Mesurau arbennig BIPBC – blaenoriaethau ar gyfer cyfnod sefydlogi: cylch 3
Blaenoriaethau ar gyfer mesurau arbennig BIPBC rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfnod sefydlogi – cylch 3
Er mwyn hwyluso gwelliannau yn ystod mesurau arbennig, cytunwyd ar nifer o gamau. Daeth y cyfnod darganfod i ben ym mis Mai ac mae'r bwrdd iechyd bellach yn ail gyfnod mesurau arbennig sef sefydlogi. Mae hyn yn cynnwys tri chylch a bydd y trydydd cylch yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2023. Mae'r papur hwn yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y trydydd cylch o fewn safoni.
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynnydd a wnaed drwy gydol cyfnod sefydlogi mesurau arbennig ac yn asesu a yw'r sefydliad yn barod i symud ymlaen at gyfnod safoni mesurau arbennig.
Mae'r Fframwaith Mesurau Arbennig yn nodi'r rhesymau pam y cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi mewn mesurau arbennig ar 27 Chwefror 2023. Maent yn ymwneud â phryderon difrifol ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.
Mae'r fframwaith yn nodi'n fanwl y gwelliannau a ddisgwylir rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023 ochr yn ochr â'r pum canlyniad ar gyfer cyfnod sefydlogi mesurau arbennig.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da o ran camau gweithredu galluogi ers iddo gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig fel y dangosir gan y fframweithiau cynllunio, perfformiad a risg sydd bellach wedi'u hymgorffori yn y sefydliad, gyda chymorth nifer o welliannau corfforaethol. Mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r camau hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi'u gwreiddio, gan arwain at welliannau cynaliadwy.
Mae'r adolygiadau allanol canlynol wedi dod i ben, ac mae adroddiadau wrthi'n cael eu llunio neu wedi'u rhannu â'r bwrdd iechyd i'w hystyried gan y Bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethiant priodol:
- asesiad sicrwydd gwasanaethau fasgwlaidd
- adolygiad o bortffolio'r tîm gweithredol
- asesiad annibynnol o ddulliau a phrosesau cynllunio integredig
- rheoli contractau a chaffael (o dan arweiniad y bwrdd iechyd)
- gwrando ar ddinasyddion, cleifion, staff a phartneriaid
Mae’r adolygiadau canlynol ar y gweill a byddant yn llywio blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol ar ôl iddynt gael eu cwblhau a’u hystyried gan y Bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethiant priodol:
- adolygiad o lwybrau fasgwlaidd rhwng Awst 2022 ac Awst 2023
- asesiad sicrwydd dilynol o'r unedau cleifion mewnol iechyd meddwl
- sicrhau ansawdd a chymorth
- adolygiad dilynol o effeithiolrwydd y bwrdd a gynhelir gan Archwilio Cymru
Mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau gweld rhai o ganlyniadau ac effaith y gwaith sydd wedi'i wneud wrth gyflawni gwelliannau a chanlyniadau gwirioneddol i gleifion a staff, bod y broses ansawdd a diogelwch yn dechrau gwella a bod amseroedd aros mewn adrannau gofal brys ac argyfwng ac ar gyfer gofal dewisol yn dechrau gwella.
Cylch 3 – Disgwyliadau Llywodraeth Cymru
Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio
1. Cwblhau recriwtio bwrdd parhaol, sicrhau bod hyfforddiant cynefino'r bwrdd yn cael ei gynnal yn effeithiol, a dechrau rhaglen ddatblygu'r bwrdd.
2. Datblygu a dechrau rhoi cynllun gweithredu clir ar waith mewn ymateb i argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd, gan gynnwys cytuno ar flaengynllun clir a thryloyw ar gyfer busnes y pwyllgor a gefnogir gan weithdrefnau gweithredu safonol.
3. Cytuno ar gynllun dirprwyo effeithiol, sy'n nodi'r fframwaith ar gyfer dirprwyo, penderfyniadau ac atebolrwydd.
Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch
4. Sicrhau bod gweithdrefn/proses effeithiol ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau, adborth gan gleifion a staff, arolygiadau, archwilio mewnol ac adolygiadau, a dechrau ymwreiddio dysgu ar draws y sefydliad.
5. Ystyried argymhellion yr adolygiad o bryderon am ddiogelwch cleifion, gan weithio gyda Gweithrediaeth y GIG i ddatblygu'r prosesau llywodraethiant clinigol gofynnol, datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir mewn ymateb i'r argymhellion hyn.
6. Datblygu dull gweithredu a gweithdrefn gadarn i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddyletswydd Ansawdd gan ddefnyddio'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal i sbarduno gwelliant parhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth.
