. Roedd y Prif Weinidog wedi bod yng nghwmni'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd, Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, gyda'r Tánaiste a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth yn cynrychioli Llywodraeth Iwerddon.

2.6 Roedd wedi bod yn gyfres gadarnhaol o ymrwymiadau ac yn adlewyrchu'r berthynas sy'n cryfhau rhwng y ddwy Lywodraeth. Ymhlith yr eitemau ar yr agenda roedd hyrwyddo ieithoedd brodorol, cydweithredu ym maes addysg a sgiliau a datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi fod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 5:25pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau

4.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi'r papur, a ofynnodd i'r Cabinet ystyried drafft o'r Datganiad Polisi ar Brentisiaethau.

4.2 Roedd y Datganiad hwn yn cyflwyno fframwaith strategol ar gyfer dyfodol y rhaglen brentisiaethau a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r heriau yr oedd unigolion a chyflogwyr yn eu hwynebu oherwydd effaith Brexit, y pandemig a'r argyfwng costau byw.

4.3 Cyhoeddwyd y Cynllun Polisi Prentisiaethau diwethaf yn 2017 ond o gofio'r heriau economaidd a chymdeithasol ers hynny, roedd angen rhoi strategaeth newydd ar waith a allai sbarduno adferiad.

4.4 Dros y ddau ddegawd nesaf byddai angen i gymwyseddau craidd ystod eang o swyddi fod yn fwy uniongyrchol berthnasol i anghenion economi carbon isel. O gofio bod y mwyafrif o weithlu 2050 eisoes mewn cyflogaeth, roedd yn debygol mai newid parhaus fyddai'r brif her gan gynnwys diweddaru ac ailffocysu sgiliau.

4.5 Roedd angen ail-leoli sgiliau o fewn yr agenda carbon isel ochr yn ochr ag ymateb y Llywodraeth i heriau strwythurol eraill sy'n effeithio ar y farchnad lafur, megis digideiddio ac awtomeiddio. Roedd cyfle i wella sgiliau pobl mewn sectorau cyflogaeth agored i niwed a chefnogi'r rhai mewn sectorau sy'n dirywio i'w helpu i ddatblygu sgiliau newydd i hwyluso mynediad at gyfleoedd mewn sectorau sy'n dod i'r amlwg.

4.6 Yn ehangach, roedd y Llywodraeth yn gweithio tuag at system sgiliau fwy cydlynol ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru, a fyddai'n cryfhau ac yn cysoni'r ddarpariaeth o hyfforddiant yn well. Byddai'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), a oedd i fod i ddechrau gweithredu ym mis Ebrill 2024, yn cynllunio ar gyfer sector ôl-16 mwy integredig.

4.7 Yr uchelgais hirdymor oedd system addysg a sgiliau a oedd yn cymell ac yn hwyluso cydweithio rhwng darparwyr ar draws y sector ôl-16.

4.8 Mae'r Datganiad Polisi yn nodi tri amcan a chamau gweithredu cysylltiedig, pob un ohonynt yn cyd-fynd â'r Genhadaeth Economaidd ar ei newydd wedd.

4.9 O dan yr amcan cyntaf, y nod oedd cryfhau'r cynnig prentisiaethau mewn sectorau strategol bwysig, i wneud gwydnwch yn rhan annatod o'r amgylchedd economaidd sy'n newid. Yr ail fyddai llenwi'r bylchau sgiliau a hybu cynhyrchiant. Er y byddai'r trydydd yn anelu at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd tra'n gwella canlyniadau'r farchnad lafur i grwpiau o dan anfantais, gyda'r prif nod o wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel.

4.10 Byddai pob amcan yn cael ei amlinellu yn natganiad blaenoriaethau'r Llywodraeth, a fyddai'n sail i gynllun strategol CTER. Byddai'r Comisiwn yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd i'r Gweinidogion.

4.11 Croesawodd y Cabinet y papur, a'r cynigion penodol i wella canlyniadau'r farchnad lafur ar gyfer grwpiau difreintiedig, gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu.

4.12 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, a nodwyd y byddai'r datganiad polisi yn cael ei lansio ym mis Mai.

Eitem 5: Ymgynghori ar y Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Strategol 2024-2028

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gymeradwyo'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol (SEAP) 2024-2028.

5.2 Roedd yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb bob pedair blynedd ac adolygu ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol ac roedd wedi mabwysiadu'r arfer o gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd bob pedair blynedd ers 2012.

