Araith gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Bore da. Mae’n wych gweld cymaint o bobl yma heddiw, a chymaint o ysgolion ac uwch arweinwyr addysg yn cael eu cynrychioli.
Diolch i Chantelle ac Anna am gynnal y digwyddiad hwn ar y cyd. Mae’r ddwy ohonoch chi’n gwneud cyfraniad enfawr i addysg yng Nghymru.
Er y bu llai o gyfleoedd i ddod ynghyd yn y cnawd dros y blynyddoedd diwethaf, un o fanteision gwirioneddol bod yn genedl lai yw gallu cwrdd â’n gilydd fel hyn: i rannu syniadau, i rannu ein gobeithion ar gyfer y dyfodol, ac – yn naturiol – i rannu ambell gŵyn!
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain.
Roedd yr anturiaethwr Ernest Shackleton, a arweiniodd sawl taith i Antarctica, yn honni mai unigrwydd yw’r pris y mae arweinwyr yn ei dalu. Mae Shackleton wedi dod yn dipyn o esiampl o arweinyddiaeth o dan amgylchiadau eithafol. Ei ffordd o roi pobl yn gyntaf, a’i ddawn i greu trefn o anhrefn. Roedd ganddo hyd yn oed long o’r enw ‘Endurance’, felly mae’n bosib bod hynny’n taro tant gyda rhai yn barod.
Fel arweinwyr, yn ystod ac ar ôl y pandemig, rydych chi wedi gorfod llywio drwy ddyfroedd digon tymhestlog, a - heb i mi orwneud trosiad yr anturiaethwr - wedi gorfod gwneud hynny weithiau heb fap i ddangos y ffordd. Gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun cyson gyfnewidiol, lle mae anghenion disgyblion, canfyddiadau rhieni, a disgwyliadau staff - a’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl gan staff - yn newid, ac weithiau’n creu her. Dwi’n siŵr bod hynny’n gallu bod yn unig ar brydiau, felly gobeithio bod heddiw yn gyfle i rannu rhywfaint o’r baich hwnnw, yn ogystal â rhannu syniadau, gydag arweinwyr eraill sy’n wynebu galwadau tebyg.
Fodd bynnag, gadewch i ni oedi am ennyd i ystyried beth sydd wedi cael ei gyflawni yn erbyn y cefndir heriol hwnnw.
Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi dechrau cyflwyno’r cwricwlwm newydd, ym mhob ysgol erbyn hyn. Rydyn ni hanner ffordd drwy weithredu rhaglen ddiwygio enfawr i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol, paratoi ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau, dull newydd o arolygu, dull newydd o hunanwella, ac rydyn ni’n symud ymlaen yn dda gyda’n cynlluniau Cymraeg mewn addysg. Mae’r rhestr yn un faith.
Wrth ymweld ag ysgolion a cholegau, ac wrth siarad â phrifathrawon a phenaethiaid wyneb yn wyneb mewn trafodaethau grŵp di-flewyn-ar-dafod, er gwaetha’r pwysau o reoli newid sy’n cyffwrdd â bron pob agwedd ar fywyd ysgol, dwi’n gweld brwdfrydedd ac agweddau rhyfeddol o bositif am y daith ddiwygio rydyn ni arni gyda’n gilydd. Dwi’n gweld lefelau uchel o greadigrwydd wrth ymateb i rai o’r heriau y soniais amdanyn nhw yn gynharach.
Dyna un o’r pethau sydd wedi fy nharo ers dod yn Weinidog Addysg: ar gyfer pob cwestiwn rydyn ni’n ceisio dod o hyd i ateb iddo, mae yna ysgol yn rhywle sydd wedi dod o hyd i ateb, neu o leiaf ran sylweddol o’r ateb. Dyna’r creadigrwydd a’r arweinyddiaeth dwi’n sôn amdano, ac yn aml iawn, y dasg yw nodi hynny, a sicrhau bod ysgolion mewn mannau eraill yn gallu dysgu, addasu, a datblygu ar hynny.
Hoffwn ddiolch i chi am eich ymrwymiad parhaus i genhadaeth ein cenedl yng Nghymru, am yr egni rydych chi’n ei gynnig i’r gwaith ac am eich ymroddiad i addysgu a chefnogi ein dysgwyr.
Rydych chi’n gwneud hynny ar adeg pan mae ymdeimlad fod ysgolion yn newid nid yn unig o ganlyniad i bolisi bwriadol. Maen nhw’n newid mewn gwahanol ffyrdd o ganlyniad i ffactorau y tu hwnt i furiau’r ysgol.