Y gweithlu a datblygu sefydliadol
7. Datblygu a dechrau rhoi cynllun gweithredu clir ar waith mewn ymateb i argymhellion o'r adolygiad o benodiadau dros dro, adolygiad o bortffolio'r tîm gweithredol ac adroddiad ar brosesau AD – gyda chanolbwynt cynnar ar feithrin capasiti digonol yn nhîm y gweithlu i gyflawni'r cynlluniau.
8. Rhoi'r fframwaith dysgu a datblygu ar waith.
9. Parhau i ddatrys achosion parch a datrys sydd heb eu datrys eto, gan gynnwys prosesau tebyg sy'n gysylltiedig â'r uwch-arweinwyr.
10. Dileu'r ddibyniaeth systematig ar staff dros dro o asiantaethau.
Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
11. Dechrau gweithredu rhaglen waith sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, arweinyddiaeth dosturiol, gwerthoedd ac ymddygiadau ac ymgysylltu gyda ffocws ymarferol ar sbarduno newid.
12. Parhau ac ymgorffori'r dull y cytunwyd arno i feithrin ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydlu mecanwaith effeithiol ar gyfer monitro a gwella ymgysylltiad staff.
Gwasanaethau clinigol bregus
13. Dechrau rhoi cynllun gweithredu CAMHS a niwroddatblygu ar waith i wella perfformiad.
14. Adolygu, diwygio a gweithredu cynlluniau gwella clir, gan gynnwys ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i wasanaethau fasgwlaidd (gan gynnwys hwyluso cam 2 o'r adolygiad fasgwlaidd), wroleg, offthalmoleg, oncoleg, dermatoleg a llawdriniaethau plastig.
Llywodraethiant a rheoli ariannol
15. Parhau i gryfhau a sefydlogi'r tîm cyllid gan ganolbwyntio ar yr uwch dîm cyllid.
16. Parhau i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau allweddol a nodir yn y cynllun cyllid ar gyfer mesurau arbennig.
17. Parhau i nodi a chyflawni camau gweithredu i wneud cynnydd tuag at y cyfanswm rheoli targed a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cryfhau mecanweithiau cyflawni ac atebolrwydd ar gyfer sicrhau arbedion o natur drawsbynciol o fewn y sefydliad.
18. Datblygu cynllun ariannol ar gyfer 2024 i 2025.
19. Gweithredu camau a chanfyddiadau y cytunwyd arnynt o'r adolygiad o gontractio a chaffael.
20. Cynnal asesiad aeddfedrwydd o reolaeth llywodraethiant ariannol yng ngoleuni newidiadau sydd wedi'u rhoi ar waith drwy'r broses mesurau arbennig er mwyn ystyried a oes angen adolygiad annibynnol pellach.
Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
21. Cyflwyno cynllun a gymeradwywyd gan y bwrdd ar amser, gyda chymorth cynllun gweithlu effeithiol a fydd yn cefnogi'r bwrdd iechyd i gyflawni'r cynllun mewn ffordd ystwyth ac effeithiol.
22. Datblygu dull o fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr Adolygiad Cynllunio, ar ôl dechrau cyflawni'r rhai mwyaf brys.
23. Rhoi ar waith cynllun cynhwysfawr i wrthsefyll pwysau'r gaeaf sy'n cael ei gyflawni drwy gydol y cylch. Sicrhau bod dewisiadau amgen cadarn i adrannau brys ar draws y rhanbarth. Cymryd camau parhaus i sicrhau gwelliannau ar draws y tair adran achosion brys gan ganolbwyntio'n glir ar Ysbyty Glan Clwyd.
24. Dechrau proses ag amserlenni y cytunir arnynt ar gyfer datblygu cynllun gwasanaethau clinigol.
25. Sicrhau bod mecanweithiau cadarn ar waith i gyflawni gofynion yr achos busnes orthopedig, tra'n sicrhau bod safleoedd presennol yn gweithredu yn erbyn y model gweithredu y cytunwyd arno a bod lefelau cynhyrchiant a gweithgarwch yn cael eu cynnal.
Cyflawni gweithredol
26. Gwella mynediad a phrofiad fel y cânt eu mesur drwy wella arosiadau 52 wythnos adeg y cam cleifion allanol cyntaf o fis i fis, dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am driniaeth, dim achosion o aros dros 4 awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a pherfformiad gwell o ran amseroedd aros 4 awr a 12 awr mewn adrannau achosion brys.
