Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Un o amcanion ein Rhaglen Lywodraethu yw gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y gall synau eu cael ar iechyd a lles pobl. Dylem boeni nid yn unig am sŵn diangen, ond hefyd am y synau y mae pobl am eu clywed.
Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys seinweddau nid yn unig mewn polisi cenedlaethol ond hefyd mewn deddfwriaeth sylfaenol erbyn hyn, drwy ein Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Wrth gyflwyno Gwobr John Connell Soundscape eleni i Lywodraeth Cymru, dywedodd Noise Abatement Society y DU fod proses y Bil wedi arwain at well ddealltwriaeth o seinwedd o fewn y Llywodraeth, yn rhoi seinwedd ar sail statudol am y tro cyntaf yn y DU ac yn fyd-eang, ac yn gosod disgwyliad ar gyfer datblygu seiliedig ar dystiolaeth, tryloyw a chynhwysol o arferion seinwedd cymhwysol yn y dyfodol. Cymeradwyodd Aelodau'r Senedd y Bil ar gam 4, gan gwblhau y broses graffu a'i daith drwy'r Senedd.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein Cynllun Sŵn a Seinwedd ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd rhwng 2023 a 2028. Mae'n disodli'r Cynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd 2018-2023 blaenorol (NSAP), a dyma fydd ein strategaeth genedlaethol statudol gyntaf ar seinweddau a gyhoeddwyd yn unol â Rhan 2 o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).
Mae'r Cynllun yn cadw ac yn mireinio negeseuon craidd yr NSAP, sy'n cynnwys:
- ein huchelgais am seinweddau priodol;
- ein hymrwymiad i ymgorffori'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i bolisi sŵn a seinwedd; a
- ein hymrwymiad i gydgysylltu camau gweithredu ynghylch sŵn ac ansawdd aer ble bynnag y bydd hynny'n gwneud synnwyr.
Mae hefyd yn nodi'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf, megis gwaith lliniaru sŵn a gwblhawyd ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiadau mewn polisi a chanllawiau cynllunio. Yn arbennig, mae hyn yn cynnwys ein gwaith tuag at gyhoeddi a gweithredu Nodyn Cyngor Technegol newydd (TAN 11) a chanllawiau dylunio seinwedd cysylltiedig.
Mae'r Cynllun yn tynnu sylw at ein mapiau sŵn diweddaraf a'n canlyniadau o'r cwestiynau sŵn a ofynnwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22. Mae’r Cynllun drafft yn ymdrin â phynciau newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pum mlynedd diwethaf, megis materion yn ymwneud â gweithio o bell, amrywiaeth glywedol, pympiau gwres ffynhonnell aer, newidiadau i derfynau cyflymder, a thân gwyllt.
Yn dilyn yr ymgynghoriad 14 wythnos ar y Cynllun drafft a gynhaliwyd gennym dros yr haf, mae testun ychwanegol wedi'i fewnosod sy'n ymdrin â materion fel digwyddiadau awyr agored, cŵn yn cyfarth a thirweddau gwarchodedig tawel. Rydym hefyd wedi dweud y byddwn:
- yn cynnwys negeseuon sŵn yn y gweithgareddau codi ymwybyddiaeth llygredd aer y byddwn yn eu cynnal o dan Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru);
- hyrwyddo gorosod mapiau sŵn gyda data gofodol ar lygredd aer, iechyd ac amddifadedd wrth i ni wella ein trefn rheoli ansawdd aer lleol; a
- gweithio gyda phartneriaid allanol i ddatblygu hyfforddiant proffesiynol i ymarferwyr ar asesu a dylunio seinwedd
Gellir dod o hyd i grynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymateb llawn Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 a'r mapiau sŵn diweddaraf a gyhoeddwyd ar MapDataCymru ac a ddangosir yn Atodiad A y Cynllun i'w hystyried ar gyfer eu mabwysiadu yn ffurfiol at ddibenion Rhan 6 Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017.
https://www.llyw.cymru/cynllun-swn-a-seinwedd-i-gymru-2023-i-2028
Dolen Allanol: Noise Abatement Society