Yr amlycaf o hyd, dwi’n credu, yw effeithiau parhaus y pandemig. Dydyn nhw ddim wedi diflannu, mae hynny’n sicr.
Mae ein plant ifanc iawn wedi colli cyfnodau datblygu allweddol. Collwyd gormod o amser ysgol gan blant a phobl ifanc o bob oed. Mae rhai plant, ac efallai rhai rhieni hefyd, wedi datblygu agwedd wahanol tuag at yr ysgol, disgwyliadau gwahanol sydd wedi’u lliwio gan y profiad hwnnw, galluoedd gwahanol y mae’r profiad wedi effeithio arnyn nhw. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn brofiad sydd, unwaith eto, wedi cael mwy o effaith ar y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy’n byw mewn tlodi.
Fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at anghydraddoldebau sy’n dal i fodoli mewn cymdeithas, ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu hynny ymhellach.
Fel llywodraeth, roedden ni’n benderfynol o ganolbwyntio’r rhan fwyaf o’n cefnogaeth ar y grwpiau hynny sydd wedi dioddef waethaf. Buddsoddwyd £500 miliwn gennym yn ein rhaglen adnewyddu a diwygio, ac rydyn ni’n gwybod fod yr arian wedi ei roi ar waith yn effeithiol iawn gan ysgolion a cholegau.
Fodd bynnag, mae’r her yn ehangach na chyfres o ymyriadau ar lefel ysgol a choleg. Wrth ddarllen yn y cyfryngau am effeithiau parhaus Covid ar addysg, byddai’n hawdd tybio bod baich datrys unrhyw broblem yn disgyn ar ysgwyddau ysgolion neu golegau a neb arall. Ond dwi’n credu bod hyn yn gorsymleiddio’r mater. Dwi’n cydnabod y bydd angen ymdrech gyson, gydweithredol a chenedlaethol i adfer pethau. Mae ysgolion a cholegau wrth galon hyn, ond dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y mae mynd i’r afael â hyn.
Efallai mai’r her o gynyddu presenoldeb yw un o’r enghreifftiau amlycaf. Mae angen i bob plentyn fod yn yr ysgol. Dyna sydd orau er mwyn ei addysg, dyna hefyd sydd orau er mewn ei les.
Rydyn ni’n gwybod bod ymgysylltu mwy â theuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar wella presenoldeb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ein buddsoddiad ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd eleni i dros £6.5 miliwn.
Rydyn ni wedi buddsoddi mwy yn y gwasanaeth lles addysg eleni, er mwyn creu capasiti ychwanegol. Gan helpu’r gwasanaeth i gynnig cymorth cynharach, cyn i drafferthion waethygu a chynnig cymorth mwy dwys i ddysgwyr sydd â lefelau uchel o absenoldeb.
Fodd bynnag, os ydyn ni am fynd at wraidd y materion sy’n wynebu ein pobl ifanc, yna mae angen ymateb amlasiantaethol. Dyma’r meddylfryd y tu ôl i’r tasglu cenedlaethol. Dwi wedi ceisio dwyn ynghyd brofiad o fyd addysg, gwaith ieuenctid, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, rhieni a thu hwnt. Pob un ohonynt â’u perthynas eu hunain â theuluoedd, ac mae angen i ni bwyso ar y rhain er mwyn deall yn well beth sydd wrth wraidd agweddau ar ddiffyg presenoldeb – ac yn bwysicaf oll, mae angen i ni nodi beth sy’n gweithio ble, a pha gamau ymarferol eraill sy’n bosibl fel y gallwn ymgysylltu â phobl ifanc o’r newydd a’u cael nhw’n ôl i’r dosbarth.
Wrth ymateb i’r pwysau ynghylch presenoldeb, lles, ymddygiad ac agweddau parhaus eraill ar waddol Covid, rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor gwbl hanfodol yw hi ein bod yn cynnal disgwyliadau uchel a chyson am ein dysgwyr, pob un o’n dysgwyr.
Dwi’n gwybod eich bod chi i gyd yn rhannu fy mhryderon am ‘golli’r hyn a ddysgwyd’, sy’n rhywbeth y gwyddom sydd wedi digwydd ers y pandemig. Diolch i’ch gwaith da chi, roedd Cymru wedi gwneud cynnydd i’w groesawu o ran llythrennedd a rhifedd dros y blynyddoedd diwethaf, gydag arwyddion, yn sicr mewn rhai grwpiau oedran, fod y bwlch cyrhaeddiad yn culhau, ond rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi amharu ar hynny.
Mae adroddiadau Estyn wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd. Mae lefelau da o lythrennedd a rhifedd yn hanfodol, wrth gwrs.