27. Mabwysiadu a gweithredu sawl elfen o'r rhaglenni cenedlaethol i sicrhau gwelliant gweithredol parhaus ac effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf:
- Ymgorffori'r egwyddorion sy'n cysylltu'r rhyngwyneb gofal sylfaenol a gofal eilaidd i leihau trawsgludo, derbyniadau i'r ysbyty, a sbarduno gostyngiadau yn hyd arosiadau (LOS).
- Lansiwyd gwaith modelu llif cleifion – angen ei gyflwyno ar draws y tair Adran Achosion Brys a'u cysoni â gostyngiadau oedi mewn llwybrau gofal.
- Ymwreiddio SDEC/UPCC yn llawn – ochr yn ochr â'r gwaith i gefnogi pobl yn y gymuned.
- Adolygu'r capasiti a'r galw ym mhob gwasanaeth a dechrau ymgorffori cynllun cyflawni gweithredol clinigol ar gyfer pob arbenigedd heriol.
- Gweithredu llwybrau iechyd, argymhellion GIRFT a chynhyrchiant mewn theatrau llawdriniaethau.
- Darparu gwell gwasanaethau cymunedol i gefnogi cleifion hŷn yn y rhanbarth.
Monitro mesurau arbennig
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfarfodydd canlynol i fonitro perfformiad yn erbyn y fframwaith mesurau arbennig.
Cyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD)
- Mae cyfarfodydd IQPD yn cael eu trefnu bob mis (heblaw pan fydd cyfarfod y Cyd-dîm Gweithredol (JET). Maent yn cael eu cadeirio gan Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru neu ei ddirprwy enwebedig.
- Fe'u defnyddir i asesu perfformiad yn erbyn llwybrau y cytunwyd arnynt, ystyried ansawdd a diogelwch cyffredinol gwasanaethau ac i ymgymryd ag archwiliadau manwl ar bynciau penodol.
- Byddant yn cynnwys sgwrs fisol am fesurau arbennig. Er y bydd hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar weithrediadau a pherfformiad, caiff materion eraill eu hadolygu fel y bo'n briodol.
Cyfarfodydd y Cyd-dîm Gweithredol (JET)
- Cynhelir cyfarfodydd JET ddwywaith y flwyddyn, o dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru.
- Byddant yn cael eu defnyddio i graffu ar ansawdd, cynllunio, cyflawni a pherfformiad gan gynnwys asesu perfformiad cyffredinol y sefydliad yn erbyn gofynion cenedlaethol, ei gynllun IMTP/blynyddol ac unrhyw amodau atebolrwydd.
- Cyfarfodydd eraill
- Mae gwasanaethau sydd wedi'u herio ar draws y bwrdd iechyd yn destun cyfarfod adolygu misol. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn canolbwyntio ar ganser, offthalmoleg, gofal a gynlluniwyd, gwasanaethau fasgwlaidd a llawdriniaethau plastig.
- Byddant yn cael eu defnyddio i graffu ar ansawdd, cynllunio, cyflawni a pherfformiad gan gynnwys cynlluniau adfer, taflwybrau a digwyddiadau difrifol.
Cyfarfodydd mesurau arbennig
- Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio fforwm gwella mesurau arbennig bob deufis.
- Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cadeirio cyfarfod chwarterol â'r bwrdd iechyd i geisio sicrwydd ar iechyd meddwl.
- Mae Prif Weithredwr GIG Cymru yn cadeirio bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol.
Amserlen cyfarfodydd
Cyfarfod y Cyd-Dîm Gweithredol - 05 Rhagfyr 2023
Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - 15 Rhagfyr 2023
Cyfarfod adolygu'r Gweinidog â'r Cadeirydd - 18 Rhagfyr 2023
Cyfarfod sicrwydd perfformiad ar gyfer canser - 19 Rhagfyr 2023
Cyd-fforwm y Gweinidogion ar Wella Mesurau Arbennig - 17 Ionawr 2024
Cyfarfod cyswllt misol Gofal a Gynlluniwyd - 18 Ionawr 2024
Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - 19 Ionawr 2024
Cyfarfod adolygu'r Gweinidog â'r Cadeirydd - 24 Ionawr 2024
Cyfarfod sicrwydd perfformiad ar gyfer canser - 25 Ionawr 2024
Bwrdd Sicrwydd Mesurau Arbennig - 07 Chwefror 2023
Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - 19 Chwefror 2023
Cyfarfod adolygu'r Gweinidog â'r Cadeirydd - 21 Chwefror 2023
Cyfarfodydd cyswllt gwasanaethau fasgwlaidd - bob mis
Cyfarfodydd cyswllt llawdriniaethau plastig - bob mis
Cyfarfodydd sicrwydd offthalmoleg - bob mis