Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n falch o lansio'r ymgynghoriad hwn heddiw yn gofyn am farn y rhai sy'n gweithio yn y sector gwasanaethau gofal plant a gwaith chwarae, neu'n eu defnyddio, ar y cynnig i gofrestru'r sector yn broffesiynol.
Mae gan ofal plant a gwaith chwarae ran bwysig i'w chwarae mewn rhoi dechrau da mewn bywyd i blant, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a mynd i'r afael â thlodi. Mae'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol drwy gefnogi datblygiad ein plant a'i gwneud yn bosibl i rieni weithio a hyfforddi.
Mae Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer datblygu gweithlu medrus a chymwys iawn i'w gwneud yn bosibl i gynnig darpariaeth o'r radd flaenaf fel bo plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Uchelgais hirdymor y cynllun yw archwilio cyflwyno cofrestru proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen ag ymchwilio i'r uchelgais hwn, gan weithio gyda gweithgor cofrestru proffesiynol.[1] Mae'r grŵp hwn, sy'n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, wedi datblygu egwyddorion drafft ar gyfer cofrestr o'r gweithlu a rhain sy'n sail i'r ymgynghoriad.
Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i'r rhai sy'n rheoli lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, yn gweithio ynddynt neu'n eu defnyddio, ledled Cymru, ddweud eu barn wrthym ynghylch yr egwyddor o gofrestru proffesiynol ac a ydynt yn teimlo y byddai cofrestr o'r gweithlu o fudd i'r sector gofal plant a gwaith chwarae nawr neu yn y dyfodol.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2024. Rwy'n gwahodd pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i ymateb a rhoi eu barn.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd crynodeb ohonynt yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2024. Os penderfynir y dylid datblygu cofrestr broffesiynol o'r gweithlu, bydd cyfle i'r sector gofal plant a gwaith chwarae lunio manylion y gofrestr honno drwy ymgynghoriad pellach.
[1] Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys Cwlwm, Cyngor y Gweithlu Addysg, Awdurdodau Lleol, Chwarae Cymru, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, Gofal Cymdeithasol Cymru, undebau Unsain a Llais a CLlLC.