Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw cyhoeddir PISA 2022: Adroddiad Cenedlaethol Cymru.
Er bod disgwyl y byddai perfformiad yn dirywio yn dilyn y pandemig, nid yw hynny'n gwneud y canlyniadau hyn yn llai siomedig.
Cyn y pandemig, roedd safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru wedi gwella'n fawr, diolch i waith caled ein gweithlu addysgu. Yn 2018, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella ym mhob un o'r tri maes (mathemateg, darllen a gwyddoniaeth). Mae'n amlwg bod y pandemig wedi amharu ar y cynnydd hwn.
Mae’r dystiolaeth ledled y DU yn dangos yr effaith negyddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar addysg. Fodd bynnag, yr ardaloedd a chanddynt lefelau uwch o amddifadedd sydd wedi gweld yr effaith waethaf - rydym ni yng Nghymru yn gwybod hyn. Mae angen ymdrech genedlaethol i newid pethau.
Rydym yn ymrwymo drwy ein Cwricwlwm i Gymru i godi safonau a dyheadau i bawb. Rydym wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol yn benodol gan yr OECD i sicrhau bod ein disgwyliadau yn cyd-fynd â'r hyn sy'n gweithio. Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir bod angen i ddysgu o ansawdd uchel gael ei gefnogi gan ddysgu proffesiynol a gwelliannau i ysgolion dros amser, er mwyn cefnogi ysgolion mewn cyfnod sy'n heriol i bob gweithiwr proffesiynol. Dyma beth fyddwn yn ei flaenoriaethu.
Nid yw'r cylch PISA hwn wedi asesu dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, bydd yr adborth yn adroddiad PISA yr OECD yn ein helpu i gryfhau'r gefnogaeth i ysgolion a dysgwyr ar y daith ddiwygio.
Dim ond newydd ddechrau cael eu cyflwyno y mae ein diwygiadau graddfa fawr ar gyfer gwella. Mae'n amlwg bod rhaid iddynt ategu ffocws di-baid ar wella safonau llythrennedd a rhifedd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi amlinellu nifer o gamau gweithredu, yn seiliedig ar ddeilliannau adolygiadau a'n data cenedlaethol, yr ydym yn eu cymryd i greu gwelliannau yn y meysydd hyn. Bydd y data a'r adborth a gaiff eu rhyddhau heddiw yn helpu i lunio sut rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Byddaf hefyd yn dod ag arweinwyr addysg o bob rhan o Gymru ynghyd ym mis Ionawr i drafod sut y gallwn ddatblygu ein diwygiadau i ymestyn a chefnogi ein dyheadau ar gyfer ein dysgwyr.
Byddaf yn gwneud datganiad yn y Senedd yn ddiweddarach brynhawn heddiw i nodi ymateb y llywodraeth mewn mwy o fanylder.
Note
The OECD advises caution in comparisons between different countries, and particularly so in 2022 where a number of countries, including England and Scotland, are estimated by the OECD to have a possible upward response bias of 7-9 points in maths and reading.