Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

1. Beth yw dyddiad cynnal y Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr?

Er mwyn cynnal y stocrestr flynyddol yr un pryd â rhai gwledydd eraill Prydain, bydd y stocrestr yng Nghymru o hyn ymlaen yn cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr. Bydd eich stocrestr nesaf yn cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr 2024. 

2. Alla i gwblhau’r Stocrestr ar-lein?

Gallwch, fe allwch gwblhau eich Stocrestr Flynyddol ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif EIDCymru yn www.eidcymru.org. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â’r swyddfa ar 01970 636959. 

Os nad oes gennych gyfrif, dylech gofrestru am gyfrif dros yr haf. Bydd staff swyddfa EIDCymru yn fwy na hapus i’ch helpu i gofrestru am gyfrif ar-lein ac ateb eich cwestiynau. Gallwch eu ffonio ar 01970 636959 neu e-bostiwch contact@eidcymru.org

3. A ga i ddefnyddio fy nghyfrif EIDCymru at unrhyw ddiben arall?

Cewch. Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif EIDCymru ar-lein i:

  • gofnodi a derbyn symudiadau defaid ar-lein, heb orfod postio’r drwydded symud bapur atom 
  • cadarnhau’ch cofnodion ar y fferm a’u cymharu â chofnodion ar-lein EIDCymru

4. A gaiff ffurflen bapur ei hanfon ata i?

O hyn ymlaen, ni chaiff y copi caled arferol o’r stocrestr ei ddefnyddio. 

Yn y dyfodol, yr unig ffordd o anfon eich stocrestr atom fydd trwy’ch cyfrif EIDCymru ar-lein. 

Rydyn ni’n sylweddoli bod hyn yn newid mawr i’r ffordd rydych yn gyfarwydd â hi o lenwi’r stocrestr. Rydyn ni’n eich cynghori felly i gysylltu ag EIDCymru yn syth os oes gennych gwestiynau am y broses newydd. 

5. Sut mae llenwi’r Stocrestr os na fydda i’n gallu cofrestru am gyfrif EIDCymru ar-lein?

Cyn i’r stocrestr agor, bydd llythyr yn cael ei anfon at bob ceidwad sydd heb gyfrif EIDCymru ar-lein gyda dolen arno i dudalen ar wefan EIDCymru. Bydd ceidwaid yn gallu defnyddio’r ddolen i anfon eu stocrestr yn syth i EIDCymru heb orfod cofrestru am gyfrif. Os oes amgylchiadau arbennig iawn, rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu ag EIDCymru. 

6. Rwy’n ei chael hi’n anodd defnyddio systemau ar-lein.  Sut fedrwch chi fy helpu?

Gallwch ffonio EIDCymru ar 01970 636959 a gallwch ddewis o’r opsiynau i’ch helpu. Bydd y Gwasanaeth Cyswllt Ffermydd yn bresennol mewn marchnadoedd anifeiliaid a sioeau rhanbarthol ac yn hapus i’ch helpu. 

7. A fydd angen i mi roi gwybodaeth wahanol?

Na fydd, yr un wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani ag o’r blaen. Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a’r geifr sydd ar eich daliad ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Dylai’r cofnod gynnwys defaid magu, hyrddod, ŵyn gwryw, ŵyn stôr ac ŵyn wedi’u pesgi, mamogiaid/hyrddod i’w difa a defaid a geifr eraill. 

8. A fydd angen i fi gofnodi’r stocrestr flynyddol yn llyfr cofnodion fy Niadell? Mae fy llyfr diadell yn cyfeirio at 1 Ionawr, nid 1 Rhagfyr.

Rhaid ichi gofnodi nifer y defaid a’r geifr sydd ar eich daliad ar 1 Rhagfyr yn eich “Cofnod Diadell”. Mae fersiwn newydd o lyfr y ddiadell ar gael oddi wrth EIDCymru. 

9. Rwy eisoes wedi llenwi stocrestr ar 1 Ionawr 2024. A fydd angen llenwi stocrestr arall ar 1 Rhagfyr 2024?

Bydd, er mwyn i stocrestr flynyddol Cymru fod yn gyson â stocrestrau gwledydd eraill Prydain, dyddiad stocrestr Cymru fydd 1 Rhagfyr. Ni fydd angen ichi lenwi stocrestr ar 1 Ionawr. 