Dyna pam eu bod wedi’u gwreiddio yn y Cwricwlwm i Gymru fel sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol. Y cwricwlwm, gyda’i gynnig eang, ei ddisgwyliad o safonau uchel, yw’r ffordd orau o ennyn diddordeb dysgwyr. Dyma’r ffordd orau i’w hannog i fod yn uchelgeisiol ac i wireddu eu dyheadau.
Mae llythrennedd a rhifedd da yn anhepgor i’n pobl ifanc fel y gallan nhw fanteisio ar gyfoeth llawn y Cwricwlwm i Gymru newydd. Maen nhw’n gwbl allweddol i gyfleoedd y tu hwnt i’r ysgol – i gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg bellach neu addysg uwch.
Mae’n rhaid i ni sicrhau o leiaf hynny, felly mae’n amlwg bod angen ffocws cenedlaethol parhaus ar lythrennedd a rhifedd.
Mae sicrhau bod pawb yn meddu ar y sgiliau darllen sydd eu hangen arnyn nhw i wireddu eu potensial yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Cyflawni hynny yw nod ein pecyn cymorth darllen a llafaredd, sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr o bob cwr o Gymru. Rydyn ni wrthi’n ei ddiweddaru ar hyn o bryd i sicrhau eglurder ynghylch addysgu ffoneg yn systematig ac yn gyson, yn unol â’r bwriad a nodwyd yn ein map trywydd “Safonau a dyheadau uchel i bawb”.
Ochr yn ochr â hyn, mae hyrwyddo meddylfryd cadarnhaol o ran mathemateg yn hanfodol. Dwi’n gwybod eich bod chi i gyd yn cytuno nad oes angen i ni ymddiheuro am fynnu disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddwn yn cyhoeddi cynllun Mathemateg a Rhifedd. Bydd hwn, ymhlith pethau eraill, yn cefnogi athrawon gyda chynnig cenedlaethol ar ddysgu proffesiynol ar gyfer sgiliau mathemategol ar draws y cwricwlwm newydd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ystadegol ar batrymau cenedlaethol cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd i lywio ein hymdrechion ar draws ein system addysg, gan ddefnyddio data ar lefel genedlaethol o asesiadau personol. Mae hyn yn ymwneud â thueddiadau ledled Cymru ar draws ein system ysgolion, felly ni fydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi fesul ysgol, awdurdod lleol na rhanbarth. Dwi eisiau gwneud yn siŵr fod asesiadau personol yn cael eu defnyddio i’r perwyl hwnnw’n unig, yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd – felly bydd hyn yn ymwneud â bwrw golwg ddiduedd ar y darlun cenedlaethol.
Rydyn ni’n sgwrsio heddiw wrth i ni dynnu at derfyn tymor yr hydref, tymor sydd wedi teimlo’n un hir i chi, dwi’n siŵr. Wrth siarad â phenaethiaid ac athrawon ar ymweliadau yn ystod y tymor hwn, dwi bob amser yn ymwybodol bod pwysau llwyth gwaith ac effeithiau cronnol y swydd yn teimlo’n arbennig o ddwys. Gan adeiladu ar y trafodaethau a gafwyd yn gynharach eleni yn ystod y gweithredu diwydiannol, roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n arbennig o bwysig ein bod ni’n gallu gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael â’r llwyth gwaith. Dwi’n hynod falch o fod wedi gallu rhoi diweddariad cadarnhaol yr wythnos diwethaf ar y camau go iawn ac amlwg rydyn ni wedi gallu eu cymryd i leihau pwysau llwyth gwaith. Dwi eisiau i chi wybod mai dyma’r cam cyntaf yn y gwaith hwnnw, ac y byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio yr un mor galed ar hyn yn ystod y misoedd i ddod.
Ac o sôn am dymor hir yr hydref, hoffwn siarad â chi am ein cynlluniau i edrych eto ar ffurf y flwyddyn ysgol.
Pan ddechreuais i yn y swydd hon, fe wnes i ddweud y byddwn i’n gwneud fy ngorau i sicrhau y byddai pob penderfyniad y byddwn i’n ei wneud yn cael ei dywys gan anghenion dysgwyr a’u lles, gyda ffocws ar gulhau anghydraddoldebau addysgol. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni fod yn agored i ffyrdd newydd o wneud pethau, a pheidio â bod ofn gwneud newidiadau.
Dwi eisoes wedi siarad heddiw am y nifer fawr o ffyrdd y mae ein hysgolion, a chithau fel arweinwyr ysgolion, wedi cydnabod, cofleidio a sbarduno rhai o’r newidiadau hynny.
