Clefyd heintus ar foch sy'n cael ei achosi gan feirws yw clefyd pothellog y moch. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Mae'r clefyd yn gyffredin mewn rhannau o Ewrop. Ym 1982 y cafwyd yr achos diwethaf o'r clefyd hwn ym Mhrydain.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clefyd pothellog y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- gwres o hyd at 41 gradd am ychydig
- pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
- pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
- cloffni
- colli awydd am fwyd
Trosglwyddo ac atal
Gall y clefyd gael ei ledaenu:
- trwy gysylltiad â moch heintiedig, eu tail a'u hylifau
- trwy gynnyrch cig heintiedig
- ar gerbydau, dillad a phobl
Nid oes brechlyn ar gyfer clefyd pothellog y moch.