Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddais y byddai Roger Lewis yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried trefniadau llywodraethu presennol Cadw a’r ddarpariaeth ehangach o wasanaethau treftadaeth gyhoeddus ledled Cymru.
Cyd-destun yr adolygiad oedd y penderfyniad yn 2017 i gadw Cadw yn asiantaeth fewnol oddi mewn i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r penderfyniad hwnnw, byddai Cadw yn elwa ar fwy o ryddid gweithredol a masnachol gan alluogi’r corff i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon wrth gyflawni ei ystod eang o rolau a chyfrifoldebau.
Y bwriad oedd asesu llwyddiant y trefniadau hyn ar ôl pum mlynedd. Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cadw.
Mae’r adolygiad yn cymeradwyo’r penderfyniad a wnaed yn 2017, mai aros o dan adain y Llywodraeth sydd orau ar gyfer Cadw, ond mae’n nodi nifer o argymhellion a fydd yn gwella perfformiad Cadw. Mae’r argymhellion yn amrywio o ran cwmpas ac yn cynnwys nifer sydd wedi’u bwriadu i helpu i egluro rôl Bwrdd Cadw a sut i addasu gweithdrefnau’r llywodraeth i ganiatáu i Cadw weithredu mewn ffordd sydd hyd yn oed yn fwy effeithiol. Mae sawl argymhelliad yn awgrymu sut i atgyfnerthu’r ffyrdd y mae Cadw yn gweithio gyda’i bartneriaid, ac mae eraill yn ystyried sut y gellir gwella rhai o weithgareddau amrywiol Cadw i gynorthwyo ei ddiben craidd.
Hoffwn ddiolch i Roger Lewis a holl aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen a roddodd o’u hamser a’u harbenigedd i gynnal yr adolygiad hwn. Rwy’n arbennig o ddiolchgar am yr ymgysylltu a’r ymgynghori gweithredol â staff Cadw a chyda’r rhanddeiliaid niferus sydd gan Cadw. Mae’n amlwg bod hyn wedi helpu i lywio’r adroddiad a’r 29 argymhelliad eang eu natur.
Byddaf yn treulio amser yn ystyried yr adroddiad yn fanwl ac yn ymateb i’r argymhellion cyn cyhoeddi ymateb yn gynnar yn 2024.