10. A oes rhaid i fi lenwi’r stocrestr flynyddol?

Oes. Mae gofyn o dan y gyfraith i chi lenwi Stocrestr Flynyddol o dan Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Cymru) 2015.
 

11. Allwch chi ddefnyddio’r wybodaeth a roddais yn arolwg ym mis Mehefin?

Na. Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol yn y stocrestr hon yn fanylach ar lefel y daliad nag arolwg mis Mehefin.

12. Pam mae angen llenwi’r stocrestr felly?

Mae gofyn o dan y gyfraith i chi lenwi Stocrestr Flynyddol o dan Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Cymru) 2015.

13. Ar 1 Rhagfyr, roedd y defaid/geifr yn cael eu gaeafu (ar dac) ar ddaliad arall. A ddylwn i gofnodi’r anifeiliaid ar fy stocrestr?

Dylech, os mai chi yw’r perchennog ond bod yr anifeiliaid i ffwrdd yn gaeafu, ar dac, rhaid cofnodi’r anifeiliaid hyn ar eich stocrestr chi. 

Fodd bynnag, os oes gennych anifeiliaid ar eich tir ond nad chi yw’r perchennog (h.y. mae’r anifeiliaid “ar dac” ar eich tir chi), cyfrifoldeb y perchennog yw cofnodi’r anifeiliaid ar eu stocrestr flynyddol hwy.
 

14. Oes rhaid i mi restru pob rhif daliad lle rwy’n cadw defaid a geifr?

Oes, rhaid i chi restru pob rhif daliad lle rydych chi’n cadw eich defaid a/neu eich geifr ar 1 Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys tir comin a rhifau daliadau sydd wedi’u rhoi at ddibenion symud defaid yn unig.

15. Rwy’n defnyddio tir comin, sut mae dod o hyd i rif y daliad (CPH)?

Gellir cael rhif daliad y tir comin drwy ffonio’r llinell gymorth ar 01970 636959.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch cyn cysylltu a nhw:

  • enw’r comin
  • rhif y tir comin

Rhaid i chi gofio cynnwys unrhyw ddefaid rydych chi’n berchen arnynt neu’n geidwad cofrestredig arnynt, sy’n pori tir comin ar 1 Rhagfyr.

Noder: Dyma nifer y defaid sy’n perthyn i chi sydd ar neu a oedd ar y comin ar 1 Rhagfyr, nid nifer y defaid sydd wedi’u cofrestru i bori’r comin.

16. Nid wyf yn cadw defaid na geifr. Oes angen i mi lenwi stocrestr?

Oes. Rydych wedi cael copi o’r stocrestr am fod eich CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid/geifr yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Os nad ydych chi’n cadw defaid neu eifr mwyach, rhaid i chi ddadgofrestru fel ceidwad defaid drwy gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 0300 3038268.

17. Rwyf wedi dadgofrestru fy hun fel ceidwad ond rwyf newydd dderbyn y stocrestr. A ddylwn i ei llenwi?

Dylech. Rydych wedi cael copi o’r stocrestr am fod eich CPH wedi cael ei ddefnyddio i gofnodi symudiadau defaid/geifr yn y flwyddyn ddiwethaf. Gallai’r symudiadau hynny fod wedi’u gwneud cyn ichi ddadgofrestru. 

18. Rwy’n cadw fy nefaid/geifr fel anifeiliaid anwes. Oes angen i mi lenwi’r stocrestr?

Oes, mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob ceidwad defaid a geifr, ac mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi lenwi a dychwelyd y stocrestr. Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi dilynol.

19. Nid wyf yn cadw defaid na geifr, ond rwy’n cadw lamas a/neu alpacas. Sut mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arna i?

Dim ond i ddefaid a geifr y mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol (rhywogaethau defaid a geifr). Nid yw lamas/alpacas a da byw eraill yn dod o dan y ddeddfwriaeth hon.