Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Rhagfyr 2023 ar ddeddfwriaeth caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf Caffael. Mae crynodebau o’r ymatebion i’w gweld yma:

Ymgynghoriad Cymru ar Reoliadau Caffael Cyhoeddus: Rhan 1
Ymgynghoriad Cymru ar Reoliadau Caffael Cyhoeddus: Rhan 2

Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol gan randdeiliaid, gydag ymatebion gan y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Y sector Addysg Uwch
  • Y sector Tai Cymdeithasol
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Cyrff y llywodraeth, gan gynnwys Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Byd academaidd

Ymatebodd rhanddeiliaid yn ffafriol i’r ymgynghoriad, a bydd yr ymatebion a’r materion a godwyd yn llywio datblygiad ein his-ddeddfwriaeth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth gaffael yn cyd-fynd â’i gilydd, gan ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau datganoledig lle bo hynny'n briodol.

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Fel rhan o gynigion o dan Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r ffordd y mae gwasanaethau iechyd, a ddarperir fel rhan o'r GIG, yn cael eu caffael yng Nghymru.

Ar yr amod bod y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, bydd y rheoliadau yn y dyfodol a’r canllawiau statudol cysylltiedig yn nodi manylion gweithredol gweithdrefn gaffael newydd arfaethedig y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn gyfle pwysig i randdeiliaid roi sylwadau ar egwyddorion gweithredol y weithdrefn arfaethedig; ac a ddylai alinio â chynigion a nodir yng Ngweithdrefn Dethol Darparwyr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, neu wyro oddi wrthynt.

Mae’r ddogfen ymgynghori Caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru i’w gweld yma, ynghyd â manylion ar sut y gallwch gyflwyno’ch ymateb.

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw'r 23 Chwefror 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r ddogfen ymgynghori, e-bostiwch: DiwygioCaffaelGofalIechyd@llyw.cymru