Roedd ein maniffesto, a’n cytundeb gyda Phlaid Cymru, yn ein hymrwymo i edrych ar flwyddyn galendr yr ysgol ac ystyried ai dyma’r ffordd orau o wneud pethau – ar gyfer disgyblion, ar gyfer staff, ar gyfer pawb.
Rydyn ni’n edrych ar effaith gwahanol opsiynau mewn perthynas ag ailddosbarthu cyfnodau gwyliau a hyd tymhorau.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall blinder a lludded fod yn waeth yn ystod tymhorau hirach, ac y gall cyflwyno’r cwricwlwm mewn ffordd gynhwysfawr fod yn heriol os yw hyd hanner tymor yn fyr iawn.
Yn bwysig iawn, mae llawer ohonoch wedi sôn eich bod yn credu mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy’n dioddef fwyaf o golli’r hyn a ddysgwyd dros yr hafau hir.
Pa bynnag newidiadau sy’n cael eu cynnig, bydd nifer y diwrnodau gwyliau a diwrnodau addysgu yn aros yr un fath.
Byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan iawn, gyda chynigion gwahanol ar sut i ail-lunio’r flwyddyn ysgol i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn, a dwi’n eich annog i gyd i leisio eich barn pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Cyn gorffen, dwi eisiau mynd i’r afael â rhywbeth sy’n cael lle amlwg ym meddyliau pob un ohonom ar hyn o bryd – cyllidebau. Mae lefelau uchel o chwyddiant, ynghyd â blynyddoedd di-ben-draw o gyni dan Lywodraeth y DU, wedi golygu ein bod ni i gyd yn gweithio gyda chyllidebau llai. Dydy hynny ddim yn hawdd.
Rydych chi’n amlwg wedi gweld ein cyhoeddiadau cyllideb yn ystod y flwyddyn yn nodi sut y bu’n rhaid dod o hyd i arian ar draws y llywodraeth.
Gallaf eich sicrhau, drwy gydol y broses, fy mod i wedi gwneud popeth posibl i sicrhau ein bod yn diogelu gwasanaethau rheng flaen.
Mae’r cyllid sydd wedi’i ryddhau o’r gyllideb sydd ar gael i mi wedi dod o danwariant ynghlwm wrth bolisïau sy’n cael eu harwain gan alw, fel cymorth cynhaliaeth myfyrwyr prifysgol. Llwyddwyd i osgoi gwneud toriadau uniongyrchol i raglenni ysgolion neu gyllid ysgolion a cholegau, er y byddwn fel arfer wedi bwriadu defnyddio’r math hwnnw o danwariant i ryddhau rhagor o arian i ysgolion a cholegau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae’n rhaid i mi ddweud y bydd angen gwneud penderfyniadau anoddach ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Fel y gwyddoch, mae’r mwyafrif helaeth o gyllidebau ysgolion yn dod gan awdurdodau lleol – felly fy mlaenoriaeth bennaf yw diogelu eu cyllidebau nhw i ddiogelu eich cyllidebau chi.
Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i’ch cefnogi chi, drwy benderfyniadau cyllidebol, drwy raglenni gwella a thrwy gydweithio.
Wrth weithio gyda phartneriaid yn yr undebau, rydyn ni’n gwneud cynnydd da o ran lleihau’r llwyth gwaith. Rydyn ni’n ceisio diwygio’r ffordd rydyn ni’n cyhoeddi grantiau, symleiddio’r system, symleiddio prosesau adrodd a darparu mwy o hyblygrwydd. Rydyn ni’n cynnal adolygiad o gyfeiriad, rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yn y dyfodol – y cyfan er mwyn gallu cefnogi eich ysgolion chi i gefnogi eich disgyblion chi yn well.
Dwi wrth fy modd hefyd y bydd Simon Pirotte, Prif Swyddog Gweithredol newydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ar banel y prynhawn yma. O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd y comisiwn yn gyfrifol am ariannu, rheoleiddio a chynllunio addysg ôl-16 gan gynnwys y chweched dosbarth, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu gwneud y dewis cywir ar gyfer eu dysgu ble bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru. Agwedd sylfaenol ar ein diwygiadau i addysg ôl-16 yw’r nod o annog cydweithredu ar draws y sector i gyflawni ar gyfer ein dysgwyr.
Drwy’r cydweithredu hwnnw ym mhob rhan o’n system addysg, a thrwy weithio gyda’n gilydd – dyna sut y bydd pob un ohonon ni sydd yma heddiw yn gallu mynd ati orau i gefnogi ein pobl ifanc, fel y gallwn ni greu’r system addysg â safonau a dyheadau uchel i bawb yr ydyn ni i gyd wedi ymrwymo iddi.
Diolch yn fawr.