5.3 Adroddwyd bod cydraddoldeb, fel thema drawsbynciol, yn cael ei adlewyrchu yn y Rhaglen Lywodraethu yn yr amcanion llesiant a'r ymrwymiadau. Roedd hyn yn cynnwys yr amcan llesiant i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math.

5.4 Mae'r Ymgynghoriad yn nodi nodau, amcanion ac egwyddorion a fyddai'n sail i ddull gweithredu'r Llywodraeth, gyda'r nod hirdymor o greu Cymru yn seiliedig ar degwch, peidio â gwahaniaethu, a chynhwysiant. Yn ogystal, byddai'n adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth i roi'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar waith, sy'n anelu at wella penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus i gefnogi'r rhai a oedd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn well.

5.5 Roedd saith Amcan Cydraddoldeb hefyd yn canolbwyntio ar ymgorffori cydraddoldeb a hawliau dynol ymhellach yng ngwaith Llywodraeth Cymru a darparu effeithiau a chanlyniadau buddiol a diriaethol i bobl Cymru.

5.6 Croesawodd y Cabinet y papur a chydnabod bod gwaith ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol wedi bod yn gam sylweddol ymlaen wrth gyflawni'r nod o ddim goddefgarwch o anghydraddoldeb hiliol o bob math.

5.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, a nododd fod yr ymgynghoriad yn mynd i gael ei lansio ar 6 Tachwedd.

Eitem 6: Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2023

6.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a ofynnodd i'r Cabinet nodi Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2023.

6.2 Roedd adroddiadau blaenorol gan y Prif Swyddog Meddygol wedi rhoi cyfle i fyfyrio ar y sefyllfa yng Nghymru o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, yn ogystal ag ystyried yr heriau ym maes iechyd y cyhoedd ac wrth ddarparu gofal iechyd. Roedd adroddiadau diweddar wedi edrych ar rai materion anodd ar draws cymdeithas, ac ymhlith y rhain roedd effaith y pandemig.

6.3 Ystyriodd adroddiad 2023 effaith penderfynyddion masnachol ar iechyd a'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r effaith a'i lliniaru. Gwahoddwyd y Prif Swyddog Meddygol i gyflwyno canfyddiadau allweddol ei adroddiad diweddaraf.

6.4 Dywedodd Dr Atherton fod ei adroddiadau wedi cynnwys arolwg o iechyd y cyhoedd a dadansoddiad manwl o un neu ragor o faterion penodol ym maes iechyd y cyhoedd. Gellid ystyried bod pob un o'r adroddiadau blaenorol yn adroddiad annibynnol neu'n rhan o gyfres thematig ynghylch 'ein hiechyd’. Penawdau'r adroddiadau blaenorol oedd: Ailgydbwyso Gofal Iechyd; Gamblo â’n Hiechyd; Gwerthfawrogi ein hiechyd; Diogelu ein Hiechyd; ac Adfer ein Hiechyd.

6.5 Roedd adroddiad eleni, ‘Siapio ein Hiechyd’, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y genedl a chadernid y system iechyd a gofal ond roedd y prif ffocws ar y strategaethau a'r dulliau a ddefnyddir gan y sector preifat i hyrwyddo cynhyrchion a dewisiadau a oedd yn niweidiol i iechyd.

6.6 Roedd hyn yn cynnwys argymhellion ar ehangu mannau di-fwg, rheoleiddio e-sigaréts, ystyried trethiant ar rai bwydydd a diodydd penodol i helpu i fynd i'r afael â gordewdra a chamau gweithredu i atal a lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Roedd awgrym hefyd y dylai fod gwasanaethau arbenigol i drin gamblo yng Nghymru.

6.7 Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried effaith Newid Hinsawdd a'r argyfwng costau byw ar iechyd y cyhoedd.

6.8 Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a chydnabod mai'r her oedd annog a darbwyllo'r boblogaeth i ofalu amdanynt eu hunain yn well ac ystyried dewisiadau mwy iach.

6.9 Nododd y Cabinet y papur a chydnabu mai hwn fyddai adroddiad terfynol Dr Atherton fel Prif Swyddog Meddygol, gan ei fod yn rhoi'r gorau i'w rôl yn 2024. Cofnododd y Cabinet ei ddiolch am ei wasanaeth i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2023